2002 Rhif 917 (Cy. 105)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

ac eithrio rheoliadau 2 a 5

rheoliadau 2 a 5

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 38, 39, 78, 126(4) a 127 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 19771 a pharagraffau 2 a 2A o Atodlen 12 iddi, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2002.

2

Daw'r Rheoliadau hyn i rym—

a

ac eithrio rheoliadau 2 a 5, ar 1 Ebrill 2002; a

b

rheoliadau 2 a 5 ar 9 Ebrill 2002.

3

Yn y Rheoliadau hyn, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall—

  • ystyr “Rheoliadau 1997” (“the 1997 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 19972;

  • ystyr “Rheoliadau 1986” (“the 1986 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Cymru) 19863.

4

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio rheoliad 8 o Reoliadau 19972

Yn rheoliad 8 o Reoliadau 1997 (cymhwyster — cyflenwi cyfarpar optegol), ym mharagraffau (3)(c) (cael credyd treth teuluoedd sy'n gweithio) a (g) (credyd treth pobl anabl), yn lle “£71” rhowch “£72.20”.

Diwygio rheoliad 19 o Reoliadau 19973

Yn rheoliad 19 o Reoliadau 1997 (gwerth adbrynu taleb ar gyfer amnewid neu drwsio)—

a

ym mharagraff (1)(b), yn lle “£43.90” rhowch “£44.60”; a

b

ym mharagraff (3), yn lle “£11.30” rhowch “£11.50”.

Diwygio'r Atodlenni i Reoliadau 19974

1

Yn Atodlen 1 i Reoliadau 1997 (codau llythrennau talebau a'u gwerth ar yr wyneb — cyflenwi ac amnewid) yn ngholofn (3) (gwerth y daleb ar ei hwyneb), yn lle pob swm a bennir yng ngholofn 1 o'r tabl isod rhowch y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn 2 o'r tabl hwnnw.

TABL

(1)

(2)

Yr hen swm

Y swm newydd

£30.00

£30.50

£45.60

£46.40

£62.10

£63.20

£140.30

£142.70

£51.80

£52.70

£65.90

£67.00

£79.60

£81.00

£154.30 (yn y ddau fan lle y'i gwelir)

£157.00

£43.90

£44.60

2

Yn Atodlen 2 i Reoliadau 1997 (prismau, tintiau, lensys ffotocromig, sbectolau bach ac arbennig a chyfarpar cymhleth)—

a

ym mharagraff 1(1)(a) (prism — lens golwg sengl), yn lle “£6.30” rhowch “£9.90”;

b

ym mharagraff 1(1)(b) (prism — lens arall), yn lle “£7.20” rhowch “£11.90”;

c

ym mharagraff 1(1)(c) (lens golwg sengl â thint), yn lle “£3.20” rhowch “£3.30”;

ch

ym mharagraff 1(1)(d) (lens arall â thint), yn lle “£3.70” rhowch “£3.80”;

d

ym mharagraff 1(1)(e) (sbectolau bach), yn lle “£49.90”, “£43.90” a “£23.80”, rhowch “£50.20”, “£44.60” a “£24.20” yn eu trefn;

dd

ym mharagraff 1(1)(g) (fframiau wedi'u gweithgynhyrchu'n arbennig) yn lle “£49.40” rhowch “£50.20”;

e

ym mharagraff 2(a) (isafswm taliad cyfarpar cymhleth — lensys golwg sengl), yn lle “£10.50” rhowch “£10.70”;

f

ym mharagraff 2(b) (isafswm taliad cyfarpar cymhleth — lensys eraill), yn lle “£26.50” rhowch “£27.00”.

3

Yn lle Atodlen 3 i Reoliadau 1997 (gwerthoedd talebau — trwsio), rhowch yr Atodlen 3 a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Diwygio rheoliad 13 o Reoliadau 19865

Yn rheoliad 13 o Reoliadau 1986 (Profion Golwg — cymhwyster), ym mharagraffau (2)(c) (cael credyd treth teuluoedd sy'n gweithio) a (2) (g) (cael credyd treth pobl anabl), yn lle “£71” rhowch “£72.20”.

Defnyddio'r Rheoliadau hyn6

Mae'r diwygiadau a wneir gan reoliadau 3 a 4 o'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â thaleb a dderbynnir neu a ddefnyddir yn union â rheoliadau 12 a 17 o Reoliadau 1997 ar 1 Ebrill 2002 neu ar ôl hynny.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984

Rhodri MorganPrif Weinidog y Cynulliad Cenedlaethol

SCHEDULESCHEDULE 3 TO THE 1997 REGULATIONS AS SUBSTITUTED BY THESE REGULATIONS

Regulation 3(3)

SCHEDULE 3VOUCHER VALUES — REPAIR

Regulations 19(2) and (3)

(1)

(2)

Nature of repair

Letter Codes — Value

A

B

C

D

E

F

G

H&I

£

£

£

£

£

£

£

£

Repair or replacement of one lens

9.50

17.45

25.85

65.60

20.60

27.75

34.75

72.75

Repair or replacement of two lenses

19.00

34.90

51.70

131.20

41.20

55.50

69.50

145.50

Repair or replacement of the front of a frame

9.75

9.75

9.75

9.75

9.75

9.75

9.75

9.75

the side of a frame

5.80

5.80

5.80

5.80

5.80

5.80

5.80

5.80

the whole frame

11.50

11.50

11.50

11.50

11.50

11.50

11.50

11.50

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 (“Rheoliadau 1997”) a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 (“Rheoliadau 1986”).

Mae Rheoliadau 1997 yn darparu ar gyfer cynllun taliadau i'w gwneud gan yr Awdurdodau Iechyd ac Ymddiriedolaethau GIG drwy gyfrwng system dalebau mewn perthynas â chostau a dynnir gan gategorïau penodol o bersonau mewn cysylltiad â phrofion golwg a chyflenwi, amnewid a thrwsio cyfarpar optegol.

Mae Rheoliadau 1986 yn cynnwys darpariaeth ar gyfer trefniadau gwasanaethau offthalmig cyffredinol o dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 8 o Reoliadau 1997 er mwyn cynyddu gwerth y ffigur a bennir ynddo ar gyfer yr “amount withdrawn” o ddyfarniadau credyd treth teuluoedd sy'n gweithio a chredyd treth pobl anabl. (Mae'r ddarpariaeth hon yn cynyddu'r lefel incwm sy'n dod â'r rheini sy'n cael credydau treth yn gymwys i gael talebau optegol GIG).

Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 19 o Reoliadau 1997 (gwerth adbrynu taleb ar gyfer amnewid neu drwsio) er mwyn cynyddu gwerth taleb optegol a roddir tuag at gost amnewid un lens cyffwrdd, ac er mwyn cynyddu uchafswm y cyfraniad a wneir drwy gyfrwng taleb tuag at gost trwsio ffrâm sbectol.

Mae rheoliad 4(1) yn diwygio Atodlen 1 o Reoliadau 1997 er mwyn cynyddu gwerth talebau a roddir tuag at gost cyflenwi ac amnewid sbectolau a lensys cyffwrdd.

Mae rheoliad 4(2) yn diwygio Atodlen 2 i Reoliadau 1997 er mwyn cynyddu gwerthoedd ychwanegol talebau ar gyfer prismau, tintiau, lensys ffotocromig a chategorïau penodol o gyfarpar.

Mae rheoliad 4(3) a'r Atodlen yn gosod Atodlen 3 newydd yn Rheoliadau 1997 er mwyn cynyddu gwerth talebau a roddir tuag at drwsio ac amnewid cyfarpar optegol.

Rhyw 1.95% yw cyfradd y cynnydd, ar gyfartaledd.

Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 13 o Reoliadau 1986 er mwyn cynyddu gwerth y ffigur ar gyfer yr “amount withdrawn” o ddyfarniadau credyd treth teuluoedd sy'n gweithio a chredyd treth pobl anabl. (Mae'r ddarpariaeth hon yn cynyddu'r lefel incwm sy'n dod â'r rheini sy'n derbyn y credydau treth yn gymwys i gael prawf golwg GIG).

Yn rheoliad 6 ceir darpariaethau trosiannol.