2002 Rhif 815 (Cy.95)
GWASANAETHAU CYMORTH GWLADOL, CYMRU
Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2002
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 2002, a deuant i rym ar 8 Ebrill 2002.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.
Y swm y mae ei angen at anghenion personol2
Y swm y mae'n rhaid i awdurdod lleol ragdybio o dan adran 22(4) o Ddeddf Cymorth Gwladol 1948 y bydd ar berson ei angen at anghenion personol y person hwnnw fydd £16.80 yr wythnos.
Diddymu3
Mae Rheoliadau Cymorth Gwladol (Symiau at Anghenion Personol) (Cymru) 20013 drwy hyn wedi'u diddymu.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984.
J.E.RandersonY Gweinidog dros Ddiwylliant, Chwaraeon a'r Gymraeg
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)