Search Legislation

Gorchymyn Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (Cychwyn) (Cymru) 2002

 Help about what version

What Version

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 2532 (Cy.248)(C.81)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Gorchymyn Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (Cychwyn) (Cymru) 2002

Wedi'i wneud

7 Hydref 2002

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 38(1), 42(3) a (4)(c), (d) ac (e)(iii) a (iv) o Ddeddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002(1) drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:—

Enwi, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 (Cychwyn) (Cymru) 2002.

(2Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf ”(“the Act”) yw Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002.

(3Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.

Y diwrnod penodedig

2.  10 Hydref 2002 yw'r diwrnod penodedig i ddarpariaethau'r Ddeddf a bennir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn ddod i rym.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)

Jane E. Hutt

Y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

7 Hydref 2002

Erthygl 2

YR ATODLENDARPARIAETHAU'R DDEDDF SY'N DOD I RYM AR 10 HYDREF 2002

Darpariaethau'r DdeddfY Pwnc
Adran 6Byrddau Iechyd Lleol
Adran 9Cyllido Byrddau Iechyd Lleol
Adran 10Gwariant cyrff GIG
Adran 23Cydweithio â'r gwasanaeth carchardai
Adran 24Strategaethau Iechyd a Llesiant yng Nghymru
Adran 37 i'r graddau y mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 8 ac Atodlen 9 a bennir isod:—Mân ddiwygiadau canlyniadol a diddymiadau

Yn Atodlen 8—

Paragraff 1;

Paragraff 2;

Paragraff 3;

Paragraff 4(1),(2)(b) ac (c);

Paragraff 8;

Paragraff 9;

Paragraff 10;

Paragraff 11;

Paragraff 18;

Paragraff 19;

Paragraff 20;

Paragraff 21;

Paragraff 22;

Paragraff 23;

Paragraff 24;

Paragraff 25;

Paragraff 26;

Paragraff 27;

Paragraff 30;

Paragraff 31;

Paragraff 32;

Paragraff 33;

Paragraff 34;

Paragraff 36;

Paragraff 37.

Yn Atodlen 9, i'r graddau y mae'n ymwneud â Chymru, diddymu:—

Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (C.49):

Yn adran 22(1A), y gair “or” ar ddiwedd paragraff (c); adran 28(A)(1), y gair “and” ar ddiwedd paragraff (a); adran 29B(3), y gair “or” ar ddiwedd paragraff (b); yn adran 33(1A)(b), y geiriau “for areas in Wales”; yn adran 44(2), y geiriau “with the approval of the Health Authority”; adran 51(3), y gair (“and”) ar ddiwedd paragraff (bb); adran 97(6)(bb) ac (c) ac (8); adran 125, y gair “and” ar ddiwedd paragraff (bb); adran 126(4A), y gair “or” ar ddiwedd paragraff (b) ac yn Atodlen 12A, ym mharagraff 4(2) y gair “or” ar ddiwedd paragraff (a), ym mharagraff 5(1) y gair “and” ar ddiwedd paragraff (a), ym mharagraff 5(2) y gair “or” ar ddiwedd paragraff (a) ac ym mharagraff 7(3) “or Primary Care Trust”.

Deddf Comisiynwyr y Gwasanaeth Iechyd 1993 (C.46):

Yn adran 2, yn is-adran (2)(a), y geiriau “whose areas are in Wales”.

Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (p.38):

Yn Atodlen 5, ym mharagraff 20, y geiriau “for an area in, or consisting of, Wales” ac yn Atodlen 17 ym mharagraff 12, y geiriau “for an area in, or consisting of, Wales”.

Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (p.49):

Yn adran 97D(1) (b), y geiriau “apart from subsection (5A)”.

Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19):

Yn adran 12(4), y geiriau ar ôl paragraff (b).

Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (p.19):

Yn atodlen 10, paragraff 11(4).

Deddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p. 17):

Adran 1 ac yn Atodlen 1, paragraffau 32(b), 53 a 107(12)(b).

Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gofal Sylfaenol) 1997 (p.46):

Yn Atodlen 2, paragraffau 71(3), 73 a 75.

Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (p. 38):

Adran 148.

Deddf Iechyd 1999 (p. 8):

Yn Atodlen 4, paragraffau 5, 31(2) a 35.

Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol 2001 (p.15):

Adrannau 1(4) a (5), 3(3) (4) a 43(5) ac yn Atodlen 5, paragraff 5(12)(b).

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym ddarpariaethau penodol yng Ngorchymyn Deddf Diwygio'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Phroffesiynau Gofal Iechyd 2002 mewn perthynas â Chymru.

Mae'r Gorchymyn yn darparu ar gyfer cychwyn darpariaethau sy'n gwneud y canlynol:—

(a).galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i sefydlu Byrddau Iechyd Lleol ac i roi swyddogaethau i'r Byrddau a fydd newydd eu sefydlu (adran 6);

(b).sefydlu mecanwaith ar gyfer cyllido Byrddau Iechyd Lleol a gosod dyletswyddau ariannol penodol mewn perthynas â therfynau gwariant ac adnoddau ar y Byrddau (adran 9);

(c).galluogi'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau mewn perthynas â statws, cyfansoddiad, aelodaeth a swyddogaethau atodol Byrddau Iechyd Lleol (Atodlen 4) ac yn gwneud newidiadau technegol a chanlyniadol i ddeddfwriaeth sy'n bodoli eisoes (Atodlen 5);

(ch).cadw'r trefniadau presennol ar gyfer cyllido cyrff GIG yng Nghymru nes y bydd Awdurdodau Iechyd Cymru yn cael eu diddymu, yn darparu ar gyfer diffinio gwariant Rhan 1 a Rhan 2 Byrddau Iechyd Lleol i adlewyrchu'r hyn sy'n gymwysadwy i'r Awdurdodau Iechyd a chaniatáu dosrannu'r gydnabyddiaeth y gellir ei phriodoli i gostau cyffuriau rhwng Byrddau Iechyd Lleol (adran 10);

(d).gofyn am gydweithio rhwng cyrff GIG a'r gwasanaeth carchardai gyda golwg ar sicrhau a chynnal iechyd carcharorion (adran 23);

(dd).gosod dyletswydd ar bob awdurdod lleol a phob Bwrdd Iechyd Lleol y mae unrhyw ran o'u tir o fewn ardal yr awdurdod lleol i lunio a gweithredu ar y cyd strategaeth ar gyfer iechyd a llesiant aelodau o'r cyhoedd yn ardal yr awdurdod lleol (adran 24);

(e).cychwyn mân ddiwygiadau a diddymiadau canyniadol (adran 37).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources