2002 Rhif 442 (Cy.57)
Gorchymyn Diwygio Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 2002
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i Ysgrifennydd Gwladol Cymru gan adran 126(3) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977 1, adran 5(1) a (6) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 19902 ac a freiniwyd bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru3 wedi cwblhau'r ymgynghori a ragnodwyd o dan adran 5(2) o Ddeddf Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 19904), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi a chychwyn1
1
Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Diwygio Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 2002 a daw i rym ar 1 Ebrill 2002.
2
Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y prif Orchymyn” (“the principal Order”) yw Gorchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Sefydlu)1993 fel y'i diwygiwyd5.
Diwygio erthygl 3 o'r prif Orchymyn2
Rhaid diwygio'r prif Orchymyn fel a ganlyn:—
ar ddiwedd erthygl 3(2)(b) ychwaneger—
- c
to manage and provide to or in relation to the health service in Wales a range of information technology systems and associated support and consultancy services, desktop services, web development, telecommunications services, healthcare information services and services relating to prescribing and dispensing .
- c
Diwygio erthygl 4 o'r prif Orchymyn3
Yn erthygl 4 o'r prif Orchymyn (Cyfarwyddwyr yr ymddiriedolaeth), am “4 non-executive directors” amnewidier “6 non-executive directors”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19986
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)