Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThis
Section
only
Statws
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Arolygu safleoedd
20.—(1) Caiff y person penodedig arolygu'r tir ar unrhyw adeg heb rywun yn gwmni iddo a heb hysbysu'r apelydd na'r atebydd o'i fwriad i wneud hynny.
(2) Yn ystod, neu ar ôl diwedd, gwrandawiad—
(a)caiff y person penodedig, ar ôl iddo gyhoeddi yn ystod y gwrandawiad y dyddiad a'r amser y bwriedir gwneud yr arolygiad, arolygu'r tir yng nghwmni'r partïon ac unrhyw berson arall y rhoddwyd caniatâd iddo fod yn bresennol a chymryd rhan yn y gwrandawiad; a
(b)rhaid i'r person penodedig wneud arolygiad o'r fath os gofynnir iddo ei wneud gan y partïon cyn neu yn ystod gwrandawiad.
(3) Os yw apêl yn cael ei phenderfynu drwy sylwadau ysgrifenedig—
(a)caiff y person penodedig, ar ôl iddo roi rhybudd rhesymol mewn ysgrifen i'r partïon o'i fwriad i wneud hynny, arolygu'r tir yng nghwmni'r partïon ac unrhyw berson arall y mae'r arolygydd yn credu y byddai'n rhesymol ei wahodd; a
(b)rhaid i'r person penodedig wneud arolygiad o'r fath, os gofynnir iddo ei wneud gan y partïon, cyn iddo wneud penderfyniad.
(4) Rhaid i apelydd gymryd y camau sy'n rhesymol o fewn pŵer yr apelydd er mwyn galluogi'r person penodedig i gael mynediad i'r tir sydd i'w arolygu.
(5) Nid yw'n ofynnol i'r person penodedig ohirio arolygiad o'r math y cyfeirir ato ym mharagraff (2) neu (3) os na fydd unrhyw berson a grybwyllir yn y paragraffau hynny yn bresennol ar yr amser penodedig.
Back to top