2003 Rhif 3223 (Cy.306)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Diwygio) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 9(2) a (3) o Ddeddf Mabwysiadu 19761 drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:—

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 11 Rhagfyr 2003.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Diwygio rheoliad 5A o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 19832

Yn rheoliad 5A o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 19832 (deiliadaeth swydd aelodau), ar ôl paragraff (1), mewnosoder —

1A

Where —

a

a member of an adoption panel holds office and is in his second consecutive term as a member of that panel; and

b

his term of office is due to expire on or after 31st December 2003,

the adoption agency may extend the term of office of that member for a further period not exceeding two years.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19983

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983 (“Rheoliadau 1983”) ac maent yn gymwys i Gymru.

Mae Rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 5A o Reoliadau 1983 er mwyn darparu y caiff asiantaeth fabwysiadu estyn cyfnod swydd aelod o banel mabwysiadu sydd yn ei swydd am yr ail gyfnod olynol ac mae'r cyfnod hwnnw'n dod i ben ar neu ar ôl 31 Rhagfyr 2003 am gyfnod pellach o ddwy flynedd.

Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gosod costau ar fusnes.