Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 2708 (Cy.259)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU,

Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Diwygio) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

21 Hydref 2003

Yn dod i rym

22 Hydref 2003

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 22 Hydref 2003.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i'r personau sy'n gweithredu fel gwarchodwyr plant neu sy'n darparu gofal dydd ar dir ac mewn adeiladau perthnasol yng Nghymru.

Diwygiadau

2.  Diwygir Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002(2) fel a ganlyn —

(a)rhodder yn lle rheoliad 4(3)(c)(i) “ac eithrio os yw paragraff (4) neu (5) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2;”

(b)ar ôl rheoliad 4(3)(c) (iii) rhodder “(iv) os yw paragraff (5) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1, 2, 4 a 7 o Atodlen 2.”;

(c)yn lle rheoliad 4(5) rhodder “Mae'r paragraff hwn yn gymwys os bydd person sy'n gyfrifol wedi'i benodi”;

(ch)ar ôl rheoliad 4 rhodder —

Penodi person sy'n gyfrifol

4A.(1) Rhaid i'r person cofrestredig benodi unigolyn yn berson sydd yn gyfrifol am ddarparu gofal dydd —

(a)os nad oes unrhyw berson sy'n gyfrifol am ddarparu gofal dydd; a

(b)os yw'r person cofrestredig yn gorff ac nad yw'r unigolyn cyfrifol yn berson addas neu os nad yw'n gyfrifol neu'n bwriadu bod yn gyfrifol o ddydd i ddydd am y ddarpariaeth gofal dydd yn llawn; neu

(c)os nad yw'r person cofrestredig yn berson addas neu os nad yw'n gyfrifol neu'n bwriadu bod yn gyfrifol o ddydd i ddydd am y ddarpariaeth gofal dydd yn llawn.

(2) Os yw'r person cofrestredig yn penodi person sy'n gyfrifol am ddarparu gofal rhaid iddo ar unwaith hysbysu swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol o'r dyddiad pan fydd y person yn cymryd y cyfrifoldeb.

Y person sy'n gyfrifol — addasrwydd

4B.(1) Ni chaiff person weithredu fel y person sy'n gyfrifol am ddarparu gofal dydd onid yw'n addas i wneud hynny.

(2) Nid yw person yn addas onid yw'r person yn bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3);

(3) Y gofynion yw bod y person —

(a)yn addas o ran gonestrwydd a chymeriad da i edrych ar ôl plant o dan wyth oed;

(b)yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i edrych ar ôl plant o dan wyth oed; ac

(c)bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol, yn ôl y digwydd, ar gael mewn perthynas â'r person —

(i)ac eithrio os yw paragraff (4) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 i 6 o Atodlen 2;

(ii)os yw paragraff (4) yn gymwys, mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir ym mharagraffau 1 a 3 i 7 o Atodlen 2;

(iii)yn ychwanegol, os yw paragraff (4) yn gymwys, adroddiad ysgrifenedig o wiriad o'r rhestrau a gedwir yn unol ag adran 1 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 a rheoliadau a wneir o dan adran 218 o Ddeddf Diwygio Addysg 1988.

(4) Mae'r paragraff hwn yn gymwys os bydd unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 2 ond na ddyroddwyd hi.

(d)Yn rheoliad 5(1) ar ôl “person cofrestredig” rhodder “neu'r person sy'n gyfrifol”.

(dd)Yn rheoliad 5 ar ôl paragraff (3) rhodder —

(4) Os yw'r person sy'n gyfrifol wedi'i benodi rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod y person sy'n gyfrifol yn ymgymryd â'r hyfforddiant hwnnw sy'n briodol er mwyn sicrhau bod ganddo'r sgiliau angenrheidiol ar gyfer darparu gofal dydd.

(e)Yn rheoliad 6(1) ar ôl “person cofrestredig” rhodder “, y person sy'n gyfrifol”.

(f)Yn rheoliad 6(2) ar ôl “person cofrestredig” rhodder “neu'r person sy'n gyfrifol”;

(ff)Yn y testun Cymraeg o reoliad 21(1) yn lle “Rhaid i'r person cofrestredig” rhodder “Rhaid i'r person cofrestredig mewn cysylltiad â safleoedd perthnasol”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

21 Hydref 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2002 i'w wneud yn ofynnol mewn amgylchiadau penodol fod yn rhaid i'r person cofrestredig benodi person i fod yn gyfrifol am ddarparu gofal dydd. Rhaid i'r person hwn fodloni'r gofynion a bennir o ran ei addasrwydd.

(1)

1989 p.41; mewnosodwyd adran 79C gan adran 79 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p.14).