- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
28 Chwefror 2002
Yn dod i rym
1 Ebrill 2002
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan adran 126(3) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 (1), adran 5(1) a (6) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990(2) ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(3) wedi cwblhau'r ymgynghori a ragnodwyd o dan adran 5(2) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990(4)), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
1.—(1) Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Diwygio Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 2002 a daw i rym ar 1 Ebrill 2002.
(2) Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y prif Orchymyn” (“the principal Order”) yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Sefydlu)1993 fel y'i diwygiwyd(5).
2. Rhaid diwygio'r prif Orchymyn fel a ganlyn:—
ar ddiwedd erthygl 3(2)(b) ychwaneger—
to manage and provide to or in relation to the health service in Wales a range of information technology systems and associated support and consultancy services, desktop services, web development, telecommunications services, healthcare information services and services relating to prescribing and dispensing .
3. Yn erthygl 4 o'r prif Orchymyn (Cyfarwyddwyr yr ymddiriedolaeth), am “4 non-executive directors” amnewidier “6 non-executive directors”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
28 Chwefror 2002
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 1993 (y prif Orchymyn) ymhellach er mwyn diwygio ei swyddogaethau a chynyddu nifer ei gyfarwyddwyr anweithredol.
Mae'r Gorchymyn yn estyn swyddogaethau'r ymddiriedolaeth i gynnwys swyddogaeth rheoli gwasanaethau sy'n ymwneud â thechnoleg gwybodaeth, gwybodaeth iechyd, telathrebu a rhagnodi a dosbarthu.
Mae'r Gorchymyn hwn yn diwygio'r prif Orchymyn ymhellach drwy gynyddu nifer y cyfarwyddwyr anweithredol o 4 i 6.
1977 p.49; diwygiwyd adran 126(3) gan adran 65(2) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p. 19).
Trosglwyddwyd swyddogaethau Ysgrifennydd Gwladol Cymru o dan a.126(3) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 ac a.5(1) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
Amnewidiwyd adran 5(2) gan baragraff 69 of Atodlen 1 i Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (1995) (p.17).
O.S. 1993/2838 fel y'i diwygiwyd gan O.S. 1999/826.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: