2003 Rhif 2528 (Cy.243) (C.95)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 12) (Cymru) 2003

Wedi'i wneud

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 118(6) a 122 o Ddeddf Safonau Gofal 20001 drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, dehongli a chymhwyso1

1

Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 12) (Cymru) 2003.

2

Yn y Gorchymyn hwn —

  • ystyr “y Ddeddf ” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000;

3

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

Dyddiau penodedig2

2 Hydref 2003 yw'r diwrnod a benodwyd ar gyfer dwyn i rym ddarpariaethau canlynol y Ddeddf—

a

Adrannau 8, 9(1) a (2), 11 i 15, 17 i 21, 24, 26 i 32, 36 a 37 i'r graddau y mae eu darpariaethau'n ymwneud ag asiantaethau nyrsys ac nad ydynt eisoes mewn grym;

b

is-adran (1) o adran 111, ac is-adran (2) o'r adran honno i'r graddau y mae'n hepgor, yn adran 13 o Ddeddf Cyflogaeth Asiantaethau 1973, baragraffau (b) ac (c) o is-adran (7) a'r amod sydd ynddi;

c

adran 117(2) o, ac Atodlen 6 i'r Ddeddf, i'r graddau y maent yn ymwneud â Deddf Asiantaethau Nyrsys 1957 a Deddf Cyflogaeth Asiantaethau 1973.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19982.

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym nifer o ddarpariaethau Deddf Safonau Gofal 2000 sy'n ymwneud â rheoleiddio Asiantaethau Nyrsio. Effaith hyn fydd dwyn yr asiantaethau hyn o fewn fframwaith reoliadol Deddf Safonau Gofal 2000. Bydd hefyd yn dwyn i rym ddiddymiad Deddf Asiantaethau Nyrsys 1957 y trwyddedwyd yr asiantaethau hyn odani gan yr Awdurdod Lleol perthnasol.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau Deddf Safonau Gofal 2000 y gwneir cofnod mewn perthynas â hwy yn y Tabl isod wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Chymru ar y dyddiad a bennir gyferbyn â'r cofnod. Cafodd y darpariaethau hynny y dilynir y cofnod amdanynt ag "(a)" eu dwyn i rym gan O.S. 2000/2992 (Cy.192) (C.93); cafodd y rhai a ddilynir gan "(b)" eu dwyn i rym gan O.S. 2001/139 (Cy.5) (C.7); cafodd y rhai a ddilynir gan "(c)" eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2190 (Cy.152) (C.70); cafodd y rhai a ddilynir gan "(d)" eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2354 (Cy.192) (C.80); cafodd y rhai a ddilynir gan "(e)" eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2504 (Cy.205) (C.82); cafodd y rhai a ddilynir gan "(f)" eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2538 (Cy.213) (C.83); cafodd y rhai a ddilynir gan "(g)" eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2782 (Cy.235) (C.92); cafodd y rhai a ddilynir gan "(h)" eu dwyn i rym gan O.S. 2002/920 (Cy.108) (C.24); cafodd y rhai a ddilynir gan "(i)" eu dwyn i rym gan O.S. 2002/1175 (Cy.123) (C.31), cafodd y rhai a ddilynir gan (j) eu dwyn i rym gan O.S. 2003/152 (Cy.22) (C.8) a chafodd y rhai a ddilynir gan "(k)" eu dwyn i rym gan O.S. 2003/ 501.

Y Ddarpariaeth

Y Dyddiad Cychwyn

Adrannau 1 i 5 (c)

1 Gorffennaf 2001

Adran 77 (c)

1 Gorffennaf 2001

Adran 8 (yn rhannol) (c)

1 Gorffennaf 2001

Adran 8 (yn rhannol) (h)

1 Ebrill 2002

Adran 8 (yn rhannol) (j)

30 Ionawr 2003

Adran 9(1) a (2) (yn rhannol) (j)

30 Ionawr 2003

Adran 9(3) i (5) (c)

1 Gorffennaf 2001

Adran 9 (gweddill) (h)

1 Ebrill 2002

Adran 10(2) i (7) (yn rhannol) (h)

1 Ebrill 2002

Adran 10(2) i (7) (yn rhannol) (j)

30 Ionawr 2003

Adrannau 11 a 12 (yn rhannol) (c)

1 Gorffennaf 2001

Adrannau 11 a 12 (yn rhannol) (h)

1 Ebrill 2002

Adrannau 11 a 12 (yn rhannol) (j)

30 Ionawr 2003

Adran 13 (yn rhannol) (h)

1 Ebrill 2002

Adran 13 (yn rhannol) (j)

30 Ionawr 2002

Adrannau 14 a 15 (yn rhannol) (c)

1 Gorffennaf 2001

Adrannau 14 a 15 (yn rhannol) (h)

1 Ebrill 2002

Adrannau 14 a 15 (yn rhannol) (j)

30 Ionawr 2003

Adran 16 (c)

1 Gorffennaf 2001

Adrannau 17 i 21 (yn rhannol) (h)

1 Ebrill 2002

Adrannau 17 i 21 (yn rhannol) (j)

30 Ionawr 2003

Adrannau 22 i 23 (c)

1 Gorffennaf 2001

Adran 24 (yn rhannol) (h)

1 Ebrill 2002

Adran 24 (yn rhannol) (j)

30 Ionawr 2003

Adran 25 (c)

1 Gorffennaf 2001

Adrannau 26 i 32 (yn rhannol) (h)

1 Ebrill 2002

Adrannau 26 i 32 (yn rhannol) (j)

30 Ionawr 2003

Adrannau 33 i 35 (c)

1 Gorffennaf 2001

Adran 36 (yn rhannol) (c)

1 Gorffennaf 2001

Adran 36 (yn rhannol) (h)

1 Ebrill 2002

Adran 36 (yn rhannol) (j)

30 Ionawr 2003

Adran 37 (yn rhannol) (h)

1 Ebrill 2002

Adran 37 (yn rhannol) (j)

30 Ionawr 2003

Adran 38 (c)

1 Gorffennaf 2001

Adran 39 (yn rhannol) (e)

31 Gorffennaf 2001

Adran 39 (gweddill) (e)

31 Awst 2001

Adran 40 (yn rhannol) (b)

1 Chwefror 2001

Adran 40 (gweddill) (b)

28 Chwefror 2001

Adran 41 (b)

28 Chwefror 2001

Adrannau 42 i 43 (c)

18Mehefin 2001

Adrannau 45 a 46 (j)

30 Ionawr 2003

Adrannau 48 i 52 (c)

1 Gorffennaf 2001

Adran 53 (yn rhannol) (j)

30 Ionawr 2003

Adran 54(1), (3) i (7) (a)

1 Ebrill 2001

Adran 55 ac Atodlen 1 (a)

1 Ebrill 2001

Adrannau 56 i 62 (yn rhannol) (i)

30 Ebrill 2002

Adran 56 a 58 i 60 a 62 (gweddill) (k)

1 Mehefin 2003

Adran 63 (f)

31 Gorffennaf 2001

Adran 64(2) i (4) (yn rhannol) (i)

30 Ebrill 2002

Adran 64(2) i (5) gweddill (k)

1 Mehefin 2003

Adran 65 (yn rhannol) (i)

30 Ebrill 2002

Adran 65 (gweddill) (k)

1 Mehefin 2003

Adran 66 (f)

31 Gorffennaf 2001

Adran 67 (f)

1 Hydref 2001

Adran 68 a 69 (k)

1 Mehefin 2003

Adran 70(1) (f)

1 Hydref 2001

Adran 71 (yn rhannol) (f)

31 Gorffennaf 2001

Adran 71 (gweddill) (i)

30 Ebrill 2002

Adran 72 ac Atodlen 2 (a)

13 Tachwedd 2000

Adran 72A (g)

26 Awst 2001

Adran 72B & Atodlen 2A (g)

26 Awst 2001

Adran 73 (fel y'i diwygiwyd) ac Atodlen 2B (g)

26 Awst 2001

Adran 75 (fel y'i diwygiwyd) (g)

26 Awst 2001

Adran 75A (g)

26 Awst 2001

Adrannau 76 i 78 (fel y'u diwygiwyd) (g)

26 Awst 2001

Adran 79(1) (yn rhannol) (c)

1 Gorffennaf 2001

Adran 79(1) (gweddill) (h)

1 Ebrill 2002

Adran 79(2) ac Atodlen 3 (yn rhannol) (c)

1 Gorffennaf 2001

Adran 79(2) & Atodlen 3 (gweddill) (h)

1 Ebrill 2002

Adran 79(3),(4) (c)

1 Gorffennaf 2001

Adran 79(5) (h)

1 Ebrill 2002

Adran 95 (h)

1 Ebrill 2002

Adran 98 (d)

1 Gorffennaf 2001

Adrannau 105 a 106 a pharagraff 21 o Atodlen 4 (j)

1 Chwefror 2003

Adrannau 107 i 108 (c)

1 Gorffennaf 2001

Adran 110 (h)

1 Ebrill 2002

Adran 112 (c)

1 Gorffennaf 2001

Adran 113 (2) i (4) (a)

1 Ebrill 2001

Adran 114 (yn rhannol) (a)

1 Ebrill 2001

Adran 114 (gweddill) (c)

1 Gorffennaf 2001

Adran 115 (c)

1 Gorffennaf 2001

Adran 116 & Atodlen 4 (yn rhannol) (b)

28 Chwefror 2001

Adran 116 ac Atodlen 4 (yn rhannol) (c)

1 Gorffennaf 2001

Adran 116 ac Atodlen 4 (yn rhannol) (h)

1 Ebrill 2002

Adran 116 & Atodlen 4 (yn rhannol) (j)

29 Ionawr 2003

Adran 117(1) ac Atodlen 5 (yn rhannol) (c)

1 Gorffennaf 2001

Adran 117(1) ac Atodlen 5 (yn rhannol) (g)

26 Awst 2001

Adran 117(2) ac Atodlen 6 (yn rhannol) (h)

1 Ebrill 2002

Adran 117 ac Atodlen 5 (yn rhannol) (j)

29 Ionawr 2003

Adran 117 ac Atodlen 6 (yn rhannol) (j)

29 Ionawr 2003

Adrannau 105 a 106 a pharagraff 21 o Atodlen 4

1 Chwefror 2003

Mae darpariaethau Deddf Safonau Gofal 2000 y gwneir cofnod mewn perthynas â hwy yn y Tabl isod wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Chymru, ac mewn perthynas â Lloegr hefyd, ar y dyddiad a bennir gyferbyn â'r cofnod. Cafodd y darpariaethau hynny y dilynir y cofnod amdanynt ag "(a)" eu dwyn i rym gan O.S. 2000/2544 (C.72); a'r rhai y dilynir y cofnod amdanynt gan "(b)" eu dwyn i rym gan O.S. 2002/629 (C.19).

Y Ddarpariaeth

Y Dyddiad Cychwyn

Adran 80(8) (a)

2 Hydref 2000

Adran 94 (a)

2 Hydref 2000

Adran 96 (yn rhannol) (a)

15 Medi 2000

Adran 96 (gweddill) (a)

2 Hydref 2000

Adran 99 (a)

15 Medi 2000

Adran 100 (a)

2 Hydref 2000

Adran 101 (a)

2 Hydref 2000

Adran 102 (b)

18 Mawrth 2002

Adran 103 (a)

2 Hydref 2000

Adran 104 (yn rhannol) (b)

18 Mawrth 2002

Adran 104 (yn rhannol) (b)

1 Ebrill 2002

Adran 116 & Atodlen 4 (yn rhannol) (a)

2 Hydref 2000

Adran 117(2) & Atodlen 6 (yn rhannol) (a)

2 Hydref 2000

Yn ychwanegol cafodd amryw ddarpariaethau eraill Deddf Safonau Gofal 2000 eu dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2000/2795 (C.79); O.S. 2001/290 (C.17); O.S. 2001/731 (C.26); O.S. 2001/952 (C.35); O.S. 2001/1210 (C.41); O.S. 2001/1536 (C.55); O.S. 2001/2041 (C.68); O.S. 2001/3331 (C.109); O.S. 2001/3852 (C.125); O.S. 2001/4150 (C.134); O.S. 2002/839 (C.22); O.S. 2002/1245 (C.33); O.S. 2002/1493 (C.43); O.S. 2002/1790 (C.55) ac O.S. 2002/2215 (C.70).