Offerynnau Statudol Cymru

2002 Rhif 918 (Cy. 106)

Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2002

Wedi'u gwneud

28 Mawrth 2002

Yn dod i rym

1 Ebrill 2002

Enwi, cychwyn, dehongli a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) (Diwygio) (Cymru) 2002 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2002.

(2Yn y rheoliadau hyn—

(3Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru'n unig.

Diwygio Atodlen 4 i Reoliadau 1992

2.  Yn Rhan II o Atodlen 4 i Reoliadau 1992 (triniaeth â chymeradwyaeth ymlaen llaw), ym mharagraffau 1 a 2, yn lle “£260” rhowch “£375”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)

Rhodri Morgan

Y Prif Ysgrifennydd

Dyddiad 28 Mawrth 2002

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Deintyddol Cyffredinol) 1992 (“Rheoliadau 1992”).

Mae Rheoliadau 1992 yn rheoleiddio'r telerau y mae gwasanaethau deintyddol cyffredinol yn cael eu darparu odanynt o dan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol 1977.

Mae Rheoliad 2 yn diwygio Atodlen 4 i Reoliadau 1992 er mwyn cynyddu (o £260 i £375) y swm a bennir ynddi fel cost uchaf, neu gost debygol, y gofal a'r driniaeth y caiff deintydd ymgymryd â hwy heb ofyn am gymeradwyaeth ymlaen llaw gan y Bwrdd Ymarfer Deintyddol.

(1)

1977 p.49; gweler adran 128(1) fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal Cymunedol 1990 (p.19) (“Deddf 1990”), adran 26(2)(g) ac (i) i gael y diffiniadau o “prescribed” a “regulations”.

Diwygiwyd adran 15(1) gan adran 5(2) o Ddeddf Iechyd a Nawdd Cymdeithasol 1984 (p.48) (“Deddf 1984”); gan Ddeddf 1990, adran 12(1) a chan Ddeddf yr Awdurdodau Iechyd 1995 (p.17) (“Deddf 1995”), adran 2(1) ac Atodlen 1, paragraff 6(e).

Cafodd adran 35(1) ei hamnewid gan O.S. 1985/39, erthygl 7(9), a'i diwygio gan Ddeddf 1995, Atodlen 1, paragraff 24.

Cafodd adran 36(1) ei rhifo felly gan Ddeddf 1984, Atodlen 3, paragraff 5(1) a'i diwygio gan O.S. 1981/432, erthygl 3(3)(a); gan O.S. 1985/39, erthygl 7(10); gan adran 25 o Ddeddf Iechyd a Meddyginiaethau 1988 (p.49) ac Atodlen 2, paragraff 4 iddi, gan Ddeddf 1990, adran 24(2) a chan Ddeddf 1995, adran 2(1) ac Atodlen 1, paragraff 25(a). Mewnosodwyd adran 36(3) gan Ddeddf 1990, adran 24(3).

Diwygiwyd adran 126(4) gan Ddeddf 1990, adran 65(2); a chan Ddeddf Iechyd 1999 (p.8) (“Deddf 1999”), Atodlen 4, paragraff 37(6).

Cafodd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adrannau 15(1), 35(1), 36(1) a (3) a 126(4) o Ddeddf 1977 eu trosglwyddo i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999, O.S.1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, fel y'i diwygiwyd gan adran 66(5) o Ddeddf 1999.

(2)

O.S. 1992/661; O.S. 1992/1509 a 2001/1359 yw'r offerynnau diwygio perthnasol.