Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2002

Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 330 (Cy.43)

BWYD, CYMRU

Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud

13 Chwefror 2002

Yn dod i rym

1 Mawrth 2002

Drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 16(1)(a) ac (e), 17(1), 26(1) a (3) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990(1), a pharagraff 1 o Atodlen 1 iddi, ac sydd bellach wedi'u breinio yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar ôl rhoi sylw, yn unol ag adran 48(4A) o'r Ddeddf honno, i gyngor perthnasol a roddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd ac ar ôl ymgynghori yn unol ag adran 48(4) a (4B) o'r Ddeddf honno, yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2002, deuant i rym ar 1 Mawrth 2002 a byddant yn gymwys i Gymru yn unig.

(2Yn y Rheoliadau hyn ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995(3).

Diwygio'r prif Reoliadau

2.—(1Caiff y prif Reoliadau eu diwygio, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, yn unol â pharagraffau (2) a (3) isod.

(2Ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli)—

(a)yn y diffiniad o “Directive 95/31/EC” caiff y geiriau “and by Directive 2001/52/EC” eu hychwanegu ar y diwedd(4); a

(b)yn lle'r diffiniad “permitted sweetener” rhoddir y diffiniad canlynol—

  • “permitted sweetener” means any sweetener specified in column 2 of Schedule 1 which satisfies the specific purity criteria for that sweetener set out—

    (a)

    in the case of any sweetener other than sucralose, in the Annex to Directive 95/31/EC; and

    (b)

    in the case of sucralose, at pages 119 to 124 of the Food and Agriculture Organisation’s Compendium of Food Additives Specifications Addendum 2 (1993) FAO Food and Nutrition Paper 52 Addendum 2;.

(3Yn Atodlen 1 (melysyddion a ganiateir a'r bwydydd y gellir eu defnyddio arnynt neu ynddynt), caiff y darpariaethau a bennir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn eu hychwanegu ar ddiwedd colofnau 2 i 4.

Diwygiadau canlyniadol

3.—(1Bydd paragraff (2) o reoliad 4 (diwygiadau canlyniadol) o Reoliadau Melysyddion mewn Bwyd (Diwygio) (Cymru) 2001(5) yn peidio â bod yn effeithiol.

(2Yn y darpariaethau a bennir ym mharagraff (3) isod, i'r graddau y maent yn gymwys i Gymru, rhaid dehongli cyfeiriadau at y prif Reoliadau fel cyfeiriadau at y Rheoliadau hynny fel y'u diwygiwyd hyd at a chan gynnwys y diwygiadau a weithredir gan y Rheoliadau hyn.

(3Dyma'r darpariaethau y mae paraagraff (2) uchod yn cyfeirio atynt—

(a)y diffiniad o “permitted sweetener” ym mharagraff (1) o reoliad 2 (interpretation) o Reoliadau Jam a Chynnyrch Tebyg 1981(6);

(b)y diffiniad o “additive” ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Cynhyrchion Cig a Chynhyrchion Pysgod y gellir eu Taenu 1984(7));

(c)y diffiniad o “sweetener” yn Rhan II o Atodlen 1 (categorïau o ychwanegion bwyd) i Reoliadau Labelu Ychwanegion Bwyd 1992(8);

(ch)y diffiniad o “sweetener” ym mharagraff (1) o reoliad 2 (dehongli) o Reoliadau Ychwanegion Bwyd Amrywiol 1995(9); a

(d)yn Rheoliadau Labelu Bwyd 1996(10)

(i)paragraff (1) o reoliad 34 (bwydydd sy'n cynnwys melysyddion, siwgr ychwanegol a melysyddion, aspartame neu polyols); a

(ii)yn Atodlen 8 (disgrifiadau camarweiniol) Rhan I (cyffredinol), yr amod yng ngholofn 2 gyferbyn â'r disgrifiad “ice cream” yng ngholofn 1.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(11))

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

13 Chwefror 2002

Rheoliad 2(3)

YR ATODLENDARPARIAETHAU A YCHWANEGWYD I GOLOFNAU 2 I 4 O ATODLEN 1 I'R PRIF REOLIADAU

Sucralose(12)Non-alcoholic
Water-based flavoured drinks, energy-reduced or with no added sugar300 mg/1
Milk-and milk-derivative-based or fruit-juice-based drinks, energy-reduced or with no added sugar300 mg/1
Desserts and similar products
Water-based flavoured desserts, energy-reduced or with no added sugar400 mg/kg
Milk-and milk-derivative-based preparations, energy-reduced or with no added sugar400 mg/kg
Fruit-and vegetable-based desserts, energy-reduced or with no added sugar400 mg/kg
Egg-based desserts, energy-reduced or with no added sugar400 mg/kg
Cereal-based desserts, energy-reduced or with no added sugar400 mg/kg
Breakfast cereals with a fibre content of more than 15%, and containing at least 20% bran, energy-reduced or with no added sugar400 mg/kg
Fat-based desserts, energy-reduced or with no added sugar400 mg/kg
Confectionery
Confectionery with no added sugar1000 mg/kg
Breath-freshening micro-sweets, with no added sugar2400 mg/kg
Tablet-form confectionery, energy-reduced200 mg/kg
Cocoa-or dried-fruit-based confectionery, energy-reduced or with no added sugar800 mg/kg
Starch-based confectionery, energy-reduced or with no added sugar1000 mg/kg
Chewing gum with no added sugar3000 mg/kg
Strongly flavoured freshening throat pastilles with no added sugar1000 mg/kg
Miscellaneous
“Snacks”: certain flavours of ready to eat, prepacked, dry, savoury starch products and coated nuts400mg/kg
Cornets and wafers, for ice-cream, with no added sugar800mg/kg
Essoblaten800mg/kg
Cocoa-, milk-, dried-fruit- or fat-based sandwich spreads, engery- reduced or with no added sugar400mg/kg
Drinks consisting of a mixture of a non-alcoholic drink and beer, cider, perry, spirits or wine250mg/l
Cider and perry250mg/l
Alcohol-free beer or with an alcohol content not exceeding 1.2% vol250mg/l
“Bière de table/Tafelbier/Table beer” (original wort content less than 6%) except for “Obergäriges Einfachbier”250mg/l
Beers with a minimum acidity of 30 milli-equivalents expressed as NaOH250mg/l
Brown beers of the “oud bruin” type250mg/l
Energy-reduced beer10mg/l
Spirit drinks containing less than 15% alcohol by volume250mg/l
Edible ices, energy-reduced or with no added sugar320mg/kg
Canned or bottled fruit, energy-reduced or with no added sugar400mg/kg
Energy-reduced jams, jellies and marmalades400mg/kg
Energy-reduced fruit and vegetable preparations400mg/kg
Feinkostsalat140mg/kg
Sweet-sour preserves of fruit and vegetables180mg/kg
Sweet-sour preserves and semi-preserves of fish and marinades of fish, crustaceans and molluscs120mg/kg
Sauces450mg/kg
Energy-reduced soups45mg/l
Mustard140mg/kg
Fine bakery products: energy-reduced or with no added sugar700mg/kg
Complete formulae for weight control intended to replace total daily food intake or an individual meal320mg/kg
Complete formulae and nutritional supplements for use under medical supervision400mg/kg
Liquid food supplements/dietary integrators240mg/kg
Solid food supplements/dietary integrators800mg/kg
Food supplements/diet integrators based on vitamins and/or mineral elements, syrup-type or chewable2400mg/kg

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys i Gymru yn unig, yn diwygio ymhellach ar Reoliadau Melysyddion mewn Bwyd 1995 (O.S. 1995/3123 fel y'i diwygiwyd eisoes) sy'n gymwys i Brydain Fawr, drwy wneud y canlynol—

(a)diweddaru'r diffiniad o “Directive 95/31/EC” (sy'n ymwneud â meini prawf purdeb penodol) er mwyn ymdrin â diwygiad i'r diffiniad gan Gyfarwyddeb 2001/52/EC (OJ Rhif L190, 12.7.2001, t.18) i amnewid meini prawf purdeb newydd ar gyfer mannitol ac acesulfane K 9 (rheoliad 2(2)(a));

(b)rhoi awdurdod dros dro ar gyfer marchnata a defnyddio sucralose fel melysydd, fel a ganiateir gan Erthygl 5 o Gyfarwyddeb 89/107/EEC ar gyd-ddynesiad cyfreithiau'r Aelod-wladwriaethau sy'n ymwneud ag ychwanegion bwyd a awdurdodir i'w defnyddio mewn bwydydd a fwriadwyd ar gyfer eu bwyta gan bobl (OJ Rhif L40, 11.2.1989, t.27) (rheoliadau 2(2)(b) a 2(3); ac

(c)diweddaru cyfeiriadau at Reoliadau 1995 mewn Rheoliadau eraill.

Gellir cael copïau o'r ddogfen y cyfeirir ati yn rheoliad 2(2)(b) oddi wrth:

Y Llyfrfa

Blwch Post 29

St Crispin’s House

Norwich

NR3 1PD

Fel arall, gellir cael copïau ar-lein yn www.thestationeryoffice.com

(2)

Cafodd swyddogaethau “the Ministers” o dan Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, i'r graddau y maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).

(3)

O.S. 1995/3123; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1996/1477, 1997/814, 1999/982 a 2001/2679.

(4)

Y cyfeiriad ar gyfer Cyfarwyddeb 2001/52/EC yw OJ Rhif L190, 12.7.2001, t.18.

(6)

O.S. 1981/1063; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1983/1211 a 1995/3123.

(7)

O.S. 1984/1566; yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3123, 1995/3124 a 1995/3187.

(8)

O.S. 1992/1978; yr offeryn diwygio perthnasol yw O.S. 1995/3123.

(9)

O.S. 1995/3187 sy'n cynnwys diwygiad nad yw'n berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(10)

O.S. 1996/1499 sy'n cynnwys diwygiadau nad ydynt yn berthnasol i'r Rheoliadau hyn.

(11)

1998 p.38.

(12)

Awdurdodwyd hyd 29 Chwefror 2004 yn unol ag Erthygl 5 o Gyfarwyddeb 89/107/EEC (OJ Rhif L40, 11.2.89, t.27) tra'n disgwyl ystyried ei gynnwys yng Nghyfarwyddeb 94/35/EC (OJ Rhif L237, 10.9.94, t.2).