Offerynnau Statudol Cymru
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU
Wedi'i wneud
4 Mawrth 2003
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 118(6) a 122 o Ddeddf Safonau Gofal 2000(1) drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:—
1.—(1) Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Safonau Gofal 2000 (Cychwyn Rhif 11) (Cymru) 2003.
(2) Yn y Gorchymyn hwn —
ystyr “Deddf” (“Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000;
ystyr “Cyngor” (“Council”) yw Cyngor Gofal Cymru a sefydlwyd gan adran 54(1)(b) o'r Ddeddf.
(3) Mae'r gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.
2.—(1) Y diwrnod a benodwyd ar gyfer dwyn i rym adran 116 o'r Ddeddf a pharagraff 26(1) a (3) o Atodlen 4 iddi i'r graddau maent yn mewnosod “68” yn adran 9(2)(d) o Ddeddf Diogelu Plant 1999(2) yw trannoeth y diwrnod y mae'r Gorchymyn hwn yn cael ei wneud.
(2) 1 Ebrill 2003 yw'r diwrnod a benodwyd ar gyfer dwyn i rym ddarpariaethau canlynol y Ddeddf—
(a)adran 57 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
(b)adran 60(b) i'r graddau y mae'n ymwneud â rheolau'r Cyngor o ran y dystiolaeth ddogfennol a thystiolaeth arall sydd i'w dangos gan y rheiny sy'n gwneud cais i gofrestru ac nad yw eisoes mewn grym;
(c)adran 104(1) i'r graddau y mae'n berthnasol i—
(i)adran 104(2)(b) i'r graddau y mae'n mewnosod adran 113(3E)(b) yn Neddf yr Heddlu 1997(3);
(ii)adran 104(3)(a) i'r graddau y mae'n mewnosod adran 115(5)(eb) yn Neddf yr Heddlu 1997.
(3) 30 Ebrill 2003 yw'r diwrnod a benodwyd ar gyfer dwyn i rym darpariaethau canlynol y Ddeddf—
(a)adran 116 ac Atodlen 4 iddi i'r graddau maent yn ymwneud â pharagraff 27 o'r Atodlen hwnnw;
(b)adran 117(2) ac Atodlen 6 iddi i'r graddau maent yn ymwneud â Deddf Fabwysiadu (Agweddau Rhyngwladol) 1999.
(4) 1 Mehefin 2003 yw'r diwrnod a benodwyd ar gyfer dwyn i rym adrannau 56, 58 i 60, 62, 64(2) i (5), 65, 68 a 69 o'r Ddeddf i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
4 Mawrth 2003
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym nifer o ddarpariaethau Deddf Safonau Gofal 2000.
Mae rhai o'r darpariaethau hyn, a ddygir i rym ar 1 Mehefin 2003, yn ei gwneud yn ofynnol i Gyngor Gofal Cymru, mewn perthynas â Chymru, gadw cofrestr o weithwyr cymdeithasol. Yn ychwanegol, dygir darpariaethau eraill i rym ar ddyddiad cynharach, 1 Ebrill 2003, er mwyn caniatáu i geisiadau i gofrestru fel gweithwyr cymdeithasol gael eu gwneud i'r Cyngor Gofal o'r dyddiad hwnnw ymlaen.
Mae'r Gorchymyn hwn hefyd yn dwyn i rym ar 30 Ebrill 2003 newidiadau penodol i Ddeddf Fabwysiadu (Agweddau Rhyngwladol) 1999 o ganlyniad i weithredu ar y dyddiad hwnnw y darpariaethau yn Rhan II o Ddeddf 2000 mewn perthynas ag asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau Deddf Safonau Gofal 2000 y gwneir cofnod mewn perthynas â hwy yn y Tabl isod wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Chymru ar y dyddiad a bennir gyferbyn â'r cofnod. Cafodd y darpariaethau hynny y dilynir y cofnod amdanynt ag '(a)' eu dwyn i rym gan O.S. 2000/2992 (Cy.192) (C.93); cafodd y rhai a ddilynir gan '(b)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/139 (Cy.5) (C.7); cafodd y rhai a ddilynir gan '(c)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2190 (Cy.152) (C.70); cafodd y rhai a ddilynir gan '(ch)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2354 (Cy.192) (C.80); cafodd y rhai a ddilynir gan '(d)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2504 (Cy.205) (C.82); cafodd y rhai a ddilynir gan '(dd)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2538 (Cy.213) (C.83); cafodd y rhai a ddilynir gan '(e)' eu dwyn i rym gan O.S. 2001/2782 (Cy.235) (C.92); cafodd y rhai a ddilynir gan '(f)' eu dwyn i rym gan O.S. 2002/920 (Cy.108) (C.24) a chafodd y rhai a ddilynir gan '(ff)' eu dwyn i rym gan O.S. 2002/1175 (Cy.123) (C.31).
Y Ddarpariaeth | Dyddiad Cychwyn |
---|---|
Adrannau 1 i 5 (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 7(7) (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 8 (yn rhannol) (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 8 (yn rhannol) (f) | 1 Ebrill 2002 |
Adran 9(3) i (5) (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 9 (gweddill) (f) | 1 Ebrill 2002 |
Adran 10(2) i (7) (f) | 1 Ebrill 2002 |
Adrannau 11 a 12 (yn rhannol) (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adrannau 11 a 12 (yn rhannol) (f) | 1 Ebrill 2002 |
Adran 13 (yn rhannol) (f) | 1 Ebrill 2002 |
Adrannau 14 a 15 (yn rhannol) (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adrannau 14 a 15 (yn rhannol) (f) | 1 Ebrill 2002 |
Adran 16 (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adrannau 17 to 21 (yn rhannol) (f) | 1 Ebrill 2002 |
Adrannau 22 i 23 (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 24 (yn rhannol) (f) | 1 Ebrill 2002 |
Adran 25 (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adrannau 26 i 32 (yn rhannol) (f) | 1 Ebrill 2002 |
Adrannau 33 i 35 (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 36 (yn rhannol) (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 36 (yn rhannol) (f) | 1 Ebrill 2002 |
Adran 37 (yn rhannol) (f) | 1 Ebrill 2002 |
Adran 38 (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 39 (yn rhannol) (d) | 31 Gorffennaf 2001 |
Adran 39 (gweddill) (d) | 31 Awst 2001 |
Adran 40 (yn rhannol) (b) | 1 Chwefror 2001 |
Adran 40 (gweddill) (b) | 28 Chwefror 2001 |
Adran 41 (b) | 28 Chwefror 2001 |
Adrannau 42 i 43 (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adrannau 48 i 52 (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 54(1), (3) i (7) (a) | 1 Ebrill 2001 |
Adran 55 & Atodlen 1 (a) | 1 Ebrill 2001 |
Adrannau 56 i 62 (yn rhannol) (ff) | 30 Ebrill 2002 |
Adran 63 (dd) | 31 Gorffennaf 2001 |
Adran 64(2) i (4) (yn rhannol) (ff) | 30 Ebrill 2002 |
Adran 65 (yn rhannol) (ff) | 30 Ebrill 2002 |
Adran 66 (dd) | 31 Gorffennaf 2001 |
Adran 67 (dd) | 1 Hydref 2001 |
Adran 70(1) (dd) | 1 Hydref 2001 |
Adran 71 (yn rhannol) (dd) | 31 Gorffennaf 2001 |
Adran 71 (gweddill) (ff) | 30 Ebrill 2002 |
Adran 72 & Atodlen 2 (a) | 13 Tachwedd 2000 |
Adran 72A (e) | 26 Awst 2001 |
Adran 72B & Atodlen 2A (e) | 26 Awst 2001 |
Adran 73 (fel y'i diwygiwyd) & Atodlen 2B (e) | 26 Awst 2001 |
Adran 75 (fel y'i diwygiwyd) (e) | 26 Awst 2001 |
Adran 75A (e) | 26 Awst 2001 |
Adrannau 76 i 78 (fel y'i diwygiwyd) (e) | 26 Awst 2001 |
Adran 79(1) (yn rhannol) (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 79(1) (gweddill) (f) | 1 Ebrill 2002 |
Adran 79(2) & Atodlen 3 (yn rhannol) (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 79(2) & Atodlen 3 (gweddill) (f) | 1 Ebrill 2002 |
Adran 79(3),(4) (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 79(5) (f) | 1 Ebrill 2002 |
Adran 95 (f) | 1 Ebrill 2002 |
Adran 98 (ch) | 1 Gorffennaf 2001 |
Adrannau 107 i 108 (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 110 (f) | 1 Ebrill 2002 |
Adran 112 (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 113(2) i (4) (a) | 1 Ebrill 2001 |
Adran 114 (yn rhannol) (a) | 1 Ebrill 2001 |
Adran 114 (gweddill) (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 115 (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 116 & Atodlen 4 (yn rhannol) (b) | 28 Chwefror 2001 |
Adran 116 & Atodlen 4 (yn rhannol) (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 116 & Atodlen 4 (yn rhannol) (f) | 1 Ebrill 2002 |
Adran 117(1) & Atodlen 5 (yn rhannol) (c) | 18 Mehefin 2001 |
Adran 117(1) & Atodlen 5 (yn rhannol) (e) | 26 Awst 2001 |
Adran 117(2) & Atodlen 6 (yn rhannol) (f) | 1 Ebrill 2002 |
Mae darpariaethau Deddf Safonau Gofal 2000 y gwneir cofnod mewn perthynas â hwy yn y Tabl isod wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Chymru, ac mewn perthynas â Lloegr hefyd, ar y dyddiad a bennir gyferbyn â'r cofnod. Cafodd y darpariaethau hynny y dilynir y cofnod amdanynt ag '(a)' eu dwyn i rym gan O.S. 2000/2544 (C.72); a'r rhai y dilynir y cofnod amdanynt gan '(b)' eu dwyn i rym gan O.S. 2002/629 (C.19).
Y Ddarpariaeth | Dyddiad Cychwyn |
---|---|
Adran 80(8) (a) | 2 Hydref 2000 |
Adran 94 (a) | 2 Hydref 2000 |
Adran 96 (yn rhannol) (a) | 15 Medi 2000 |
Adran 96 (gweddill) (a) | 2 Hydref 2000 |
Adran 99 (a) | 15 Medi 2000 |
Adran 100 (a) | 2 Hydref 2000 |
Adran 101 (a) | 2 Hydref 2000 |
Adran 102 (b) | 18 Mawrth 2002 |
Adran 103 (a) | 2 Hydref 2000 |
Adran 104 (yn rhannol) (b) | 18 Mawrth 2002 |
Adran 104 (yn rhannol) (b) | 1 Ebrill 2002 |
Adran 116 & Atodlen 4 (yn rhannol) (a) | 2 Hydref 2000 |
Adran 117(2) & Atodlen 6 (yn rhannol) (a) | 2 Hydref 2000 |
Yn ychwanegol cafodd amryw ddarpariaethau eraill y Ddeddf eu dwyn i rym mewn perthynas â Lloegr gan yr Offerynnau Statudol canlynol: O.S. 2000/2795 (C.79); O.S. 2001/290 (C.17); O.S. 2001/731 (C.26); O.S. 2001/952 (C.35); O.S. 2001/1210 (C.41); O.S. 2001/1536 (C.55); O.S. 2001/2041 (C.68); O.S. 2001/3331 (C.109); O.S. 2001/3852 (C.125); O.S. 2001/4150 (C.134); O.S. 2002/839 (C.22); O.S. 2002/1245 (C.33); O.S. 2002/1493 (C.43); O.S. 2002/1790 (C.55) ac O.S. 2002/2215 (C.70).
2000 p.14. Rhoddwyd y pwerau i'r Gweinidog priodol. Mae “appropriate Minister” yn golygu'r Cynulliad mewn perthynas â Chymru, a'r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon (a.121(1) o'r Ddeddf). Ystyr “Cynulliad” yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru (a.5(b) o'r Ddeddf).