2002 Rhif 918 (Cy. 106)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 15(1), 35(1), 36(1) a (3) a 126(4) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 19771 drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002.

2

Yn y rheoliadau hyn—

  • ystyr “Rheoliadau 1992” (“the 1992 Regulations”) yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 19922;

3

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig.

Diwygio Atodlen 4 i Reoliadau 19922

Yn Rhan II o Atodlen 4 i Reoliadau 1992 (triniaeth â chymeradwyaeth ymlaen llaw), ym mharagraffau 1 a 2, yn lle “£260” rhowch “£375”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19983

Rhodri MorganY Prif Ysgrifennydd

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 1992 (“Rheoliadau 1992”).

Mae Rheoliadau 1992 yn rheoleiddio'r telerau y mae gwasanaethau deintyddol cyffredinol yn cael eu darparu odanynt o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.

Mae Rheoliad 2 yn diwygio Atodlen 4 i Reoliadau 1992 er mwyn cynyddu (o £260 i £375) y swm a bennir ynddi fel cost uchaf, neu gost debygol, y gofal a'r driniaeth y caiff deintydd ymgymryd â hwy heb ofyn am gymeradwyaeth ymlaen llaw gan y Bwrdd Ymarfer Deintyddol.