- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
35.—(1) Caniateir cyflwyno hysbysiad neu ddogfen arall y mae angen neu a awdurdodwyd ei chyflwyno at ddibenion y Gorchymyn hwn drwy'r post.
(2) Os corff corfforaethol yw'r person y cyflwynir hysbysiad neu ddogfen arall iddo at ddibenion y Gorchymyn hwn, cyflwynir yr hysbysiad neu'r ddogfen yn briodol os cyflwynir hwy i ysgrifennydd neu glerc y corff hwnnw.
(3) At ddibenion adran 7 o Ddeddf Dehongli 1978???(1) fel y mae'n gymwys at ddibenion yr erthygl hon, cyfeiriad priodol unrhyw berson mewn perthynas â chyflwyno hysbysiad neu ddogfen i'r person hwnnw o dan baragraff (1) yw, os yw'r person hwnnw wedi rhoi cyfeiriad ar gyfer cyflwyno, y cyfeiriad hwnnw ac, fel arall,—
(a)yn achos ysgrifennydd neu glerc corff corfforaethol, swyddfa gofrestredig neu brif swyddfa'r corff hwnnw; a
(b)yn unrhyw achos arall, y cyfeiriad hysbys diwethaf ar gyfer y person adeg y cyflwyno.
(4) Pan fo angen cyflwyno hysbysiad neu ddogfen arall at ddibenion y Gorchymyn hwn, neu yr awdurdodwyd gwneud hynny, i berson sydd ag unrhyw fuddiant yn y tir, neu sy'n meddu ar y tir, ac ni ellir dod o hyd i'w enw na'i gyfeiriad ar ôl gwneud ymholiadau rhesymol, caniateir cyflwyno'r hysbysiad drwy—
(a)ei gyfeirio at y person hwnnw gan ddefnyddio ei enw, neu gan ei ddisgrifio fel “y perchennog” neu, yn ôl y digwydd, “meddiannydd” y tir (gan ddisgrifio'r tir); a
(b)un ai ei adael yn nwylo'r person yr ymddengys ei fod yn preswylio ar y tir neu wedi'i gyflogi ar y tir, neu ludo'r hysbysiad yn amlwg i ryw adeilad neu wrthrych ar y tir neu yn agos ato.
(5) Nid yw'r erthygl hon yn gwahardd defnyddio unrhyw ddull arall o gyflwyno nas darparwyd amdano yn benodol ynddi.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include: