Offerynnau Statudol Cymru
GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
22 Mawrth 2002
Yn dod i rym
8 Ebrill 2002
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 8 Ebrill 2002.
(2) Yn y Rheoliadau hyn, ystyr “y prif Reoliadau” (“the principal Regulations”) yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992(3).
(3) Bydd y Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
2.—(1) Diwygir y prif Reoliadau yn unol â pharagraffau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 20 (terfyn cyfalaf) yn lle'r ffigur “£18,500” rhoddir y ffigur “£19,000”.
(3) Yn rheoliad 28 (1) (cyfrifo incwm tariff o gyfalaf) yn lle'r ffigur “£11,500”, lle mae'n ymddangos, rhoddir y ffigur “£11,750” ac yn lle'r ffigur “£18,500” rhoddir y ffigur “£19,000”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 (4)
J.E. Randerson
Y Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a'r Gymraeg.
22 Mawrth 2002
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau.)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gwneud diwygiadau pellach i Reoliadau Cymorth Gwladol (Asesu Adnoddau) 1992 (“y prif Reoliadau”).
Mae'r prif Reoliadau yn ymwneud ag asesu gallu person (“y preswylydd”) i dalu am lety sydd wedi'i drefnu gan awdurdodau lleol o dan Ran III o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948. Mae llety Rhan III yn cael ei drefnu ar gyfer personau 18 oed neu drosodd y mae arnynt, oherwydd oedran, salwch, anabledd neu unrhyw amgylchiadau eraill, angen gofal a sylw nad ydynt ar gael iddynt fel arall, ac ar gyfer mamau sy'n disgwyl plentyn a mamau sy'n magu ac sydd mewn angen tebyg.
Mae'r prif Reoliadau yn darparu bod rhaid peidio ag asesu unrhyw breswylydd fel un sy'n methu â thalu am lety Rhan III yn ôl y gyfradd safonol os yw cyfalaf y preswylydd hwnnw, o'i gyfrifo yn unol â'r prif Reoliadau, yn fwy nag £18,500. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r prif Reoliadau er mwyn cynyddu'r terfyn cyfalaf o £18,500 i £19,000. Mae'r prif Reoliadau yn darparu hefyd ar gyfer cyfrifo incwm preswylydd i gymryd i ystyriaeth gyfalaf sy'n cael ei drin fel swm sy'n cyfateb i incwm. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio terfynau uchaf ac isaf cyfalaf o'r fath fel bod pob £250 cyflawn rhyngddynt, neu unrhyw ran ohono nad yw'n £250 cyflawn, yn cael ei drin fel swm sy'n cyfateb i incwm wythnosol o £1.
1948 p.29; diwygiwyd adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 gan adran 39(1) o Ddeddf y Weinyddiaeth Nawdd Cymdeithasol 1966 (p.20) a pharagraff 6 o Atodlen 6 iddi, gan adran 35(2) o Ddeddf Budd-daliadau Atodol 1976 (p.71) a pharagraff 3(b) o Atodlen 7 iddi, gan adran 20 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1980 (p.30) a pharagraff 2 o Atodlen 4 iddi, a gan adran 86 o Ddeddf Nawdd Cymdeithasol 1986 (p.50) a pharagraff 32 o Atodlen 10 iddi.
Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 22(5) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).
O.S. 1992/2977 yr offerynnau diwygio perthnasol yw O.S. 1993/964, 1993/2230, 1994/825, 1994/2386, 1995/858, 1995/3054, 1996/602, 1997/485, 1998/497, 1998/1730, 2001/276 a 200//1409.