2003 Rhif 559 (Cy.79)

PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU

Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Rheoli'r Gymuned) (Cymru) (Diwygio) 2003

Wedi'i wneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 30(2) o Ddeddf Pysgodfeydd 19811, ac a freiniwyd ynddo bellach2, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enw a Chychwyn1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Rheoli'r Gymuned) (Cymru) (Diwygio) 2003 a daw i rym ar 9 Mawrth 2003.

Diwygio Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Rheoli'r Gymuned) (Cymru) 20002

1

Diwygir Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Rheoli'r Gymuned) (Cymru) 20003 yn unol â darpariaethau'r erthygl hwn.

2

Mewnosodir y diffiniad canlynol yn y man priodol yn erthygl 2(1):

  • Ystyr “Annex XVII” yw Annex XVII i Reoliad y Cyngor 2341/2002 dyddiedig 20 Rhagfyr 2002 yn pennu ar gyfer 2003 y cyfleoedd pysgota a'r amodau cysylltiedig ar gyfer stociau penodol o bysgod a grwpiau o stociau pysgod sydd yn gymwys yn nyfroedd y Gymuned ac, ar gyfer cychod y Gymuned, mewn dyfroedd lle y mae cyfyngu haldiadau yn ofynnol;

3

Ychwanegir, ar ddiwedd y diffiniad o “Rheoliad 2847/93” yn erthygl 2(1), y geiriau “ac fel y'i cymhwysir gan baragraff 12 a'i cyfyngir gan baragraff 20 o Atodiad XVII”.

4

Mewnosodir, yng ngholofn 3 o bob cofnod ar gyfer eitemau 2(h), (i), (l) ac (ll) o'r Atodlen, ar ôl y geiriau “15 metr” lle bynnag yr ymddangosant, y geiriau “neu, i'r graddau sy'n gymwys o ganlyniad i baragraff 12 o Atodiad XVII, yn gyfartal i 10 metr neu'n fwy na hynny)”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984

D.Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae Atodiad XVII i Reoliad y Cyngor 2341/2002 dyddiedig 20 Rhagfyr 2002 yn cyfyngu ar nifer y dyddiau ar y môr y caiff cychod pysgota eu treulio mewn ardaloedd môr penodol. Nid yw'r ardaloedd hynny yn cynnwys unrhyw fôr o fewn awdurdodaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan na chynhwysir Môr Iwerddon.

Fodd bynnag, mae angen cynnwys manylion yr Atodiad yng Ngorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Rheoli'r Gymuned) (Cymru) 2000, er mwyn i'r pwerau gorfodi a gynhwysir yn y Gorchymyn hwnnw fod ar gael yng Nghymru i orfodi'r Atodiad.

Ni pharatowyd Arfarniad Rheoliadol mewn cysylltiad â'r Gorchymyn hwn.