Search Legislation

Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithredol a Threfniadau Amgen) (Addasu Deddfiadau a Darpariaethau Eraill) (Cymru) 2002

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn addasu deddfwriaeth sylfaenol ac eilaidd ac yn gwneud darpariaethau eraill at ddibenion, yn ganlyniadol i, neu ar gyfer rhoi effaith lawn i ddarpariaethau Rhan II o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 (“Deddf 2000”). Mae'r Gorchymyn hwn a'r addasiadau a wneir ganddo yn gymwys i Gymru yn unig.

Mae erthyglau 3 a 9 yn addasu Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae erthygl 3 yn rhwystro awdurdod lleol neu awdurdod ar y cyd rhag hybu Mesur i ffurfio, newid neu ddiddymu trefniadau gweithrediaeth neu drefniadau amgen neu i newid trefniadau ar gyfer ethol maer. Mae erthyglau 4 a 5 yn cymhwyso'r cymwysterau a'r datgymwysterau ar gyfer ethol a dal swydd fel maer etholedig. Mae erthygl 6 yn ymestyn darpariaethau ar gyfer dilysrwydd gweithrediadau a wneir gan bersonau anghymwysedig i feiri etholedig ac arweinyddion gweithrediaeth. Mae erthygl 7 yn addasu'r darpariaethau ar gyfer ymadael â swydd o ganlyniad i fethu â mynychu cyfarfodydd fel eu bod yn gymwys i aelodau'r weithrediaeth. Mae erthygl 8 yn addasu'r darpariaethau ar gyfer peidio â phenodi aelodau awdurdodau lleol yn swyddogion fel y gellir penodi person sy'n aelod o weithrediaeth arweinydd a chabinet (a fydd hefyd yn aelod o'r awdurdod) i swydd sy'n derbyn tâl yn ystod y cyfnod o ddeuddeg mis wedi ef neu hi beidio â bod yn aelod felly o'r weithrediaeth. Mae erthygl 9 yn addasu'r ddarpariaeth ddehongli drwy fewnosod diffiniad o “drefniadau amgen”.

Mae erthygl 10 yn addasu adran 31A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1974 fel bod cyfyngiadau sy'n ymwneud ag ystyried adroddiad gan y Comisiynydd Lleol yr un mor gymwys i'r weithrediaeth, pwyllgorau'r weithrediaeth ac aelodau'r weithrediaeth ag ydynt i bwyllgorau'r awdurdod ac aelodau'r awdurdod.

Mae erthygl 11 yn addasu adran 41 o Ddeddf Llywodreth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976 fel y gellir defnyddio cofnodion penderfyniadau a wnaed gan y weithrediaeth, aelodau'r weithrediaeth a phwyllgorau'r weithrediaeth fel tystiolaeth mewn achos sifil, yn yr un modd â chofnodion cyfarfodydd y cyngor a'i bwyllgorau.

Mae erthygl 12 yn addasu adran 74 o Ddeddf Trafnidiaeth 1974 fel nad oes modd i aelod o'r weithrediaeth sydd hefyd yn gyfarwyddwr cwmni trafnidiaeth gyhoeddus gymryd rhan yng nghyfarfodydd y weithrediaeth neu bwyllgor o'r weithrediaeth neu wneud penderfyniadau ar ei ben ei hun pan fo contractau sy'n ymwnueud â'r cwmni hwnnw yn cael eu hystyried.

Mae erthygl 13 yn gwneud diwygiadau canlyniadol i adran 5 o Ddeddf Pwysau a Mesurau 1985.

Mae erthygl 14 yn addasu adran 6 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1986 fel nad yw darpariaethau cyhoeddusrwydd awdurdodau lleol Rhan II y Ddeddf honno yn gymwys i weithrediaethau awdurdodau lleol trwy rinwedd adran 22 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.

Mae erthygl 15 yn addasu adran 18 o Ddeddf Meysydd Awyr 1986 fel nad oes modd i aelod gweithrediaeth sydd hefyd yn gyfarwyddwr cwmni maes awyr cyhoeddus gymryd rhan yng nghyfarfodydd y weithrediaeth, neu bwyllgor gweithrediaeth neu wneud penderfyniad ar ei ben ei hun pan fod contractau neu faterion eraill sy'n ymwneud â'r cwmni maes awyr yn cael eu hystyried.

Mae erthygl 16 yn addasu adran 3 o Ddeddf Peilota 1987 fel nad yw peilot harbwr sy'n aelod o weithrediaeth awdurdod yn cael ei rwystro rhag cymryd rhan mewn penderfyniad ar y cyd pan fo gwybodaeth am beilota yn bwysig.

Mae erthygl 17 yn addasu'r darpariaethau contractau cyflenwi cyhoeddus neu gontractau gwaith yn Neddf Llywodraeth Leol 1988. Caiff Atodlen 2 ei haddasu fel bod gweithrediaeth awdurdod lleol yn awdurdod cyhoeddus at ddibenion adran 17 o'r Ddeddf honno (eithrio ystyriaethau anfasnachol tra'n arfer swyddogaethau mewn perthynas â chontractau cyflenwi cyhoeddus neu gontractau gwaith awdurdod lleol). Caiff adran 19 ei haddasu fel bod adran 17 yn gymwys i awdurdod lleol arall, sy'n cyflawni swyddogaethau ar ran gweithrediaeth awdurdod lleol, ac i weithrediaeth awdurdod lleol arall, sy'n cyflawni swyddogaethau ar ran awdurdod lleol neu weithrediaeth awdurdod lleol.

Mae erthyglau 18 i 20 yn addasu Deddf Cyllid Llywodreth Leol 1988. Mae erthygl 18 yn ychwanegu diffiniadau pellach i'r adran ar ddehongli. Mae erthygl 19 yn addasu adran 114 ac yn mewnosod adran 114A newydd fel bod darpariethau i brif swyddog cyllid awdurdod lunio adroddiad ar achosion o gamymddwyn ariannol gan awdurdod lleol yn cael eu hymestyn i weithrediaeth awdurdod lleol. Pan fo adroddiad wedi cael ei wneud, bydd y darpariaethau yn adran 115B (dyletswyddau gweithrediaethau mewn perthynas ag adroddiadau) a fewnosodwyd gan erthygl 20, yn gymwys, gan gynnwys rhwymedigaeth i'r prif weithredwr wneud adroddiad ar ôl ystyried adroddiad y prif swyddog cyllid. Mae adran 116 yn cael ei haddasu fel bod gwybodaeth ynghylch cyfarfodydd y weithrediaeth o dan adran 115B yn cael ei hanfon at archwilydd yr awdurdod.

Mae erthyglau 21 i 25 yn addasu Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989. Mae erthygl 21 yn addasu adran 2 fel bod rhoi cyngor yn rheolaidd i weithrediaeth, pwyllgor gweithrediaeth neu aelod o'r weithrediaeth yn ddyletswydd swydd mewn awdurdod lleol at ddibenion yr adran honNo. Mae erthygl 22 yn addasu adran 5 ac yn mewnosod adran 5A newydd fel bod y darpariaethau ar i swyddog monitro awdurdod lunio adroddiad pan fo awdurdod lleol yn torri'r gyfraith, yn camweinyddu neu'n ymddwyn yn anghyfiawn yn cael eu hymestyn i weithrediaeth awdurdod lleol. Rhaid i'r weithrediaeth baratoi adroddiad ar ôl ystyried adroddiad y swyddog monitro. Mae erthygl 23 yn ymestyn y darpariaethau sy'n ymwneud â chynorthwywyr grŵ piau gwleidyddol fel na all cynorthwy-ydd gwleidyddol gyflawni swyddogaethau sy'n arferadwy gan neu ar ran gweithrediaeth awdurdod lleol. Mae erthygl 24 yn mewnosod diffiniadau pellach yn adran 21 (dehongli Rhan I). Mae erthygl 25 yn addasu Rhan V (cwmnïau y mae gan awduroddau lleol fuddiant ynddynt) fel bod rhai darpariaethau sy'n cyfeirio at aelodau awdurdod, neu bwyllgor neu is-bwyllgor awdurdod, yn cael eu hymestyn i weithrediaeth, aelodau gweithrediaeth neu bwyllgor gweithrediaeth fel sy'n briodol.

Mae erthygl 26 yn addasu adran 97 o Ddeddf y Diwydiant Dŵ r 1991 fel pan fo ymgymerydd carthffosiaeth wedi trefnu i rai swyddogaethau carthffosiaeth gael eu harfer gan awdurdod lleol bod swyddogaethau o'r fath yn cael eu trin fel swyddogaethau'r awdurdod lleol at ddibenion adran 13 o Ddeddf 2000.

Mae erthygl 27 yn addasu adran 106 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 fel na all aelod o'r weithrediaeth nad ydyw wedi talu ei dreth gyngor ers o leiaf dau fis gymryd rhan ym mhenderfyniadau'r weithrediaeth mewn perthynas â chyllideb y cyngor, y dreth gyngor neu archebiant.

Mae erthygl 28 yn addasu adran 70 o Ddeddf Dadreoleiddio a Chontractio Allan 1994 (swyddogaethau awdurdodau lleol) fel ei bod yn gymwys mewn perthynas â gweithrediaeth awdurdod lleol.

Mae erthygl 29 yn addasu adran 50 o Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 fel bod gan gyflogeion yr hawl i gael amser i ffwrdd o'u gwaith er mwyn ymgymryd â busnes fel aelod o weithrediaeth awdurdod lleol.

Mae erthygl 30 yn addasu Atodlen 1 i Ddeddf Ddifenwi 1996 fel bod cofnodion cyfarfodydd cyhoeddus y weithrediaeth neu bwyllgorau'r weithrediaeth a chofnodion penderfyniadau a wneir gan aelodau unigol gweithrediaeth yn cael eu dosbarthu fel gwybodaeth freintiedig yn ddarostyngedig i eglurhad neu wrth-ddweud mewn achosion o ddifenwad.

Mae erthygl 31 yn addasu Atodlen 1 i Ddeddf Addysg 1996 gan wneud diwygiadau canlyniadol i bwerau'r Ysgrifennydd Gwladol i wneud darpariaeth ynghylch pwyllgorau rheoli unedau cyfeirio disgyblion.

Mae erthygl 32 yn addasu adran 66 o Ddeddf Ynadon Heddwch 1997 fel na all ynad heddwch sy'n aelod o awdurdod lleol weithredu fel aelod o Lys y Goron neu lys yr ynadon mewn unrhyw achos sy'n ymwneud â phenderfyniad a wnaed gan y weithrediaeth neu gan unrhyw berson sy'n gweithredu ar ran y weithrediaeth.

Mae erthygl 33 yn addasu adran 23 o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1988 fel pan fo'r Ysgrifennydd Gwladol wedi trefnu bod rhai swyddogaethau sy'n ymwneud â chefnogi myfyrwyr yn cael eu harfer gan awdurdod lleol bod y swyddogaethau hynny yn cael eu trin fel swyddogaethau'r awdurdod at ddibenion adran 13 o Ddeddf 2000.

Mae erthygl 34 yn addasu adran 137 o Ddeddf Pwerau Llysoedd Troseddol 2000 fel bod yr adran hon yn gymwys pan fo awdurdod yn gweithredu trefniadau gweithredol.

Mae erthygl 35 yn addasu rheoliad 5 o Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983 er mwyn darparu pan fo awdurdod lleol yn gweithredu trefniadau gweithredol ac felly nad oes ganddo bwyllgor gwasanaethau cymdeithasol y gall benodi aelod ohono i'r panel mabwysiadu, bod y cyfeiriad at y pwyllgor gwasanaethau cymdeithasol yn cael ei drin fel cyfeiriad at weithrediaeth yr awdurdod neu bwyllgor trosolwg a chraffu yr awdurdod (pan fo swyddogaethau'r pwyllgor hwnnw yn ymwneud yn gyfangwbl neu'n rhannol â swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol yr awdurdod hwnnw).

Mae erthygl 36 yn addasu'r Diffiniad o Rheoliadau Ymwelwyr Annibynnol (Plant) 1991. Caiff person a benodir gan awdurdod lleol fel ymwelydd annibynnol ei ystyried fel person sy'n annibynnol o'r awdurdod sy'n ei benodi pan, er enghraifft, nad yw'r person a benodir yn gysylltiedig â'r awdurdod lleol trwy rinwedd bod yn aelod o'r awdurdod. Mae'r addasiad yn ymestyn y ddarpariaeth hon fel bod person hefyd yn gysylltiedig â'r awdurdod lleol trwy rinwedd bod yn rheolwr cyngor ac felly ni ddylid ystyried bod rheolwr cyngor yn annibynnol o'r awdurdod.

Mae Rheoliad 8 o Rheoliadau Plant (Llety Diogel) 1991 yn gwneud darpariaethau fel mai dim ond yr awdurdod lleol sy'n edrych ar ôl y plentyn hwnnw gaiff wneud cais i lys o dan adran 25 o Ddeddf Plant 1989 (p. 41) (defnydd o lety i gyfyngu ar ryddid) mewn perthynas â phlentyn. Mae hyn yn ddarostyngedig i adran 101 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972. Mae erthygl 37 o'r Gorchymyn hwn yn gwneud y ddarpariaeth yn rheoliad 8 hefyd yn ddarostyngedig i ddarpariaethau yn neu o dan adrannau 14 i 20 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000.

Mae rheoliad 4 o Reoliadau'r Dreth Gyngor (Gweinyddu a Gorfodi) 1992 yn galluogi awdurdod bilio i ofyn am wybodaeth benodol at ddibenion ei swyddogaethau o dan Ran I o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992. Mae eithriadau i'r wybodaeth y gellir gofyn amdani. Mae'r eithriadau hyn yn cael eu haddasu gan erthygl 38 o'r Gorchymyn hwn fel eu bod yn cynnwys gwybodaeth a gafwyd gan weithrediaeth, neu bwyllgor neu aelod o weithrediaeth, awdurdod lleol yn rhinwedd yr awdurdod lleol hwnnw fel cyngor cyfansoddol o awdurdod heddlu.

Mae erthygl 39 yn addasu'r diffiniad o “awdurdod lleol” yn Rheoliadau Addysg (Anghenion Addysgol Arbennig) (Cymeradwyo Ysgolion Annibynnol) 1994 er mwyn adlewyrchu'r ffaith, pan fo awdurdod lleol yn gweithredu trefniadau gweithredol, bod gan ei weithrediaeth gyfrifoldeb ar gyfer arfer y rhan fwyaf o'i swyddogaethau gwasanaethau cymdeithasol.

Mae erthygl 40 yn gwneud darpariaethau amrywiol mewn perthynas ag aelodau gweithrediaeth sy'n peidio â bod yn aelodau o'r awdurdod lleol.

Mae erthygl 41 yn gwneud darpariaethau ar gyfer maer dros dro ac aelodau dros dro pan nad oes modd i aelodau gweithrediaeth maer a chabinet weithredu.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources