Hysbysu o benderfyniad ar apêl
21.—(1) Rhaid rhoi hysbysiad ysgrifenedig o benderfyniad y Cynulliad Cenedlaethol neu, yn ôl y digwydd, o benderfyniad y person penodedig, a'r rhesymau dros y penderfyniad, i'r personau canlynol —
(a)y partïon;
(b)unrhyw berson sydd, ar ôl cymryd rhan yn y gwrandawiad, wedi gofyn am gael ei hysbysu o'r penderfyniad; ac
(c)unrhyw berson arall y rhoddwyd hysbysiad iddo yn unol â rheoliad 11 ac sydd wedi gofyn am gael ei hysbysu o'r penderfyniad.
(2) Caiff unrhyw berson a chanddo hawl i gael ei hysbysu o'r penderfyniad o dan baragraff (1) wneud cais i'r Cynulliad Cenedlaethol, yn ysgrifenedig, am gael cyfle i fwrw golwg dros unrhyw ddogfennau a restrir yn yr hysbysiad a rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol roi'r cyfle hwnnw i'r person hwnnw.
(3) Rhaid i unrhyw berson sy'n gwneud cais o dan baragraff (2) sicrhau bod y Cynulliad Cenedlaethol yn ei gael o fewn 6 wythnos i ddyddiad y penderfyniad ar yr apêl.
(4) Mae'r penderfyniad yr hysbysir y partïon ohono o dan baragraff (1) yn rhwymo'r partïon.