Offerynnau Statudol Cymru

2003 Rhif 710 (Cy.86)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU

PLANT A PHERSONAU IFANC, CYMRU

Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Awdurdodau Lleol a Diwygiadau Amrywiol (Cymru) 2003

Wedi'u gwneud

12 Mawrth 2003

Yn dod i rym

30 Ebrill 2003

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 9(2), (3) a (3A) a 67(5) o Ddeddf Fabwysiadu 1976(1) ac adrannau 12(2), 15(3), 16(1), (2) a (3), 22(1), (2)(a) i (d), (f) i (j), (5)(a) a (c), (7)(a) i (h), (j) a (8)(c), 33, 34(1), 35 a 118(5) i (7) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(2) a phob pŵer arall syn ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau Canlynol:—

RHAN 1CYFFREDINOL

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Gwasanaethau Mabwysiadu Awdurdodau Lleol a Diwygiadau Amrywiol (Cymru) 2003 a deuant i rym ar 30 Ebrill 2003.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru yn unig.

Dehongli

2.—(1Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “arweiniad plant” (“children’s guide”) yw'r arweiniad ysgrifenedig a luniwyd yn unol â rheoliad 4;

ystyr “Cynulliad Cenedlaethol” (“National Assembly”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

ystyr “datganiad o ddiben” (“statement of purpose”) yw'r datganiad ysgrifenedig a luniwyd yn unol â rheoliad 3(1);

mae i “gwarcheidwad” yr ystyr a roddir i “guardian” yn adran 5 o Ddeddf Plant 1989(3);

ystyr “gwasanaeth mabwysiadu” (“adoption service”) yw'r weithred o gyflawni swyddogaethau mabwysiadu perthnasol gan awdurdod lleol o fewn ystyr “discharge by that authority of relevant adoption functions” yn adran 43(3)(a) o Ddeddf Safonau Gofal 2000;

rhaid dehongli “rheolwr” (“manager”) yn unol â rheoliad 6;

ystyr “swyddfa briodol” (“appropriate office”) mewn perthynas â gwasanaeth mabwysiadu awdurdod lleol —

(a)

os oes swyddfa wedi'i phennu o dan baragraff (2) ar gyfer yr ardal y mae'r gwasanaeth mabwysiadu wedi'i leoli ynddi, yw'r swyddfa honno;

(b)

mewn unrhyw achos arall, yw unrhyw un o swyddfeydd y Cynulliad Cenedlaethol.

(2Caiff y Cynulliad Cenedlaethol bennu swyddfa o dan ei reolaeth fel y swyddfa briodol mewn perthynas ag awdurdodau lleol.

(3Yn y Rheoliadau hyn, mae cyfeiriad —

(a)at reoliad neu Atodlen â Rhif yn gyfeiriad at y rheoliad yn y Rheoliadau hyn, neu at yr Atodlen iddynt, sy'n dwyn y Rhif hwnnw;

(b)mewn rheoliad neu Atodlen at baragraff â Rhif , yn gyfeiriad at y paragraff yn y rheoliad neu'r Atodlen sy'n dwyn y Rhif hwnnw;

(c)mewn paragraff at is-baragraff â llythyren neu rif yn gyfeiriad at yr is-baragraff yn y paragraff hwnnw sy'n dwyn y llythyren honno neu'r Rhif hwnnw.

(4Yn y Rheoliadau hyn, onid ymddengys bwriad fel arall, mae cyfeiriadau at gyflogi person yn cynnwys—

(a)cyflogi person boed am dâl neu beidio;

(b)cyflogi person o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau; ac

(c)caniatáu i berson weithio fel gwirfoddolwr;

a rhaid dehongli cyfeiriadau at gyflogai neu at berson sy'n cael ei gyflogi yn unol â hynny.

Datganiad o Ddiben

3.—(1Rhaid i bob awdurdod lleol lunio mewn perthynas â gwasanaeth mabwysiadu ddatganiad ysgrifenedig (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “y datganiad o ddiben”) a rhaid iddo gynnwys datganiad ynglŷn â'r materion a restrir yn Atodlen 1.

(2Rhaid i'r awdurdod ddarparu copi o'r datganiad o ddiben i'r Cynulliad Cenedlaethol a rhaid iddo drefnu bod copi ohono ar gael, os gofynnir amdano, i'w archwilio gan y canlynol —

(a)plant y gellir eu mabwysiadu, eu rhieni a'u gwarcheidwaid;

(b)personau sy'n dymuno mabwysiadu plentyn;

(c)personau sydd wedi'u mabwysiadu, eu rhieni, eu rhieni naturiol a'u cyn warcheidwaid;

(ch)pob person sydd yn gweithio at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i'r awdurdod sicrhau fod ei wasanaeth mabwysiadu yn cael ei redeg bob amser mewn modd sy'n gyson â'i ddatganiad o ddiben.

(4Ni fydd dim ym mharagraff (3) yn ei gwneud yn ofynnol i'r awdurdod dorri unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn, na pheidio â chydymffurfio â hi nac yn ei awdurdodi i wneud hynny.

Arweiniad Plant

4.—(1Rhaid i bob awdurdod lleol lunio arweiniad ysgrifenedig i'r gwasanaeth mabwysiadu (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “yr arweiniad plant”) a rhaid iddo gynnwys datganiad ynglŷn â'r materion a restrir yn Atodlen 2.

(2Rhaid i'r awdurdod ddarparu copi o'r arweiniad plant i'r canlynol —

(a)y Cynulliad Cenedlaethol;

(b)pob darpar fabwysiadydd cymeradwy y mae'r awdurdod wedi lleoli plentyn i'w fabwysiadu gyda hwy; ac

(c)pob plentyn (yn dibynnu ar ei oedran a'i ddealltwriaeth), y caniateir ei leoli neu sydd wedi'i leoli i'w fabwysiadu gan yr awdurdod.

Adolygu'r datganiad o ddiben a'r arweiniad plant

5.  Rhaid i bob awdurdod lleol —

(a)cadw'r datganiad o ddiben a'r arweiniad plant o dan sylw ac, os yw'n briodol, eu hadolygu; a

(b)hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol o unrhyw ddiwygiad o'r fath o fewn 28 diwrnod.

RHAN 2RHEOLWYR

Penodi rheolwr

6.—(1Rhaid i bob awdurdod lleol benodi un o'i swyddogion i reoli'r gwasanaeth mabwysiadu a rhaid iddo hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn ddi-oed o'r canlynol —

(a)enw'r person a benodwyd yn unol â'r rheoliad hwn; a

(b)y dyddiad y mae'r penodiad i ddod yn weithredol.

(2Rhaid i'r awdurdod hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn ddi-oed os yw'r person a benodwyd o dan baragraff (1) yn rhoi'r gorau i reoli'r gwasanaeth mabwysiadu.

Ffitrwydd y rheolwr

7.—(1Rhaid i berson beidio â rheoli'r gwasanaeth mabwysiadu oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.

(2Nid yw person yn ffit i reoli gwasanaeth mabwysiadu oni bai —

(a)ei fod yn onest ac o gymeriad da;

(b)o roi sylw i faint yr awdurdod a'i ddatganiad o ddiben —

(i)bod gan y person y cymwysterau, y medrau a'r profiad sy'n angenrheidiol i reoli'r gwasanaeth mabwysiadu; a

(ii)bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i reoli'r gwasanaeth mabwysiadu; ac

(c)bod gwybodaeth lawn a boddhaol mewn perthynas â phob un o'r materion a restrir yn Atodlen 3.

Gofynion cyffredinol

8.—(1Rhaid i'r rheolwr, o roi sylw —

(a)i faint yr awdurdod lleol a'i ddatganiad o ddiben; a

(b)i'r angen am ddiogelu a hybu lles y plant a allai gael eu lleoli, neu sydd wedi'u lleoli, gan yr awdurdod i'w mabwysiadu,

reoli'r gwasanaeth mabwysiadu â gofal, medrusrwydd a medr digonol.

(2Rhaid i'r rheolwr ymgymryd o dro i dro ag unrhyw hyfforddiant sy'n briodol er mwyn sicrhau bod gan y rheolwr hwnnw y profiad a'r medrau y mae eu hangen i redeg y gwasanaeth mabwysiadu.

Hysbysu tramgwyddau

9.  Os yw'r rheolwr wedi'i gollfarnu o unrhyw dramgwydd troseddol, boed yng Nghymru a Lloegr neu yn rhywle arall, rhaid iddo hysbysu'r Cynulliad Cenedlaethol yn ysgrifenedig ar unwaith—

(a)o ddyddiad a man y collfarniad;

(b)o'r tramgwydd y'i collfarnwyd ohono; ac

(c)o'r gosb a osodwyd arno mewn perthynas â'r tramgwydd.

RHAN 3RHEDEG GWASANAETH MABWYSIADU AWDURDOD LLEOL

Trefniadau ar gyfer amddiffyn plant

10.  Rhaid i bob awdurdod lleol baratoi a gweithredu polisi ysgrifenedig —

(a)sydd wedi'i fwriadu i ddiogelu plant sydd wedi'u lleoli gan yr awdurdod i'w mabwysiadu rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso; a

(b)sy'n nodi'r weithdrefn i'w dilyn os bydd unrhyw honiad o gam-drin neu esgeuluso.

Staffio

11.  Rhaid i bob awdurdod lleol sicrhau, gan roi sylw—

(a)i faint yr awdurdod a'i ddatganiad o ddiben; a

(b)i'r angen am ddiogelu a hybu iechyd a lles y plant a allai gael eu lleoli neu sydd wedi'u lleoli gan yr awdurdod i'w mabwysiadu,

fod nifer digonol o bersonau hyfedr a phrofiadol â chymwysterau addas yn gweithio at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu.

Ffitrwydd y gweithwyr

12.—(1Rhaid i awdurdod lleol beidio â gwneud y canlynol —

(a)cyflogi person i weithio at ddibenion eu gwasanaeth mabwysiadu oni bai bod y person hwnnw yn ffit i weithio at ddibenion gwasanaeth mabwysiadu; neu

(b)caniatáu i berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo, weithio at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu oni bai bod y person hwnnw yn ffit i weithio at ddibenion gwasanaeth mabwysiadu.

(2Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson a gyflogir gan berson heblaw'r awdurdod mewn swydd lle y gallai wrth gyflawni ei ddyletswyddau gael cysylltiad rheolaidd â phlant a allai gael eu lleoli, neu sydd wedi'u lleoli, i'w mabwysiadu gan yr awdurdod.

(3At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn ffit i weithio at ddibenion gwasanaeth mabwysiadu awdurdod oni bai —

(a)ei fod yn onest ac o gymeriad da;

(b)bod ganddo y cymwysterau, y medrau a'r profiad sy'n angenrheidiol ar gyfer y gwaith y mae i'w gyflawni;

(c)bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i wneud y gwaith y mae i'w gyflawni; ac

(ch)bod gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael ynglyn â'r person mewn perthynas â phob un o'r materion a bennir yn Atodlen 3.

(4Mae'r paragraff hwn yn gymwys pan fydd unigolyn wedi gwneud cais am dystysgrif y cyfeirir ati ym mharagraff 2 o Atodlen 3, ond nad yw'r dystysgrif wedi ei rhoi.

(5Rhaid i'r awdurdod gymryd camau rhesymol i sicrhau bod unrhyw berson sy'n gweithio at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu nad yw'n cael ei gyflogi gan yr awdurdod ac nad yw paragraff (2) yn gymwys iddo yn cael ei oruchwylio'n briodol wrth gyflawni ei ddyletswyddau.

Cyflogi staff

13.—(1Rhaid i bob awdurdod lleol —

(a)sicrhau bod bob penodiad parhaol sy'n cael ei wneud gan yr awdurdod at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu yn amodol ar gwblhau cyfnod prawf yn foddhaol; a

(b)darparu disgrifiad swydd sy'n amlinellu eu cyfrifoldebau i bob cyflogai sy'n cael ei gyflogi gan yr awdurdod at ddibenion ei wasanaeth mabwysiadu.

(2Rhaid i'r awdurdod sicrhau bod bob person sy'n cael ei gyflogi gan yr awdurdod at ddibenion y gwasanaeth mabwysiadu —

(a)yn cael ei hyfforddi, ei oruchwylio a'i werthuso'n briodol; a

(b)yn cael ei alluogi o dro i dro i ennill cymwysterau pellach sy'n briodol i'r gwaith y mae'n ei gyflawni.

Gweithdrefn disgyblu'r staff

14.—(1Rhaid i bob awdurdod lleol weithredu gweithdrefn disgyblu sydd, yn benodol —

(a)yn darparu ar gyfer gwahardd dros dro cyflogai os bydd angen gwneud hynny o ystyried diogelwch neu les y plant y gellir eu lleoli, neu sydd wedi'u lleoli, gan yr awdurdod i'w mabwysiadu;

(b)yn darparu bod y methiant ar ran cyflogai i hysbysu person priodol o ddigwyddiad cam-drin, neu achos lle mae amheuaeth o gam-drin plentyn sydd wedi'i leoli gan yr awdurdod i'w fabwysiadu yn sail ar gyfer cychwyn achos disgyblu.

(2At ddibenion paragraff (1)(b), mae person priodol yn un o'r canlynol —

(a)rheolwr y gwasanaeth mabwysiadu;

(b)un o swyddogion y Cynulliad Cenedlaethol;

(c)un o swyddogion yr heddlu;

(ch)un o swyddogion y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant;

(d)swyddog o'r awdurdod lleol y mae'r plentyn wedi ei leoli i'w fabwysiadu yn ardal yr awdurdod hwnnw pan fydd hwnnw yn awdurdod gwahanol.

Trefniadau ar gyfer absenoldeb y rheolwr

15.  Rhaid i bob awdurdod lleol sefydlu system i sicrhau bod person a nodir yn gyfrifol am reoli'r gwasanaeth mabwysiadu, pan fydd y rheolwr yn bwriadu bod yn absennol neu pan fydd yn absennol o'r awdurdod lleol am gyfnod parhaus o 28 diwrnod neu fwy, tan yr amser y bydd y rheolwr yn dychwelyd i'r gwasanaeth mabwysiadu neu (yn ôl fel y digwydd) fod rheolwr newydd yn cael ei benodi gan yr awdurdod.

Cofnodion mewn perthynas â staff

16.—(1Rhaid i bob awdurdod lleol gadw'r cofnodion a bennir yn Atodlen 4 a'u cadw'n gyfoes.

(2Rhaid cadw'r cofnodion y cyfeiriwyd atynt am o leiaf 15 mlynedd o ddyddiad y cofnod diwethaf.

Ffitrwydd y safle

17.—(1Rhaid i'r awdurdod lleol beidio â defnyddio safle at ddibenion eu gwasanaeth mabwysiadu oni bai bod y safle yn addas ar gyfer cyflawni'r nodau a'r amcanion sydd wedi'u nodi yn y datganiad o ddiben.

(2Rhaid i'r awdurdod sicrhau —

(a)bod yna drefniadau gwarchod digonol ar y safle, ac, yn benodol fod cyfleusterau diogel ar gyfer storio cofnodion; a

(b)bod unrhyw gofnodion nad ydynt, am unrhyw reswm, yn cael eu cadw ar safle'r awdurdod yn cael eu cadw o dan amodau priodol o ran diogelwch.

Cwynion

18.  Rhaid i bob awdurdod lleol

(a)sicrhau y cedwir cofnod ysgrifenedig o unrhyw gŵyn, yn cynnwys manylion o'r ymchwiliad a wnaed, y canlyniad ac unrhyw gamau dilynol a gymerwyd a bod y cofnod yn cael ei gadw am o leiaf 3 mlynedd o'r dyddiad y'i gwneir; a

(b)os bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn gofyn amdano, rhaid i bob awdurdod lleol ddarparu iddo ddatganiad sy'n cynnwys crynodeb o unrhyw gwynion a wnaed mewn perthynas â'i gwasanaeth mabwysiadu yn ystod y 12 mis blaenorol ac ynglŷn â'r camau a gymerwyd (os o gwbl) o ganlyniad i'r ymchwiliad.

RHAN 4DIWYGIADAU AMRYWIOL

Diwygiadau i Reoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002

19.  Mae Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002(4) yn cael eu diwygio fel a ganlyn —

(a)yn rheoliad 2 (1) mewnosodwch yn y man priodol —

“the 1976 Act” means the Adoption Act 1976(5);

“adoption service” means the discharge by a local authority of relevant adoption functions within the meaning of section 43(3)(a) of the Act and in relation to a local authority means the discharge by that authority of those functions”;

“voluntary adoption agency” means an adoption society within the meaning of the 1976 Act which is a voluntary organisation within the meaning of that Act; ”;

(b)

yn y diffiniad o “appropriate office”, ar ôl is-adran (e) mewnosodwch —

(f)in relation to an adoption service —

(i)if an office has been specified under regulation 2(2) of the Local Authority Adoption Service and Miscellaneous Amendments (Wales) Regulations 2003, that office;

(ii)in any other case, any office of the National Assembly.;

(c)

yn y diffiniad o “statement of purpose”, ar ôl is-adran (e) mewnosodwch —

(f)in relation to a voluntary adoption agency, the written statement required to be compiled in accordance with regulation 3(1) of the Voluntary Adoption Agencies and Adoption Agencies (Miscellaneous Amendments) Regulations 2003;

(g)in relation to an adoption service means the written statement required to be compiled in accordance with regulation 3(1) of the Local Authority Adoption Service and Miscellaneous Amendments (Wales) Regulations 2003.

Diwygiadau i Reoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Ffioedd) (Cymru) 2002

20.  Mae Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Ffioedd) (Cymru) 2002(6) yn cael eu diwygio fel a ganlyn —

(a)yn rheoliad 2 (1) mewnosodwch yn y mannau priodol —

“the 1976 Act” means the Adoption Act 1976(7)

“new agency provider” means a person who carries on a voluntary adoption agency for the first time after 30th April 2003;

“small agency” means an agency which has a small principal office;”

“small principal office” means a principal office where at any one time no more than eight members of full time staff (or the part time equivalents or combination of full time and part time staff) are employed in the capacity of a social worker(8);

“small branch” means a branch of a voluntary adoption agency where at any time no more than eight members of full time staff (or the part time equivalents or combination of full time and part time staff) are employed in the capacity of a social worker;

yn y diffiniad o “agency” ychwanegwch ar y diwedd y geiriau “, a voluntary adoption agency where the agency’s principal office is in Wales or a local authority adoption service”;

yn y diffiniad o “existing undertaking” ychwanegwch “(e) a voluntary adoption agency that is approved immediately before 30th April 2003 under Part 1 of the 1976 Act”;

(b)ar ôl rheoliad 3 (3) mewnosodwch y canlynol—

(3A) In the case of an application for registration in respect of a voluntary adoption agency which has a small principal office the registration fee shall be £300.

(3B) In a case where an agency has a branch, or as the case may be, a small branch an additional sum of—

(i)£1,100 in respect of each branch; and

(ii)£300 in respect of each small branch.

(3C) Where an application for registration is made by a voluntary adoption agency that is an existing undertaking, no registration fee shall be payable.

(c)Yn rheoliad 4 (1) —

(i)ar ôl “paragraph (2)” mewnosodwch “, (2A), (2B)”;

(ii)ar ôl rheoliad 4(2) mewnosodwch

(2A) In the case of an application mentioned in paragraph (1) in respect of a small agency or a small branch the fee shall be £300.

(2B) In the case of an application for the estabishment of a new branch or small branch the fee shall be

(i)£1,100 in resepct of each proposed new branch; and

(ii)£300 in respect of each proposed new small branch.

(ch)Yn rheoliad 4(3) ar ôl “the establishment” rhoddir “or agency”.

(d)Ar ôl rheoliad 12 (“Annual fee — fostering agencies and local authority fostering services”) mewnosodwch —

Annual fee — voluntary adoption agencies

12.(1) Subject to paragraph (2) the annual fee in respect of a voluntary adoption agency is —

(a)£500; and

(b)in a case where an agency has a branch or as the case may be a small branch, an additional sum of

(i)£500 in respect of each branch; and

(ii)£250 in respect of each small branch.

(2) The annual fee in respect of a voluntary adoption agency which is a small agency is £250.

(3) The annual fee in respect of a voluntary adoption agency shall be first payable by the registered provider on the date specified in respect of him or her in paragraph (4) (“the first date”), and thereafter on the anniversary of the first date.

(4) The specified date is —

(a)in the case of an existing undertaking, on 30 April 2003, or on the date on which a certificate of registration is issued, whichever is the later;

(b)in the case of a new agency provider, the date on which a certificate of registration is issued.

Annual fee — local authorities

13.(1) The annual fee in respect of a local authority adoption service shall be £500.

(2) The annual fee shall be first payable by the registered provider on the date specified in respect of him or her in paragraph (3) (“the first date”), and thereafter on the anniversary of the first date.

(3) The specified date is —

(a)in the case of a local authority that is discharging relevant adoption functions on the date that these Regulations come into force on 30th April 2003; and

(b)in all other cases on the date on which such functions are first discharged.

Diwygiadau i Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983

21.  Diwygir Rheoliad 8A o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983(9) fel a ganlyn —

(a)ym mharagraffau (1) a (2), yn lle'r geiriau “over the age of 18” rhowch “aged 18 or over”;

(b)yn is-baragraff (2)(a) ar ôl y geiriau “specified offence” mewnosodwch y geiriau “committed at the age of 18 or over”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(10)

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

12 Mawrth 2003

Rheoliad 3(1)

ATODLEN 1YR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS YN Y DATGANIAD O DDIBEN

1.  Nodau ac amcanion yr awdurdod lleol mewn perthynas â'r gwasanaeth mabwysiadu.

2.  Enw a chyfeiriad y rheolwr.

3.  Cymwysterau a phrofiad perthnasol y rheolwr.

4.  Nifer y staff sy'n cael eu cyflogi gan yr awdurdod at ddibenion gwasanaeth mabwysiadu'r awdurdod, eu cymwysterau a'u profiad perthnasol.

5.  Strwythur trefniadol y gwasanaeth mabwysiadu.

6.  System sydd wedi'i sefydlu i fonitro a gwerthuso'r ddarpariaeth o ran gwasanaethau er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau a ddarparwyd gan yr awdurdod yn effeithiol a bod ansawdd y gwasanaeth mabwysiadu o safon briodol.

7.  Y gweithdrefnau ar gyfer recriwtio, paratoi, asesu, cymeradwyo a chefnogi darpar rieni mabwysiadol.

8.  Crynodeb o'r weithdrefn gwyno a sefydlwyd yn unol ag adran 26 o Ddeddf Plant 1989 (11) a Gorchymyn Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn Gwyno) 1990(12).

9.  Cyfeiriad a Rhif ffôn swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol.

Rheoliad 4(1)

ATODLEN 2YR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS YN YR ARWEINIAD PLANT

1.  Crynodeb o'r datganiad o ddiben.

2.  Crynodeb o'r gweithdrefnau pan fydd mabwysiadu wedi'i nodi fel y cynllun priodol ar gyfer plentyn.

3.  Crynodeb o'r gweithdrefnau cwyno a sefydlwyd yn unol ag adran 26 o Ddeddf Plant 1989 a Gorchymyn Gwasanaethau Cymdeithasol Awdurdodau Lleol (Gweithdrefn Gwyno) 1990.

4.  Manylion ynghylch sut y gall plentyn gael gafael ar wasanaethau eiriolwr sy'n annibynnol ar yr awdurdod i'w gynorthwyo i ddwyn cwyn neu i gyflwyno sylwadau o dan y gweithdrefnau cwyno y cyfeiriwyd atynt ym mharagraff 3.

5.  Cyfeiriad a Rhif ffôn swyddfa briodol y Cynulliad Cenedlaethol.

6.  Enw, cyfeiriad a Rhif ffôn Comisiynydd Plant Cymru(13).

Rheoliad 7(2)(c) a 12(3)(ch)

ATODLEN 3YR WYBODAETH Y MAE EI HANGEN MEWN PERTHYNAS Å PHERSONAU SY'N CEISIO RHEOLI'R GWASANAETH MABWYSIADU NEU WEITHIO AT DDIBENION Y GWASANAETH HWNNW

1.  Prawf adnabod gan gynnwys ffotograff diweddar.

2.  Naill ai —

(a)os yw'r swydd yn dod o fewn adran 115(3) o Ddeddf yr Heddlu 1997(14), tystysgrif fanwl a roddwyd o dan adran 115 o'r Ddeddf honno; neu

(b)mewn unrhyw achos arall, tystysgrif record troseddol a roddwyd o dan adran 113 o Ddeddf yr Heddlu 1997,

gan gynnwys, i'r graddau y mae Deddf yr Heddlu 1997 yn caniatáu hynny, y materion a bennir yn adran 113(3A) neu 115(6A) o'r Ddeddf honno(15)).

3.  Dau dystlythyr ysgrifenedig, gan gynnwys tystlythyr oddi wrth gyflogwr mwyaf diweddar y person, os oes un.

4.  Os yw berson wedi gweithio o'r blaen mewn swydd yr oedd ei ddyletswyddau'n golygu gweithio gyda phlant neu gydag oedolion hawdd eu niweidio, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, cadarnhad o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd i ben.

5.  Tystiolaeth ddogfennol o unrhyw gymhwyster perthnasol.

6.  Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol am unrhyw fylchau mewn cyflogaeth.

Rheoliad 16(1)

ATODLEN 4Y COFNODION SYDD I'W CADW MEWN PERTHYNAS Å PHOB PERSON SY'N GWEITHIO AT DDIBENION GWASANAETH MABWYSIADU AWDURDOD LLEOL

Cofnod ar gyfer pob person sy'n gweithio ar gyfer yr awdurdod gan gynnwys —

1.  Enw llawn.

2.  Rhyw.

3.  Dyddiad geni.

4.  Cyfeiriad cartref.

5.  Cymwysterau sy'n berthnasol i waith sy'n cynnwys plant, a phrofiad o waith o'r fath.

6.  Y dyddiadau pan fydd y person yn dechrau cael ei gyflogi felly a phan fydd ei gyflogaeth yn dod i ben.

7.  A yw'r person yn cael ei gyflogi gan yr awdurdod lleol o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau, neu a yw'n cael ei gyflogi gan rywun heblaw'r awdurdod.

8.  Disgrifiad swydd y person ac a yw'n gweithio'n amser llawn neu'n rhan amser a nifer yr oriau y mae'n cael ei gyflogi bob wythnos gan wasanaeth mabwysiadu'r awdurdod neu'n cael ei gontractio bob wythnos i'r gwasanaeth.

9.  Yr hyfforddiant y mae'r person yn ymgymryd ag ef, y gwaith o'i oruchwylio a'i werthuso, y camau disgyblu (os o gwbl) a gymerwyd yn ei erbyn a chanlyniad y camau hynny, cofnodion o gwynion (os o gwbl) a gyflwynwyd yn ei erbyn neu ynglŷn ag ef a chanlyniad y gŵ yn honno ac unrhyw gofnodion eraill mewn perthynas â'i gyflogaeth.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn cael eu gwneud o dan Ddeddf Fabwysiadu 1976 (“Deddf 1976”) a Deddf Safonau Gofal 2000 (“Deddf 2000”) ac maent yn gymwys i awdurdodau lleol Cymru. Maent yn darparu fframwaith rheoliadol newydd ar gyfer gwasnaethau mabwysiadu awdurdodau lleol. Mae Rhan II o Ddeddf 2000 yn darparu bod gwaith cofrestru ac arolygu sefydliadau ac asiantaethau, gan gynnwys gwasanaethau mabwysiadu awdurdodau lleol, yn cael ei wneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”). Mae Rhan III o Ddeddf 2000 yn darparu bod gwaith arolygu gwasanaethau awdurdodau lleol yn cael ei wneud gan y Cynulliad Cenedlaethol. Caiff Rhannau II a III o Ddeddf 2000 (i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym) eu dwyn i rym mewn perthynas â gwasanaethau mabwysiadu awdurdodau lleol ar 30 Ebrill 2003.

Mae Rheoliadau 3 a 4 yn darparu bod rhaid i bob awdurdod lleol sy'n darparu gwasanaethau mabwysiadu fod â datganiad o ddiben, sy'n disgrifio nodau ac amcanion y gwasanaeth, ac arweiniad plant. Rhaid i'r gwasanaeth gael ei gyflawni mewn modd sy'n gyson â'r datganiad o ddiben.

Mae Rhan 2 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â'r personau sy'n rheoli'r gwasanaeth, ac yn ei gwneud yn ofynnol i wybodaeth foddhaol fod ar gael mewn perthynas â'r materion a ragnodir yn Atodlen 3.

Mae Rhan 3 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â rhedeg y gwasanaeth, staffio a ffitrwydd y gweithwyr, addasrwydd y safle ac ynglŷn â chwynion a chadw cofnodion.

Mae Rhan 4 yn ymdrin ag amryw o ddiwygiadau. Mae Rheoliadau 19 a 20 yn gwneud y diwygiadau angenrheidiol i'r darpariaethau mewn rheoliadau sy'n ymwneud â gofynion cofrestru a thalu ffioedd yn yr un modd â sefydliadau ac asiantaethau eraill sy'n cael eu rheoleiddio o dan Ddeddf 2000. Mae rheoliad 21 yn newid y gofyniad bod rhaid cael gafael ar wybodaeth am gollfarnau troseddol a rhybuddion a gafwyd gan bersonau 18 oed neu drosodd, yn hytrach na rhai dros 18 oed.

(1)

1976 p.36 Yn adran 9 o Ddeddf 1976 diwygiwyd is-adran (2) a mewnosodwyd is-adran (3A) gan adran 116 a pharagraff 5 (6)(c) o Atodlen 4 i Ddeddf Safonau Gofal 2000 (p.14) (“Deddf 2000”). Mae'r pwerau hyn yn arferadwy gan y Gweinidog priodol, a ddiffinnir yn adran 9(5) o Ddeddf 1976, mewn perthynas â Chymru fel Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac mewn perthynas â Lloegr fel yr Ysgrifennydd Gwladol ac mewn perthynas â Lloegr a Chymru fel yr Ysgrifennydd Gwladol a Chynulliad Cenedlaethol Cymru yn gweithredu ar y cyd. Diwygiwyd is-adrannau (2) a (3) a mewn osodwyd is-adran (5) gan adran 139(2) pharagraff 4(1)(b) o Atodlen 4 i Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2003 p.38.

(8)

Am y diffiniad o “social worker” gweler a.55(2)(a) o Ddeddf 2000.

(10)

1998 p.38.

(11)

1989 p.41. Rheoliadau Gweithdrefn Sylwadau (Plant) 1991 (O.S.1991/894 fel y'u diwygiwyd gan O.S.1991/2033, O.S.1993/3069 ac O.S.2001/2874) yw'r rheoliadau cyfredol.

(13)

Gweler adran 72 o Ddeddf 2000.

(14)

1997 p.50. Mae swydd o fewn adran 115(3) os yw'n golygu bod y person wrthi'n rheolaidd yn gofalu am bersonau o dan 18 oed, yn eu hyfforddi, yn eu goruchwylio neu os yw'r personau hynny o dan ei ofal ef yn unig.

(15)

Mae adran 113(3A) a 115(6A) wedi'u mewnosod yn Neddf yr Heddlu 1997 gan adran 8 o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999(p.14) ac wedi'i diwygio gan adrannau 104, 106 a 116 o Ddeddf Safonau Gofal 2000 a pharagraff 25 o Atodlen 4 iddi.