- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Offerynnau Statudol Cymru
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
9 Rhagfyr 2003
Yn dod i rym
11 Rhagfyr 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 9(2) a (3) o Ddeddf Mabwysiadu 1976(1) drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:—
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 11 Rhagfyr 2003.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
2. Yn rheoliad 5A o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983(2) (deiliadaeth swydd aelodau), ar ôl paragraff (1), mewnosoder —
“(1A) Where —
(a)a member of an adoption panel holds office and is in his second consecutive term as a member of that panel; and
(b)his term of office is due to expire on or after 31st December 2003,
the adoption agency may extend the term of office of that member for a further period not exceeding two years.”.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
9 Rhagfyr 2003
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983 (“Rheoliadau 1983”) ac maent yn gymwys i Gymru.
Mae Rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 5A o Reoliadau 1983 er mwyn darparu y caiff asiantaeth fabwysiadu estyn cyfnod swydd aelod o banel mabwysiadu sydd yn ei swydd am yr ail gyfnod olynol ac mae'r cyfnod hwnnw'n dod i ben ar neu ar ôl 31 Rhagfyr 2003 am gyfnod pellach o ddwy flynedd.
Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gosod costau ar fusnes.
1976 p.36. Diwygiwyd adran 9(2) o Ddeddf Mabwysiadu 1976 (“Deddf 1976”) gan adran 116 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a pharagraff 5(6)(a) o Atodlen 4 iddi (p.14). Mae'r pwerau yn adran 9(2) a (3) yn arferadwy gan y “Gweinidog priodol” a diffinnir ef yn adran 9(5) o Ddeddf 1976 mewn perthynas â Chymru fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mewnosodwyd adran 9(5) o Ddeddf 1976 gan adran 139(2) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 a pharagraff 4(1)(b) o Atodlen 4 iddi (p.38).
O.S. 1983/1964. Mewnosodwyd Rheoliad 5A gan gan O.S. 1997/649.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: