2003 Rhif 2708 (Cy.259)
Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Diwygio) (Cymru) 2003
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 79C a 104(4) o Ddeddf Plant 19891, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 22 Hydref 2003.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i'r personau sy'n gweithredu fel gwarchodwyr plant neu sy'n darparu gofal dydd ar dir ac mewn adeiladau perthnasol yng Nghymru.
Diwygiadau2
Diwygir Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 20022 fel a ganlyn —
a
rhodder yn lle rheoliad 4(3)(c)(i) “ac eithrio os yw paragraff (4) neu (5) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2;”
b
ar ôl rheoliad 4(3)(c) (iii) rhodder “(iv) os yw paragraff (5) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1, 2, 4 a 7 o Atodlen 2.”;
c
yn lle rheoliad 4(5) rhodder “Mae'r paragraff hwn yn gymwys os bydd person sy'n gyfrifol wedi'i benodi”;
ch
ar ôl rheoliad 4 rhodder —
Penodi person sy'n gyfrifol4A
1
Rhaid i'r person cofrestredig benodi unigolyn yn berson sydd yn gyfrifol am ddarparu gofal dydd —
a
os nad oes unrhyw berson sy'n gyfrifol am ddarparu gofal dydd; a
b
os yw'r person cofrestredig yn gorff ac nad yw'r unigolyn cyfrifol yn berson addas neu os nad yw'n gyfrifol neu'n bwriadu bod yn gyfrifol o ddydd i ddydd am y ddarpariaeth gofal dydd yn llawn; neu
c
os nad yw'r person cofrestredig yn berson addas neu os nad yw'n gyfrifol neu'n bwriadu bod yn gyfrifol o ddydd i ddydd am y ddarpariaeth gofal dydd yn llawn.
2
Os yw'r person cofrestredig yn penodi person sy'n gyfrifol am ddarparu gofal rhaid iddo ar unwaith hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r dyddiad pan fydd y person yn cymryd y cyfrifoldeb.
Y person sy'n gyfrifol — addasrwydd4B
1
Ni chaiff person weithredu fel y person sy'n gyfrifol am ddarparu gofal dydd onid yw'n addas i wneud hynny.
2
Nid yw person yn addas onid yw'r person yn bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3);
3
Y gofynion yw bod y person —
a
yn addas o ran gonestrwydd a chymeriad da i edrych ar ôl plant o dan wyth oed;
b
yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i edrych ar ôl plant o dan wyth oed; ac
c
bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl y digwydd, ar gael mewn perthynas â'r person —
i
ac eithrio os yw paragraff (4) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2;
ii
os yw paragraff (4) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 o Atodlen 2;
iii
yn ychwanegol, os yw paragraff (4) yn gymwys, adroddiad ysgrifenedig o wiriad o'r rhestrau a gedwir yn unol ag adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 a rheoliadau a wneir o dan adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988.
4
Mae'r paragraff hwn yn gymwys os bydd unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond na ddyroddwyd hi.
d
Yn rheoliad 5(1) ar ôl “person cofrestredig” rhodder “neu'r person sy'n gyfrifol”.
dd
Yn rheoliad 5 ar ôl paragraff (3) rhodder —
4
Os yw'r person sy'n gyfrifol wedi'i benodi rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y person sy'n gyfrifol yn ymgymryd â'r hyfforddiant hwnnw sy'n briodol er mwyn sicrhau bod ganddo'r sgiliau angenrheidiol ar gyfer darparu gofal dydd.
e
Yn rheoliad 6(1) ar ôl “person cofrestredig” rhodder “, y person sy'n gyfrifol”.
f
Yn rheoliad 6(2) ar ôl “person cofrestredig” rhodder “neu'r person sy'n gyfrifol”;
ff
Yn y testun Cymraeg o reoliad 21(1) yn lle “Rhaid i'r person cofrestredig” rhodder “Rhaid i'r person cofrestredig mewn cysylltiad â safleoedd perthnasol”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19983
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)