Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 559 (Cy.79)

PYSGODFEYDD MÔR, CYMRU

Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Rheoli'r Gymuned) (Cymru) (Diwygio) 2003

Wedi'i wneud

6 Mawrth 2003

Yn dod i rym

9 Mawrth 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adran 30(2) o Ddeddf Pysgodfeydd 1981(1), ac a freiniwyd ynddo bellach(2), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enw a Chychwyn

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Rheoli'r Gymuned) (Cymru) (Diwygio) 2003 a daw i rym ar 9 Mawrth 2003.

Diwygio Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Rheoli'r Gymuned) (Cymru) 2000

2.—(1Diwygir Gorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Rheoli'r Gymuned) (Cymru) 2000(3) yn unol â darpariaethau'r erthygl hwn.

(2Mewnosodir y diffiniad canlynol yn y man priodol yn erthygl 2(1):

(3Ychwanegir, ar ddiwedd y diffiniad o “Rheoliad 2847/93” yn erthygl 2(1), y geiriau “ac fel y'i cymhwysir gan baragraff 12 a'i cyfyngir gan baragraff 20 o Atodiad XVII”.

(4Mewnosodir, yng ngholofn 3 o bob cofnod ar gyfer eitemau 2(h), (i), (l) ac (ll) o'r Atodlen, ar ôl y geiriau “15 metr” lle bynnag yr ymddangosant, y geiriau “neu, i'r graddau sy'n gymwys o ganlyniad i baragraff 12 o Atodiad XVII, yn gyfartal i 10 metr neu'n fwy na hynny)”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)

D.Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

6 Mawrth 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae Atodiad XVII i Reoliad y Cyngor 2341/2002 dyddiedig 20 Rhagfyr 2002 yn cyfyngu ar nifer y dyddiau ar y môr y caiff cychod pysgota eu treulio mewn ardaloedd môr penodol. Nid yw'r ardaloedd hynny yn cynnwys unrhyw fôr o fewn awdurdodaeth Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan na chynhwysir Môr Iwerddon.

Fodd bynnag, mae angen cynnwys manylion yr Atodiad yng Ngorchymyn Pysgota Môr (Gorfodi Mesurau Rheoli'r Gymuned) (Cymru) 2000, er mwyn i'r pwerau gorfodi a gynhwysir yn y Gorchymyn hwnnw fod ar gael yng Nghymru i orfodi'r Atodiad.

Ni pharatowyd Arfarniad Rheoliadol mewn cysylltiad â'r Gorchymyn hwn.

(2)

Yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) trosglwyddwyd swyddogaethau “the Ministers” (fel y'u diffinir gan yr adran honno) mewn perthynas ag adran 30 o Ddeddf 1981, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy gan yr Ysgrifennydd Gwladol a oedd yn gyfrifol am y diwydiant pysgod môr yng Nghymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru .