Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 917 (Cy. 105)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud

28 Mawrth 2002

Yn dod i rym

ac eithrio rheoliadau 2 a 5

1 Ebrill 2002

rheoliadau 2 a 5

9 Ebrill 2002

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) a (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2002.

(2Daw'r Rheoliadau hyn i rym—

(a)ac eithrio rheoliadau 2 a 5, ar 1 Ebrill 2002; a

(b)rheoliadau 2 a 5 ar 9 Ebrill 2002.

(3Yn y Rheoliadau hyn, oni bai bod y cyd-destun yn mynnu fel arall—

(4Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio rheoliad 8 o Reoliadau 1997

2.  Yn rheoliad 8 o Reoliadau 1997 (cymhwyster — cyflenwi cyfarpar optegol), ym mharagraffau (3)(c) (cael credyd treth teuluoedd sy'n gweithio) a (g) (credyd treth pobl anabl), yn lle “£71” rhowch “£72.20”.

Diwygio rheoliad 19 o Reoliadau 1997

3.  Yn rheoliad 19 o Reoliadau 1997 (gwerth adbrynu taleb ar gyfer amnewid neu drwsio)—

(a)ym mharagraff (1)(b), yn lle “£43.90” rhowch “£44.60”; a

(b)ym mharagraff (3), yn lle “£11.30” rhowch “£11.50”.

Diwygio'r Atodlenni i Reoliadau 1997

4.—(1Yn Atodlen 1 i Reoliadau 1997 (codau llythrennau talebau a'u gwerth ar yr wyneb — cyflenwi ac amnewid) yn ngholofn (3) (gwerth y daleb ar ei hwyneb), yn lle pob swm a bennir yng ngholofn 1 o'r tabl isod rhowch y swm a bennir mewn perthynas ag ef yng ngholofn 2 o'r tabl hwnnw.

TABL

(1)(2)
Yr hen swmY swm newydd
£30.00£30.50
£45.60£46.40
£62.10£63.20
£140.30£142.70
£51.80£52.70
£65.90£67.00
£79.60£81.00
£154.30 (yn y ddau fan lle y'i gwelir)£157.00
£43.90£44.60

(2Yn Atodlen 2 i Reoliadau 1997 (prismau, tintiau, lensys ffotocromig, sbectolau bach ac arbennig a chyfarpar cymhleth)—

(a)ym mharagraff 1(1)(a) (prism — lens golwg sengl), yn lle “£6.30” rhowch “£9.90”;

(b)ym mharagraff 1(1)(b) (prism — lens arall), yn lle “£7.20” rhowch “£11.90”;

(c)ym mharagraff 1(1)(c) (lens golwg sengl â thint), yn lle “£3.20” rhowch “£3.30”;

(ch)ym mharagraff 1(1)(d) (lens arall â thint), yn lle “£3.70” rhowch “£3.80”;

(d)ym mharagraff 1(1)(e) (sbectolau bach), yn lle “£49.90”, “£43.90” a “£23.80”, rhowch “£50.20”, “£44.60” a “£24.20” yn eu trefn;

(dd)ym mharagraff 1(1)(g) (fframiau wedi'u gweithgynhyrchu'n arbennig) yn lle “£49.40” rhowch “£50.20”;

(e)ym mharagraff 2(a) (isafswm taliad cyfarpar cymhleth — lensys golwg sengl), yn lle “£10.50” rhowch “£10.70”;

(f)ym mharagraff 2(b) (isafswm taliad cyfarpar cymhleth — lensys eraill), yn lle “£26.50” rhowch “£27.00”.

(3Yn lle Atodlen 3 i Reoliadau 1997 (gwerthoedd talebau — trwsio), rhowch yr Atodlen 3 a nodir yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

Diwygio rheoliad 13 o Reoliadau 1986

5.  Yn rheoliad 13 o Reoliadau 1986 (Profion Golwg — cymhwyster), ym mharagraffau (2)(c) (cael credyd treth teuluoedd sy'n gweithio) a (2) (g) (cael credyd treth pobl anabl), yn lle “£71” rhowch “£72.20”.

Defnyddio'r Rheoliadau hyn

6.  Mae'r diwygiadau a wneir gan reoliadau 3 a 4 o'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â thaleb a dderbynnir neu a ddefnyddir yn union â rheoliadau 12 a 17 o Reoliadau 1997 ar 1 Ebrill 2002 neu ar ôl hynny.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)

Rhodri Morgan

Prif Weinidog y Cynulliad Cenedlaethol

28 Mawrth 2002

Regulation 3(3)

SCHEDULESCHEDULE 3 TO THE 1997 REGULATIONS AS SUBSTITUTED BY THESE REGULATIONS

Regulations 19(2) and (3)

SCHEDULE 3VOUCHER VALUES — REPAIR

(1)(2)
Nature of repairLetter Codes — Value
ABCDEFGH&I
££££££££
Repair or replacement of one lens9.5017.4525.8565.6020.6027.7534.7572.75
Repair or replacement of two lenses19.0034.9051.70131.2041.2055.5069.50145.50
Repair or replacement of the front of a frame9.759.759.759.759.759.759.759.75
the side of a frame5.805.805.805.805.805.805.805.80
the whole frame11.5011.5011.5011.5011.5011.5011.5011.50

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Ffioedd a Thaliadau Optegol) 1997 (“Rheoliadau 1997”) a Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Offthalmig Cyffredinol) 1986 (“Rheoliadau 1986”).

Mae Rheoliadau 1997 yn darparu ar gyfer cynllun taliadau i'w gwneud gan yr Awdurdodau Iechyd ac Ymddiriedolaethau GIG drwy gyfrwng system dalebau mewn perthynas â chostau a dynnir gan gategorïau penodol o bersonau mewn cysylltiad â phrofion golwg a chyflenwi, amnewid a thrwsio cyfarpar optegol.

Mae Rheoliadau 1986 yn cynnwys darpariaeth ar gyfer trefniadau gwasanaethau offthalmig cyffredinol o dan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

Mae rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 8 o Reoliadau 1997 er mwyn cynyddu gwerth y ffigur a bennir ynddo ar gyfer yr “amount withdrawn” o ddyfarniadau credyd treth teuluoedd sy'n gweithio a chredyd treth pobl anabl. (Mae'r ddarpariaeth hon yn cynyddu'r lefel incwm sy'n dod â'r rheini sy'n cael credydau treth yn gymwys i gael talebau optegol GIG).

Mae rheoliad 3 yn diwygio rheoliad 19 o Reoliadau 1997 (gwerth adbrynu taleb ar gyfer amnewid neu drwsio) er mwyn cynyddu gwerth taleb optegol a roddir tuag at gost amnewid un lens cyffwrdd, ac er mwyn cynyddu uchafswm y cyfraniad a wneir drwy gyfrwng taleb tuag at gost trwsio ffrâm sbectol.

Mae rheoliad 4(1) yn diwygio Atodlen 1 o Reoliadau 1997 er mwyn cynyddu gwerth talebau a roddir tuag at gost cyflenwi ac amnewid sbectolau a lensys cyffwrdd.

Mae rheoliad 4(2) yn diwygio Atodlen 2 i Reoliadau 1997 er mwyn cynyddu gwerthoedd ychwanegol talebau ar gyfer prismau, tintiau, lensys ffotocromig a chategorïau penodol o gyfarpar.

Mae rheoliad 4(3) a'r Atodlen yn gosod Atodlen 3 newydd yn Rheoliadau 1997 er mwyn cynyddu gwerth talebau a roddir tuag at drwsio ac amnewid cyfarpar optegol.

Rhyw 1.95% yw cyfradd y cynnydd, ar gyfartaledd.

Mae rheoliad 5 yn diwygio rheoliad 13 o Reoliadau 1986 er mwyn cynyddu gwerth y ffigur ar gyfer yr “amount withdrawn” o ddyfarniadau credyd treth teuluoedd sy'n gweithio a chredyd treth pobl anabl. (Mae'r ddarpariaeth hon yn cynyddu'r lefel incwm sy'n dod â'r rheini sy'n derbyn y credydau treth yn gymwys i gael prawf golwg GIG).

Yn rheoliad 6 ceir darpariaethau trosiannol.

(1)

1977 p.49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) (“Deddf 1990”), adran 26(2)(g) ac (i) i gael y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”.

Diwygiwyd adran 38 gan Ddeddf Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53) (“Deddf 1980”), adran 1 ac Atodlen 1, paragraff 51; gan Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.48) (“Deddf 1984”), adran 1(3); gan O.S. 1985/39, erthygl 7(11); gan Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49) (“Deddf 1988”), adran 13(1); a chan Ddeddf Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) (“Deddf 1995”), Atodlen 1, paragraff 27.

Estynwyd adran 39 gan Ddeddf 1988, adran 17; a'i diwygio gan Ddeddf Gwasanaethau Iechyd 1980 (p.53) , adran 1 ac Atodlen 1, paragraff 52, gan Ddeddf 1984, adran 1(4) ac Atodlen 1, paragraff 1 ac Atodlen 8; gan O.S.1985/39, erthygl 7(12); a chan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 28.

Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2) a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) (“Deddf 1999”), Atodlen 4, paragraff 37(6).

Amnewidiwyd paragraff 2(1) o Atodlen 12 gan Ddeddf 1988, Atodlen 2, paragraff 8(1); mewnosodwyd paragraff 2A o Atodlen 12 gan Ddeddf 1984, Atodlen 1, Rhan 1, paragraff 3 a'i ddiwygio gan Ddeddf 1988, adran 13(2) a (3).

Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 38, 39, 78, 126(4) a 127 o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977, a pharagraffau 2 a 2A o Atodlen 12 iddi, eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S.1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan adran 66(5) o Ddeddf 1999.