2002 Rhif 3181 (Cy.297)

PRIFFYRDD, CYMRU

Rheoliadau Gweithfeydd Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 75 a 104(1) o Ddeddf Ffyrdd Newydd a Gweithfeydd Stryd 19911, ac sy'n arferadwy gan y Cynulliad Cenedlaethol mewn perthynas â Chymru2, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gweithfeydd Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) (Cymru) 2002 ac maent yn dod i rym ar 1 Ionawr 2003.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Cynnydd yn y ffi archwilio2

Yn rheoliad 3(1) o Reoliadau Gweithfeydd Stryd (Ffioedd Archwilio) (Diwygio) 19923 amnewidir am y ffigur “£15.50” yno y ffigur “£20”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cynnydd o £15.50 i £20 yn y ffi sy'n daladwy gan ymgymerwyr am archwiliadau o'u gwaith gan awdurdodau lleol yng Nghymru o dan reoliad 3(1) o Reoliadau Gweithfeydd Stryd (Ffioedd Archwilio) 1992 (O.S.1992/1688).