Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 56 (Cy.6)

HADAU, CYMRU

Rheoliadau Hadau (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

15 Ionawr 2003

Yn dod i rym

16 Ionawr 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 16(1), (1A), (2) a (3) a 36 o Ddeddf Amrywiaethau Planhigion a Hadau(1) a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, ac wedi ymgynghori yn unol ag adran 16(1) o'r Ddeddf honno gyda chynrychiolwyr y buddiannau hynny y mae'n ymddangos iddo fod ganddynt ddiddordeb, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enw, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Hadau (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 16 Ionawr 2003.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

Diwygio Rheoliadau Hadau Grawn 1993

2.—(1Diwygir Rheoliadau Hadau Grawn 1993(2) yn unol â darpariaethau'r rheoliad hwn.

(2Yn rheoliad 3(3) (Dehongli) ar ôl y diffiniad o “Certified Seed of the Second Generation” mewnosodir y diffiniad canlynol—

“Excepted Seed Marketed in Bulk” means Certified Seed (other than seeds of maize), Certified Seed of the First Generation or Certified Seed of the Second Generation—

(a)

which is marketed in bulk direct to the final consumer in a container that is closed after filling; and

(b)

in respect of which a random sample has been taken in accordance with paragraph 8A of Schedule 5, by a person authorised in that behalf..

(3Yn rheoliad 8 (Selio pecynnau)—

(a)ym mharagraff (1) yn lle'r gair “No” rhoddir “Subject to paragraph (1A) below, no”; a

(b)ar ôl paragraff (1) mewnosodir—

(1A) Paragraph (1) shall not apply to Excepted Seed Marketed in Bulk..

(4Yn rheoliad 9 (Labelu pecynnau)—

(a)ym mharagraff (1) yn lle'r geiriau “paragraph (12)” rhoddir “paragraphs (12) and (12A)”; a

(b)ar ôl paragraff (12) mewnosodir—

(12A) Paragraph (1) above shall not apply to Excepted Seed Marketed in Bulk..

(5Ar ôl rheoliad 9A mewnosodir—

Provision of information to the final consumer about Excepted Seed Marketed in Bulk

9B.  On delivery of Excepted Seed Marketed in Bulk to the final consumer, the supplier shall also deliver to the final consumer a note containing the information given on the official label on the container from which seed was taken.

Notification of Excepted Seed Marketed in Bulk

9C.  A supplier of seed shall prior to 10th January 2004 and prior to 10th January in each year thereafter notify the National Assembly, in such manner as it may from time to time specify, of the quantities of Excepted Seed Marketed in Bulk by that supplier in the period from 1st January to 31st December in the immediately preceding year..

(6Ar ôl paragraff 8 o Atodlen 5 mewnosodir—

8A.  Random sampling of seed lots of seed which is intended to be Excepted Seed Marketed in Bulk shall be carried out in accordance with the requirements of this Schedule during the filling of the container used by the final consumer into which the seed is placed..

Diwygio Rheoliadau Hadau Planhigion Porthiant 1993

3.—(1Diwygir Rheoliadau Hadau Planhigion Porthiant 1993(3) yn unol â darpariaethau'r rheoliad hwn.

(2Yn rheoliad 3(3) (Dehongli) ar ôl y diffiniad o “Commercial Seed” mewnosodir y diffiniad canlynol—

“Excepted Seed Marketed in Bulk” means Certified Seed of the First Generation or Certified Seed of the Second Generation—

(a)

which is marketed in bulk direct to the final consumer in a container that is closed after filling; and

(b)

in respect of which a random sample has been taken in accordance with paragraph 8A of Schedule 5 by a person authorised in that behalf..

(3Yn rheoliad 8 (Selio pecynnau)—

(a)ym mharagraff (1) yn lle'r geiriau “No” rhoddir “Subject to paragraph (1A) below, no”; a

(b)ar ôl paragraff (1) mewnosodir—

(1A) Paragraph (1) shall not apply to Excepted Seed Marketed in Bulk..

(4Yn rheoliad 9 (Labelu pecynnau)—

(a)ym mharagraff (1) yn lle'r geiriau “paragraph (7)” rhoddir “paragraphs (12) and (12A)”; a

(b)ar ôl paragraff (12) mewnosodir—

(12A) Paragraph (1) shall not apply to Excepted Seed Marketed in Bulk..

(5Ar ôl rheoliad 9A mewnosodir—

Provision of information to the final consumer about Excepted Seed Marketed in Bulk

9B.  On delivery of Excepted Seed Marketed in Bulk to the final consumer, the supplier shall also deliver to the final consumer a note containing the information given on the official label on the container from which seed was taken.

Notification of Excepted Seed Marketed in Bulk

9C.  A supplier of seed shall prior to 10th January 2004 and prior to 10th January in each year thereafter notify the National Assembly, in such manner as it may from time to time specify, of the quantities of Excepted Seed Marketed in Bulk by that supplier in the period from 1st January to 31st December in the immediately preceding year..

(6Ar ôl paragraff 8 o Atodlen 5 mewnosodir—

8A.  Random sampling of seed lots of seed which is intended to be Excepted Seed Marketed in Bulk shall be carried out in accordance with the requirements of this Schedule during the filling of the container used by the final consumer into which the seed is placed..

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)

D.Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

15 Ionawr 2003

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach (mewn perthynas â Chymru) y Rheoliadau Hadau Grawn 1993 fel y'u diwygiwyd (“y Rheoliadau hadau grawn”) a'r Rheoliadau Hadau Planhigion Porthiant 1993 fel y'u diwygiwyd (“y Rheoliadau hadau planhigion porthiant”).

Mae'r Rheoliadau hyn yn esemptio mathau penodol o hadau a swmp-farchnateir o'r gofynion labelu a phecynnu yn y Rheoliadau hadau grawn a'r Rheoliadau hadau planhigion porthiant (rheoliadau 2(2) i (4) a 3(2) i (4)). Mae'r esemptiadau hyn yn rhan-ddirymiadau o Gyfarwyddeb y Cyngor 66/402/EEC (OJ Rhif L125, 11.7.66, t.2309) (fel y'i diwygiwyd) a Chyfarwyddeb y Cyngor 66/401/EEC (OJ Rhif L125, 11.7.66, t.2298) (fel y'i diwygiwyd) yn eu tro. Caniateir y rhan-ddirymiadau hyn gan Gyfarwyddeb y Cyngor 2001/64/EC.

Mae'r Rheoliadau yn pennu amodau ar gyfer yr esemptiad, gan weithredu Cyfarwyddeb y Cyngor 2001/64/EC a Phenderfyniad y Comisiwn 94/650/EC (OJ Rhif L252, 28.9.1994, t.15), fel y'i diwygiwyd yn berthnasol gan Benderfyniad y Comisiwn 1998/174/EC (OJ Rhif L63, 4.3.98, t.31) a Phenderfyniad y Comisiwn 2000/441/EC (OJ Rhif L176, 15.7.00, t.50) (rheoliadau 2(2), (5) a (6) a 3(2), (5) a (6)).

(1)

1964 p.14; diwygiwyd adran 6 gan Ddeddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972 (p.68), adran 4(1) ac Atodlen 4 paragraff 5; gweler adran 38(1) ar gyfer y diffiniad o “the Ministers”. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â Chymru i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672).