2003 Rhif 3036 (Cy.284)

PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU

Gorchymyn Ardal Pysgodfeydd Môr De Cymru (Amrywio) 2003

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 1, a 2(1) a (5) o Ddeddf Rheoli Pysgodfeydd Môr 19661 ac a freiniwyd bellach ynddo2, ar gais Cyngor Sir Penfro a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf, ac wedi ymgynghori â phob awdurod lleol a fyddai yn cael ei effeithio, yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a dehongli1

1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Ardal Pysgodfeydd Môr De Cymru (Amrywio) 2003 a daw i rym ar 30 Tachwedd 2003.

2

Yn y Gorchymyn hwn ystyr “y prif Orchymyn” yw'r gorchymyn a wnaed gan y Bwrdd Amaethyddiaeth a Physgodfeydd ar 27 Mehefin 19123 (a greodd Ardal Pysgodfeydd Môr De Cymru ac a sefydlodd bwyllgor pysgodfeydd lleol er mwyn rheoli'r pysgodfeydd môr o fewn yr Ardal honno).

Diwygiadau i'r prif Orchymyn

2

Diwygir y prif Orchymyn yn unol ag erthyglau 3 i 5 isod.

3

Yn lle erthygl 7 (cyfansoddiad y pwyllgor) rhoddir y canlynol —

7

The committee shall be a joint committee of the county and county borough councils referred to in column 1 of the Schedule to this Order and shall consist of twenty one members appointed as follows —

a

the number of members appointed by each constituent council shall be the number indicated in relation to the council in column 2 of the Schedule to this Order ;

b

nine members appointed by the National Assembly for Wales;

c

one member appointed by the Environment Agency.

4

Yn lle erthygl 17 (treuliau) rhoddir y canlynol —

Expenses17

The expenses of the Committee, other than those which may be required to be incurred under section 17(2) of the Act, shall be chargeable jointly to the constituent councils in the proportions set out in Column 3 of the Schedule to this Order opposite the reference to each constituent council and shall be expenses for general county or county borough purposes.

5

Yn lle'r Atodlen rhoddir yr Atodlen a welir yn yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

ATODLEN

Erthygl 5 Erthyglau 7 ac 17

SCHEDULECONSTITUTION AND EXPENSES

Column 1

Column 2

Column 3

Constituent Councils

Number of Members

Percentage of expenses payable per financial year

Cardiff County Council

1

3%

Carmarthenshire County Council

2

24%

Pembrokeshire County Council

2

24%

Swansea County Council

2

24%

Bridgend County Borough Council

1

8%

Neath Port Talbot County Borough Council

2

11%

The Vale of Glamorgan County Borough Council

1

6%

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn amrywio ymhellach Orchymyn a wnaed gan y Bwrdd Amaethyddiaeth a Physgodfeydd ar 27 Mehefin 1912 (fel y'i diwygiwyd) i sefydlu Ardal Pysgodfeydd Môr De Cymru.

Mae'r Gorchymyn yn amrywio cyfansoddiad y pwyllgor pysgodfeydd lleol ar gyfer yr ardal er mwyn darparu i Gyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf dynnu'n ôl o'r pwyllgor. Er hynny, fe fydd ffiniau ardal môr yr Ardal Pysgodfeydd Môr yn parhau heb ei newid.

Mae nifer y cynrychiolwyr o bob cyngor a chyfraniad pob cyngor at dreuliau'r pwyllgor wedi' u pennu (erthyglau 3 a 4 a'r Atodlen).