Search Legislation

Rheoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Gwasanaethau Fferyllol etc) (Presgripsiynau Amlroddadwy) (Diwygio) (Cymru) 2004

 Help about what version

What Version

  • Latest available (Revised) - English
  • Latest available (Revised) - Welsh
  • Original (As made) - English
  • Original (As made) - Welsh
 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

RHAN 2DIWYGIO RHEOLIADAU'R GWASANAETH IECHYD GWLADOL (FFIOEDD AM GYFFURIAU A CHYFARPAR) (CYMRU) 2001

Diwygio rheoliad 2

7.  Yn rheoliad 2 (dehongli)—

(a)ym mharagraff (1)—

(i)yn lle'r diffiniad o “ffurflen bresgripsiwn” rhowch y diffiniad canlynol—

ystyr “ffurflen bresgripsiwn” (“prescription form”) yw ffurflen sy'n cael ei darparu gan Fwrdd Iechyd Lleol neu Ymddiriedolaeth GIG a'i dyroddi gan feddyg, deintydd, rhagnodydd atodol neu neu nyrs annibynnol sy'n rhagnodi i alluogi person i gael gwasanaethau fferyllol ac—

(a)

mae'n cynnwys ffurflen bresgripsiwn sy'n cael ei darparu a'i dyroddi o dan drefniadau cyfatebol sy'n cael effaith yn Lloegr, yr Alban, neu Ogledd Iwerddon; a

(b)

nid yw'n cynnwys presgripsiwn amlroddadwy;, a

(ii)ar ôl y diffiniad o “ffurflen bresgripsiwn” mewnosodwch y diffiniad canlynol—

“ystyr “gwasanaethau amlweinyddu” (“repeat dispensing services”) yw gwasanaethau fferyllol sy'n cynnwys darparu cyffuriau neu gyfarpar gan fferyllydd yn unol â phresgripsiwn amlroddadwy;

(iii)

ar ôl y diffiniad o “nyrs sy'n rhagnodi” mewnosodwch y diffiniadau canlynol—

ystyr “presgripsiwn amlroddadwy” (“repeatable prescription”) yw presgripsiwn sydd wedi'i gynnwys mewn ffurflen sy'n cael ei darparu gan Fwrdd Iechyd Lleol a'i dyroddi gan ragnodydd, i alluogi person i gael gwasanaethau fferyllol ac sydd yn y fformat a bennir yn Rhan I o Atodlen 1 i Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004, ac sydd—

(a)

yn cael ei gynhyrchu gan gyfrifiadur ond yn cael ei lofnodi gan ragnodydd; a

(b)

yn dangos y caniateir darparu'r cyffuriau neu'r cyfarpar a archebwyd ar y ffurflen honno fwy nag unwaith, ac yn pennu'r nifer o weithiau y caniateir eu darparu;;

ystyr “rhagnodydd” (“prescriber”) yw—

(a)

meddyg,

(b)

nyrs annibynnol sy'n rhagnodi, ac

(c)

rhagnodydd atodol;”

(iv)

ar ôl y diffiniad o “rhestr feddygol”, mewnosodwch y diffiniad canlynol—

ystyr “swp-ddyroddiad” (“batch issue”) yw ffurflen sy'n cael ei darparu gan Fwrdd Iechyd Lleol a'i dyroddi gan ragnodydd yr un pryd â phresgripsiwn amlroddadwy i alluogi fferyllydd i gael taliad am ddarparu gwasanaethau amlweinyddu, ac sydd yn y fformat a bennir yn Rhan I o Atodlen 1 i Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004(1), ac sydd—

(a)

yn cael ei gynhyrchu gan gyfrifiadur ac nad yw'n cael ei lofnodi gan ragnodydd;

(b)

yn ymwneud â phresgripsiwn amlroddadwy penodol ac yn cynnwys yr un dyddiad â'r presgripsiwn hwnnw;

(c)

yn ffurfio rhan o ddilyniant o swp-ddyroddiadau, lle mae'r nifer o swp-ddyroddiadau, yn gyfartal â nifer yr adegau y caniateir darparu'r cyffuriau neu'r cyfarpar a archebwyd ar y presgripsiwn amlroddadwy; ac

(ch)

yn pennu Rhif i ddynodi ei le yn y dilyniant y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (c); a

(b)

ym mharagraff (3), ar ôl “un ffurflen bresgripsiwn” mewnosodwch “, neu ar un presgripsiwn amlroddadwy (ond dim ond pan fo'r cyflenwad gyferbyn ag un swp-ddyroddiad sy'n ymwneud â'r presgripsiwn amlroddadwy hwnnw)”.

Diwygio rheoliad 3

8.—(1Diwygir rheoliad 3 (cyflenwi cyffuriau a chyfarpar gan fferyllwyr) fel a ganlyn.

(2Ym mharagraff (1), yn lle “Yn ddarostyngedig i baragraff (3),” rhowch “Ac eithrio fel a ddarperir ym mharagraff (1A) ac yn ddarostyngedig i baragraff (3),”.

(3Ar ôl paragraff (1) mewnosodwch—

(1A) Yn ddarostyngedig i baragraff (3), rhaid i fferyllydd sy'n darparu gwasanaethau amlweinyddu i glaf, godi ar y claf hwnnw a chasglu ohono, ar gyfer pob aml-ddyroddiad—

(a)ffi o £6.00 am eitem hosan elastig, hynny yw, ffi o £12.00 y pâr;

(b)ffi o £6.00 am gyflenwi pob cyfarpar arall ac am bob swm o gyffur.

(1B) Os yw ffi yn cael ei thalu o dan baragraff (1A), wrth wneud y taliad rhaid i'r person sy'n talu lofnodi datganiad ysgrifenedig ar y swp-ddyroddiad fod y ffi berthnasol wedi'i thalu..

(4Yn lle paragraph (3) rhowch—

“(3Rhaid peidio â chodi na chasglu unrhyw ffi o dan baragraff (1) neu (1A) —

(a)os oes esemptiad o dan reoliad 8 a bod datganiad o hawl i gael esemptiad wedi'i gwblhau'n briodol gan y claf neu ar ei ran—

(i)mewn achosion sy'n dod o dan baragraff (1A), ar y swp-ddyroddiad adeg cyflenwi'r cyffur neu'r cyfarpar,

(ii)ym mhob achos arall, ar y ffurflen bresgripsiwn;

(b)os oes hawl i beidio â thalu'r ffi o dan reoliad 3 o'r Rheoliadau Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl a bod datganiad o hawl i beidio â thalu wedi'i gwblhau'n briodol gan y claf neu ar ei ran—

(i)mewn achosion sy'n dod o dan baragraff (1A), ar y swp-ddyroddiad adeg cyflenwi'r cyffur neu'r cyfarpar,

(ii)ym mhob achos arall, ar y ffurflen bresgripsiwn; neu

(c)os yw'r claf yn preswylio mewn ysgol y mae ei henw wedi'i mewnosod neu neu sefydliad y mae ei enw wedi'i fewnosod ar y ffurflen bresgripsiwn gan feddyg yn unol â pharagraff 44 o Atodlen 6 i Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Contractau Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol) (Cymru) 2004.

(5Ym mharagraff (5)—

(a)ar ôl “ffurflen bresgripsiwn” mewnosodwch “neu bresgripsiwn amlroddadwy”; a

(b)ar ôl “baragraff (1)” mewnosodwch “neu baragraff (1A)”.

(6Ym mharagraff (6)—

(a)ar ôl “paragraff (1)” mewnosodwch “neu baragraff (1A)” ; a

(b)yn y testun Saesneg, hepgorwch “[dmb1/”.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources