Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 3223 (Cy.306)

PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Diwygio) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

9 Rhagfyr 2003

Yn dod i rym

11 Rhagfyr 2003

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Diwygio) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 11 Rhagfyr 2003.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Diwygio rheoliad 5A o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983

2.  Yn rheoliad 5A o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983(2) (deiliadaeth swydd aelodau), ar ôl paragraff (1), mewnosoder —

(1A) Where —

(a)a member of an adoption panel holds office and is in his second consecutive term as a member of that panel; and

(b)his term of office is due to expire on or after 31st December 2003,

the adoption agency may extend the term of office of that member for a further period not exceeding two years..

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3)

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Rhagfyr 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983 (“Rheoliadau 1983”) ac maent yn gymwys i Gymru.

Mae Rheoliad 2 yn diwygio rheoliad 5A o Reoliadau 1983 er mwyn darparu y caiff asiantaeth fabwysiadu estyn cyfnod swydd aelod o banel mabwysiadu sydd yn ei swydd am yr ail gyfnod olynol ac mae'r cyfnod hwnnw'n dod i ben ar neu ar ôl 31 Rhagfyr 2003 am gyfnod pellach o ddwy flynedd.

Nid yw'r Rheoliadau hyn yn gosod costau ar fusnes.

(1)

1976 p.36. Diwygiwyd adran 9(2) o Ddeddf Mabwysiadu 1976 (“Deddf 1976”) gan adran 116 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a pharagraff 5(6)(a) o Atodlen 4 iddi (p.14). Mae'r pwerau yn adran 9(2) a (3) yn arferadwy gan y “Gweinidog priodol” a diffinnir ef yn adran 9(5) o Ddeddf 1976 mewn perthynas â Chymru fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Mewnosodwyd adran 9(5) o Ddeddf 1976 gan adran 139(2) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002 a pharagraff 4(1)(b) o Atodlen 4 iddi (p.38).

(2)

O.S. 1983/1964. Mewnosodwyd Rheoliad 5A gan gan O.S. 1997/649.