Offerynnau Statudol Cymru
2002 Rhif 330 (Cy.43)
BWYD, CYMRU
Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2002
Wedi'u gwneud
13 Chwefror 2002
Yn dod i rym
1 Mawrth 2002
Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1)(a) ac (e), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(), a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi, ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar ôl rhoi sylw, yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2002, deuant i rym ar 1 Mawrth 2002 a byddant yn gymwys i Gymru yn unig.
(2) Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995().
Diwygio'r prif Reoliadau
2.—(1) Caiff y prif Reoliadau eu diwygio, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, yn unol â pharagraffau (2) a (3) isod.
(2) Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli)—
(a)yn y diffiniad o “Directive 95/31/EC” caiff y geiriau “and by Directive 2001/52/EC” eu hychwanegu ar y diwedd(); a
(b)yn lle'r diffiniad “permitted sweetener” rhoddir y diffiniad canlynol—
(3) Yn Atodlen 1 (melysyddion a ganiateir a'r bwydydd y gellir eu defnyddio arnynt neu ynddynt), caiff y darpariaethau a bennir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn eu hychwanegu ar ddiwedd colofnau 2 i 4.
Diwygiadau canlyniadol
3.—(1) Bydd paragraff (2) o reoliad 4 (diwygiadau canlyniadol) o Reoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2001() yn peidio â bod yn effeithiol.
(2) Yn y darpariaethau a bennir ym mharagraff (3) isod, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, rhaid dehongli cyfeiriadau at y prif Reoliadau fel cyfeiriadau at y Rheoliadau hynny fel y'u diwygiwyd hyd at a chan gynnwys y diwygiadau a weithredir gan y Rheoliadau hyn.
(3) Dyma'r darpariaethau y mae paraagraff (2) uchod yn cyfeirio atynt—
(a)y diffiniad o “permitted sweetener” ym mharagraff (1) o reoliad 2 (interpretation) o Reoliadau Jam a Chynnyrch Tebyg 1981();
(b)y diffiniad o “additive” ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Cynhyrchion Cig a Chynhyrchion Pysgod y gellir eu Taenu 1984());
(c)y diffiniad o “sweetener” yn Rhan II o Atodlen 1 (categorïau o ychwanegion bwyd) i Reoliadau Labelu Ychwanegion Bwyd 1992();
(ch)y diffiniad o “sweetener” ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995(); a
(d)yn Rheoliadau Labelu Bwyd 1996()—
(i)paragraff (1) o reoliad 34 (bwydydd sy'n cynnwys melysyddion, siwgr ychwanegol a melysyddion, aspartame neu polyols); a
(ii)yn Atodlen 8 (disgrifiadau camarweiniol) Rhan I (cyffredinol), yr amod yng ngholofn 2 gyferbyn â'r disgrifiad “ice cream” yng ngholofn 1.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998())
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
13 Chwefror 2002
Rheoliad 2(3)
YR ATODLENDARPARIAETHAU A YCHWANEGWYD I GOLOFNAU 2 I 4 O ATODLEN 1 I'R PRIF REOLIADAU
Sucralose() | Non-alcoholic | |
| Water-based flavoured drinks, energy-reduced or with no added sugar | 300 mg/1 |
| Milk-and milk-derivative-based or fruit-juice-based drinks, energy-reduced or with no added sugar | 300 mg/1 |
| Desserts and similar products | |
| Water-based flavoured desserts, energy-reduced or with no added sugar | 400 mg/kg |
| Milk-and milk-derivative-based preparations, energy-reduced or with no added sugar | 400 mg/kg |
| Fruit-and vegetable-based desserts, energy-reduced or with no added sugar | 400 mg/kg |
| Egg-based desserts, energy-reduced or with no added sugar | 400 mg/kg |
| Cereal-based desserts, energy-reduced or with no added sugar | 400 mg/kg |
| Breakfast cereals with a fibre content of more than 15%, and containing at least 20% bran, energy-reduced or with no added sugar | 400 mg/kg |
| Fat-based desserts, energy-reduced or with no added sugar | 400 mg/kg |
| Confectionery | |
| Confectionery with no added sugar | 1000 mg/kg |
| Breath-freshening micro-sweets, with no added sugar | 2400 mg/kg |
| Tablet-form confectionery, energy-reduced | 200 mg/kg |
| Cocoa-or dried-fruit-based confectionery, energy-reduced or with no added sugar | 800 mg/kg |
| Starch-based confectionery, energy-reduced or with no added sugar | 1000 mg/kg |
| Chewing gum with no added sugar | 3000 mg/kg |
| Strongly flavoured freshening throat pastilles with no added sugar | 1000 mg/kg |
| Miscellaneous | |
| “Snacks”: certain flavours of ready to eat, prepacked, dry, savoury starch products and coated nuts | 400mg/kg |
| Cornets and wafers, for ice-cream, with no added sugar | 800mg/kg |
| Essoblaten | 800mg/kg |
| Cocoa-, milk-, dried-fruit- or fat-based sandwich spreads, engery- reduced or with no added sugar | 400mg/kg |
| Drinks consisting of a mixture of a non-alcoholic drink and beer, cider, perry, spirits or wine | 250mg/l |
| Cider and perry | 250mg/l |
| Alcohol-free beer or with an alcohol content not exceeding 1.2% vol | 250mg/l |
| “Bière de table/Tafelbier/Table beer” (original wort content less than 6%) except for “Obergäriges Einfachbier” | 250mg/l |
| Beers with a minimum acidity of 30 milli-equivalents expressed as NaOH | 250mg/l |
| Brown beers of the “oud bruin” type | 250mg/l |
| Energy-reduced beer | 10mg/l |
| Spirit drinks containing less than 15% alcohol by volume | 250mg/l |
| Edible ices, energy-reduced or with no added sugar | 320mg/kg |
| Canned or bottled fruit, energy-reduced or with no added sugar | 400mg/kg |
| Energy-reduced jams, jellies and marmalades | 400mg/kg |
| Energy-reduced fruit and vegetable preparations | 400mg/kg |
| Feinkostsalat | 140mg/kg |
| Sweet-sour preserves of fruit and vegetables | 180mg/kg |
| Sweet-sour preserves and semi-preserves of fish and marinades of fish, crustaceans and molluscs | 120mg/kg |
| Sauces | 450mg/kg |
| Energy-reduced soups | 45mg/l |
| Mustard | 140mg/kg |
| Fine bakery products: energy-reduced or with no added sugar | 700mg/kg |
| Complete formulae for weight control intended to replace total daily food intake or an individual meal | 320mg/kg |
| Complete formulae and nutritional supplements for use under medical supervision | 400mg/kg |
| Liquid food supplements/dietary integrators | 240mg/kg |
| Solid food supplements/dietary integrators | 800mg/kg |
| Food supplements/diet integrators based on vitamins and/or mineral elements, syrup-type or chewable | 2400mg/kg |
Nodyn Esboniadol
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diwygio ymhellach ar Reoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995 (O.S. 1995/3123 fel y'i diwygiwyd eisoes) sy'n gymwys i Brydain Fawr, drwy wneud y canlynol—
(a)diweddaru'r diffiniad o “Directive 95/31/EC” (sy'n ymwneud â meini prawf purdeb penodol) er mwyn ymdrin â diwygiad i'r diffiniad gan Gyfarwyddeb 2001/52/EC (OJ Rhif L190, 12.7.2001, t.18) i amnewid meini prawf purdeb newydd ar gyfer mannitol ac acesulfane K 9 (rheoliad 2(2)(a));
(b)rhoi awdurdod dros dro ar gyfer marchnata a defnyddio sucralose fel melysydd, fel a ganiateir gan Erthygl 5 o Gyfarwyddeb 89/107/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud ag ychwanegion bwyd a awdurdodir i'w defnyddio mewn bwydydd a fwriadwyd ar gyfer eu bwyta gan bobl (OJ Rhif L40, 11.2.1989, t.27) (rheoliadau 2(2)(b) a 2(3); ac
(c)diweddaru cyfeiriadau at Reoliadau 1995 mewn Rheoliadau eraill.
Gellir cael copïau o'r ddogfen y cyfeirir ati yn rheoliad 2(2)(b) oddi wrth:
Y Llyfrfa
Blwch Post 29
St Crispin’s House
Norwich
NR3 1PD
Fel arall, gellir cael copïau ar-lein yn www.thestationeryoffice.com