Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 2199 (Cy.219)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Diwygio Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) (Rhif 2) 2002

Wedi'i wneud

21 Awst 2002

Yn dod i rym

1 Hydref 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan adran 126(3) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977(1), adran 5(1) a (6) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990(2) a phob pwer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(3) wedi cwblhau'r ymgynghori a ragnodwyd o dan adran 5(2) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990(4)), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a chychwyn

1.—(1sEnw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Diwygio Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) (Rhif 2) 2002 a daw i rym ar 1 Hydref 2002.

(2Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y prif Orchymyn” (“the principal Order”) yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 1993 fel y'i diwygiwyd (5).

Diwygio erthygl 3 o'r prif Orchymyn

2.  Rhaid diwygio'r prif Orchymyn drwy fewnosod y canlynol ar ôl erthygl 3(2):—

(d)to manage and provide to or in relation to the health service in Wales a range of public health, health protection and health advisory services, child protection services, microbiological laboratory services and services relating to the surveillance, prevention and control of communicable diseases..

Diwygio erthygl 4 o'r prif Orchymyn

3.  Yn erthygl 4 o'r prif Orchymyn (Cyfarwyddwyr yr ymddiriedolaeth), am “4 executive directors” amnewidier “5 executive directors.”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6)

Jane Davidson

Y Gweinidog dros Addysg a Dysgu Gydol Oes

21 Awst 2002

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 1993 (y prif Orchymyn) ymhellach er mwyn diwygio ei swyddogaethau a chynyddu nifer ei gyfarwyddwyr anweithredol.

Mae'r Gorchymyn yn estyn swyddogaethau'r ymddiriedolaeth i gynnwys y swyddogaeth o reoli a darparu ystod o wasanaethau iechyd y cyhoedd, gwasanaethau amddiffyn iechyd a gwasanaethau ymgynghorol, gwasanaethau amddiffyn plant, gwasanaethau labordy microbiolegol a gwasanaethau sy'n ymwneud â chadw golwg ar afiechydon trosglyddadwy, eu hatal a'u rheoli.

Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio'r prif Orchymyn ymhellach drwy gynyddu nifer y cyfarwyddwyr anweithredol o 4 i 5.

(1)

1977 p.49; diwygiwyd adran 126(3) gan adran 65(2) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p. 19).

(3)

Trosglwyddwyd swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru o dan a.126(3) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 ac a.5(1) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(4)

Amnewidiwyd adran 5(2) gan baragraff 69 o Atodlen 1 i Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1996 (p. 17).