2003 Rhif 152 (Cy.22) (C.8)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 10) a Darpariaethau Trosiannol (Cymru) 2003

Wedi'i wneud

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 118(6) a (7) a 122 o Ddeddf Safonau Gofal 20001 drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, dehongli a chymhwyso1

1

Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 10) a Darpariaethau Trosiannol (Cymru) 2003.

2

Yn y Gorchymyn hwn—

  • ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000;

3

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

Dyddiau penodedig2

1

30 Ionawr 2003 yw'r diwrnod a benodwyd ar gyfer dwyn i rym ddarpariaethau canlynol y Ddeddf

a

adrannau 8, 9(1) a (2), 10(2) i (7), 11 i 15, 17 i 21, 24, 26 i 32, 36 a 37 i'r graddau y mae eu darpariaethau —

i

yn ymwneud â chanolfannau preswyl i deuluoedd, asiantaethau maethu, ac asiantaethau mabwysiadau gwirfoddol; a

ii

nad ydynt eisoes mewn grym;

b

adrannau 45 a 46;

c

adran 53 i'r graddau y mae'n ymwneud â swyddogaethau maethu perthnasol;

ch

adran 116 i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau 5 (2), (4), (5), (7)(a) a (9) i (11) o Atodlen 4;

d

adran 117 i'r graddau y mae'n ymwneud â:

i

paragraff 2 o Atodlen 5; a

ii

Atodlen 6 i'r graddau y mae'n ymwneud ag adrannau 3, 4(1) a 4 (3), 5 a 9 (1) o Ddeddf Mabwysiadu 19762.

2

1 Chwefror 2003 yw'r diwrnod a benodwyd ar gyfer dwyn i rym adrannau 105 a 106 a pharagraff 21 o Atodlen 4 o'r Ddeddf.

Darpariaethau Trosiannol mewn perthynas ag asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol3

Bydd asiantaeth fabwysiadu gwirfoddol a gymeradwywyd, yn union cyn 30 Ebrill 2003, o dan adran 3 o Ddeddf Fabwysiadu 1976, yn cael ei thrin o 30 Ebrill 2003 ymlaen fel petai wedi gwneud cais am gael ei chofrestru o dan y Ddeddf a chael ei chofrestru o dan y Ddeddf honno.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19983

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gochymyn hwn yn dod â nifer o ddarpariaethau Deddf Safonau Gofal 2000 i rym mewn perthynas â rheoleiddio Canolfannau Preswyl i Deulueodd, Asiantaethau Mabwysiadu Gwirfoddol, Asiantaethau Maethu a Gwasanaethau Mabwysiadau Awdurdodau Lleol. Effaith y Gorchymyn hwn fydd dod â'r sefydliadau a'r asiantaethau hyn o fewn fframwaith rheoleiddio Deddf Safonau Gofal 2000, a gaiff ei orfodi yng Nghymru gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Mae darpariaethau pellach yn ymwneud â rhai darpariaethau o Ran VIII o Ddeddf Safonau Gofal 2000 eu heffaith yw diwygio Rhan XII o Ddeddf Plant 1989 (“Deddf 1989”) ac sy'n dod i rym ar 1 Chwefror 2003. Effaith y diwygiadau yw ehangu'r ddyletswydd i fonitro lles plant sy'n preswylio i bob ysgol a choleg addysg bellach sy'n darparu llety i blant. Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn disodli'r awdurdod lleol fel y corff monitro. Mae darpariaethau adrannau 87A ac 87B o Ddeddf 1989 sy'n caniatáu i sefydliadau benodi arolygydd wedi'i gymeradwyo i fonitro eu darpariaeth les yn yr un modd yn cael eu hestyn i bob ysgol a choleg addysg bellach sy'n darparu llety i blant.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau Deddf Safonau Gofal 2000 (“y Ddeddf”) y gwneir cofnod mewn perthynas â hwy yn y Tabl isod wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Chymru ar y dyddiad a bennir gyferbyn â'u cofnod. Cafodd y darpariaethau hynny y dilynir y cofnod amdanynt ag '(a)' eu dwyn i rym gan O.S. 2000/2992 (Cy.192) (C.93); cafodd y rhai a ddilynir gan '(b)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/139 (Cy.5) (C.7); cafodd y rhai a ddilynir gan '(c)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2190 (Cy.152) (C.70); cafodd y rhai a ddilynir gan '(ch)' eu dwyn i rym gan O.S.. 2001/2354 (Cy.192) (C.80); cafodd y rhai a ddilynir gan '(d)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2504 (Cy.205) (C.82); cafodd y rhai a ddilynir gan '(dd)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2538 (Cy.213) (C.83); cafodd y rhai a ddilynir gan '(e)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2782 (Cy.235) (C.92); cafodd y rhai a ddilynir gan '(f)' eu dwyn i rym gan O.S. 2002/920 (Cy.108) (C.24) a chafodd y rhai a ddilynir gan '(ff)' eu dwyn i rym gan O.S. 2002/1175 (Cy.123) (C.31).

Y Ddarpariaeth

Dyddiad Cychwyn

Adrannau 1 i 5 (c)

18 Mehefin 2001

Adran 7(7) (c)

18 Mehefin 2001

Adran 8 (yn rhannol) (c)

18 Mehefin 2001

Adran 8 (yn rhannol) (f)

1 Ebrill 2002

Adran 9(3) i (5) (c)

18 Mehefin 2001

Adran 9 (yn rhannot) (f)

1 Ebrill 2002

Adran 10(2) i (7) (yn rhannol) (f)

1 Ebrill 2002

Adrannau 11 a 12 (yn rhannol) (c)

18 Mehefin 2001

Adrannau 11 a 12 (yn rhannol) (f)

1 Ebrill 2002

Adran 13 (yn rhannol) (f)

1 Ebrill 2002

Adrannau 14 a 15 (yn rhannol) (c)

18 Mehefin 2001

Adrannau 14 a 15 (yn rhannol) (f)

1 Ebrill 2002

Adran 16 (c)

18 Mehefin 2001

Adrannau 17 to 21 (yn rhannol) (f)

1 Ebrill 2002

Adrannau 22 i 23 (c)

18 Mehefin 2001

Adran 24 (yn rhannol) (f)

1 Ebrill 2002

Adran 25 (c)

18 Mehefin 2001

Adrannau 26 i 32 (yn rhannol) (f)

1 Ebrill 2002

Adrannau 33 i 35 (c)

18 Mehefin 2001

Adran 36 (yn rhannol) (c)

18 Mehefin 2001

Adran 36 (yn rhannol) (f)

1 Ebrill 2002

Adran 37 (yn rhannol) (f)

1 Ebrill 2002

Adran 38 (c)

18 Mehefin 2001

Adran 39 (yn rhannol) (d)

31 Gorffennaf 2001

Adran 39 (gweddill) (d)

31 Awst 2001

Adran 40 (yn rhannol) (b)

1 Chwefror 2001

Adran 40 (gweddill) (b)

28 Chwefror 2001

Adran 41 (b)

28 Chwefror 2001

Adrannau 42 i 43 (c)

18 Mehefin 2001

Adrannau 48 i 52 (c)

18 Mehefin 2001

Adran 54(1), (3) i (7) (a)

1 Ebrill 2001

Adran 55 ac Atodlen 1 (a)

1 Ebrill 2001

Adrannau 56 i 62 (yn rhannol) (ff)

30 Ebrill 2002

Adran 63 (dd)

31 Gorffennaf 2001

Adran 64(2) i (4) (yn rhannol) (ff)

30 Ebrill 2002

Adran 65 (yn rhannol) (ff)

30 Ebrill 2002

Adran 66 (dd)

31 Gorffennaf 2001

Adran 67 (dd)

1 Hydref 2001

Adran 70(1) (dd)

1 Hydref 2001

Adran 71 (yn rhannol) (dd)

31 Gorffennaf 2001

Adran 71 (gweddill) (ff)

30 Ebrill 2002

Adran 72 ac Atodlen 2 (a)

13 Tachwedd 2000

Adran 72A (e)

26 Awst 2001

Adran 72B ac Atodlen 2A (e)

26 Awst 2001

Adran 73 (fel y'i diwygiwyd) ac Atodlen 2B (e)

26 Awst 2001

Adran 75 (fel y'i diwygiwyd) (e)

26 Awst 2001

Adran 75A (e)

26 Awst 2001

Adrannau 76 i 78 (fel y'u diwygiwyd) (e)

26 Awst 2001

Adran 79(1) (yn rhannol) (c)

18 Mehefin 2001

Adran 79(1) (gweddill) (f)

1 Ebrill 2002

Adran 79(2) ac Atodlen 3 (yn rhannol) (c)

18 Mehefin 2001

Adran 79(2) ac Atodlen 3 (gweddill) (f)

1 Ebrill 2002

Adran 79(3),(4) (c)

18 Mehefin 2001

Adran 79(5) (f)

1 Ebrill 2002

Adran 95 (f)

1 Ebrill 2002

Adran 98 (ch)

1 Gorffennaf 2001

Adrannau 107 i 108 (c)

18 Mehefin 2001

Adran 110 (f)

1 Ebrill 2002

Adran 112 (c)

18 Mehefin 2001

Adran 113 (2) i (4) (a)

1 Ebrill 2001

Adran 114 (yn rhannol) (a)

1 Ebrill 2001

Adran 114 (gweddill) (c)

18 Mehefin 2001

Adran 115 (c)

18 Mehefin 2001

Adran 116 ac Atodlen 4 (yn rhannol) (b)

28 Chwefror 2001

Adran 116 ac Atodlen 4 (yn rhannol) (c)

18 Mehefin 2001

Adran 116 ac Atodlen 4 (yn rhannol) (f)

1 Ebrill 2002

Adran 117(1) ac Atodlen 5 (yn rhannol) (c)

18 Mehefin 2001

Adran 117(1) ac Atodlen 5 (yn rhannol) (e)

26 Awst 2001

Adran 117(2) ac Atodlen 6 (yn rhannol) (f)

1 Ebrill 2002

Mae darpariaethau'r Ddeddf y gwneir cofnod mewn perthynas â hwy yn y Tabl isod wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Chymru, yn ogystal â mewn perthynas â Lloegr, ar y dyddiad a bennir gyferbyn â'r cofnod. Cafodd y darpariaethau hynny y dilynir y cofnod amdanynt ag '(a)' eu dwyn i rym gan O.S. 2000/2544 (C.72); a'r rhai y dilynir y cofnod amdanynt gan '(b)' eu dwyn i rym gan O.S. 2002/629 (C.19).

Y Ddarpariaeth

Dyddiad Cychwyn

Adran 80(8) (a)

2 Hydref 2000

Adran 94 (a)

2 Hydref 2000

Adran 96 (yn rhannol) (a)

15 Medi 2000

Adran 96 (gweddill) (a)

2 Hydref 2000

Adran 99 (a)

15 Medi 2000

Adran 100 (a)

2 Hydref 2000

Adran 101 (a)

2 Hydref 2000

Adran 102 (b)

18 Mawrth 2002

Adran 103 (a)

2 Hydref 2000

Adran 104 (yn rhannol) (b)

18 Mawrth 2002

Adran 104 (yn rhannol) (b)

1 Ebrill 2002

Adran 116 ac Atodlen 4 (yn rhannol) (a)

2 Hydref 2000

Adran 117(2) ac Atodlen 6 (yn rhannol) (a)

2 Hydref 2000

Yn ychwanegol cafodd amryw ddarpariaethau eraill o'r Ddeddf eu dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2000/2795 (C.79); O.S. 2001/290 (C.17); O.S. 2001/731 (C.26); O.S. 2001/952 (C.35); O.S. 2001/1210 (C.41); O.S. 2001/1536 (C.55); O.S. 2001/2041 (C.68); O.S. 2001/3331 (C.109); O.S. 2001/3852 (C.125); O.S. 2001/4150 (C.134); O.S. 2002/839 (C.22); O.S. 2002/1245 (C.33); O.S. 2002/1493 (C.43); O.S. 2002/1790 (C.55) ac O.S. 2002/2215 (C.70).