Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThis
Section
only
Statws
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Diwygio Gorchymyn 2001
3. Ar ôl Erthygl 3 o Orchymyn 2001 mewnosoder —
“Darpariaethau i'w datgymhwyso
4.—(1) Os bydd awdurdod perthnasol, ac yntau'n sir, yn fwrdeistref sirol, yn gyngor cymuned neu'n awdurdod tân, wedi mabwysiadu cod ymddygiad neu os bydd cod o'r fath yn gymwys iddo, rhaid i'r canlynol, pan fyddant yn gymwys i'r awdurdod perthnasol, gael eu datgymhwyso mewn perthynas â'r awdurdod hwnnw —
(a)adrannau 94 i 98 a 105 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972();
(b)adran 30(3A) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1974();
(c)unrhyw reoliadau a wnaed neu god a gyhoeddwyd o dan adrannau 19 ac 31 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989().
(2) Os bydd awdurdod perthnasol, ac yntau'n awdurdod Parc Cenedlaethol, wedi mabwysiadu cod ymddygiad neu os bydd cod ymddygiad o'r fath yn gymwys iddo, rhaid i'r canlynol, pan fyddant yn gymwys i'r awdurdod perthnasol, gael eu datgymhwyso mewn perthynas â'r awdurdod hwnnw —
(a)paragraffau 9 a 10 o Atodlen 7 i Ddeddf yr Amgylchedd 1995; a
(b)adrannau 19 a 31 o Ddeddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.
(3) Rhaid i adran 16(1) o Ddeddf Dehongli 1978()) fod yn gymwys i ddatgymhwysiad o dan baragraff (1) neu (2) uchod fel pe bai'n ddiddymiad, gan Ddeddf, o ddeddfiad”.
Back to top