2004 Rhif 669 (Cy.62) (C.25)
Gorchymyn Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (Cychwyn Rhif 2 ac Arbedion) (Cymru) 2004
Wedi'i wneud
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 181 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 1, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:
Enwi, dehongli a chymhwyso1
1
Enw'r gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (Cychwyn Rhif 2 ac Arbedion) (Cymru) 2004.
2
Yn y Gorchymyn hwn —
ystyr “Deddf 1967” (“the 1967 Act”) yw Deddf Diwygio Cyfraith Prydlesi 19672;
ystyr “Deddf 1985” (“the 1985 Act”) yw Deddf Landlord a Thenant 19853;
ystyr “Deddf 1987” (“the 1987 Act”) yw Deddf Landlord a Thenant 19874);
ystyr “Deddf 1993” (“the 1993 Act”) yw Deddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 19935;
ystyr “Deddf 1996” (“the 1996 Act”) yw Deddf Tai 19966);
ystyr “TPL” (“LVT”) yw tribiwnlys prisio lesddaliadau;
mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni, oni nodir yn wahanol, yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 ac Atodlenni iddi; ac
mae unrhyw gyfeiriad at ddiddymiad yn gyfeiriad at ddiddymiad a wneir gan adran 180 ac Atodlen 14.
3
Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru yn unig.
Darpariaethau sy'n dod i rym ar 30 Mawrth 20042
Daw darpariaethau canlynol i rym ar 30 Mawrth 2004 —
a
adrannau 71 i 73, 75 i 77, 79, 81 i 83 , 85 i 91, 93 i 103, 105 i 109, 111 i 113, 159, 163, 173, Atodlenni 6 a 7;
b
adrannau 74, 78, 80, 84, 92, 110, 174 ac Atodlen 12 i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym; ac
c
yn ddarostyngedig i'r arbedion yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn —
i
adrannau 148, 149, 150, 155, 157 i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau 8 i 13 o Atodlen 10, 158, 175, 176 i'r graddau y mae'n ymwneud â pharagraffau 1 i 15 o Atodlen 13, Atodlen 9, paragraffau 8 i 13 o Atodlen 10, Atodlen 11 a pharagraffau 1 i 15 o Atodlen 13;
ii
is-adrannau (1) i (5) o adran 172 ac eithrio i'r graddau y maent yn ymwneud â chymhwyso i'r Goron adrannau 152 i 154, 164 i 171, paragraffau 1 i 7 o Atodlen 10 a pharagraff 16 o Atodlen 13;
iii
is-adran (6) o adran 172 ac eithrio i'r graddau y mae'r amnewidiadau a wnaed gan yr is-adran honno'n ymwneud ag adrannau 42A a 42B o Ddeddf 1987;
iv
i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, adran 180 i'r graddau y mae'n ymwneud â'r diddymiadau yn Atodlen 14 a nodir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn;
ch
yn ddarostyngedig i is-baragraffau (i) i (vi), adran 151 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym —
i
mewn perthynas ag unrhyw achos y mae is-baragraff (ii), (iii), (iv) neu (vi) yn gymwys iddo, ni fydd unrhyw effaith i'r diwygiad a wnaed gan adran 151 a bydd Gorchymyn Taliadau Gwasanaeth (Amcangyfrifon ac Ymgynghori) 19887 yn parhau'n gymwys;
ii
mae'r is-baragraff hwn yn gymwys lle mae'r gwaith sydd yn gymwys wedi dechrau cyn 31 Mawrth 2004;
iii
mae'r is-baragraff hwn yn gymwys lle mae'r landlord wedi rhoi neu arddangos yr hysbysiad angenrheidiol o dan adran 20 o Deddf 1985, mewn perthynas â gwaith sydd yn gymwys, cyn 31 Mawrth 2004;
iv
mae'r is-baragraff hwn yn gymwys lle, mewn perthynas â gwaith sydd yn gymwys y mae is-baragraff (v) yn gymwys iddo, mae'r landlord wedi rhoi hysbysiad yng Nghyfnodolyn Swyddogol yr Undeb Ewropeaidd yn unol â Rheoliadau Contractau Gweithfeydd Cyhoeddus 19918, Rheoliadau Contractau Gwasanaethau Cyhoeddus 19939 neu Reoliadau Contractau Cyflenwi Cyhoeddus 199510 cyn 31 Mawrth 2004;
v
mae'r is-baragraff hwn yn gymwys i waith sydd yn gymwys a wneir o dan gontract —
a
y bwriedir ei wneud ar neu ar ôl 31 Mawrth 2004; ac
b
sydd am gyfnod o ddeuddeg mis neu'n llai;
vi
mae'r is-baragraff hwn yn gymwys lle, o dan gytundeb a wneir gan neu ar ran landlord neu uwch landlord, cyn 31 Mawrth 2004, mae gwaith sydd yn gymwys yn cael ei wneud ar unrhyw amser yn y cyfnod yn dechrau ar y dyddiad hwnnw ac yn dod i ben ddau fis ar ôl y dyddiad hwnnw.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 199811)
ATODLEN 1DIDDYMIADAU
RHAN 1TRIBIWNLYSOEDD PRISIO PRYDLESI
Teitl byr a phennod | Hyd a lled y diddymiad |
---|---|
Deddf Diwygio Cyfraith Prydlesi 1967 (p. 88) | Adran 21(1A) a (3) i (4A). |
Deddf Tai 1980 (p. 51) | Yn adran 142—
Yn Atodlen 22—
|
Deddf Landlord a Thenant, 1985 (p. 70) | Adrannau 31A i 31C. Yn yr Atodlen, paragraff 8(5). |
Deddf Landlord a Thenant 1987 (p.31) | Adran 23(2). Adrannau 24A a 24B. Yn adran 38, yn y nodyn ochr, y geiriau “by the court”. Adran 52A Yn adran 53(2), y geiriau “under section 52A(3) or”. |
Deddf Tribiwnlysoedd ac Ymchwiliadau 1992 (p. 53) | Yn Atodlen 3, paragraff 13. |
Deddf Diwygio Cyfraith Prydlesi, Tai a Datblygu Trefol 1993 (p. 28) | Adran 75(4) a (5) Yn adran 88—
|
Deddf Diwygio Cyfraith Prydlesi, Tai a Datblygu Trefol 1993 | Yn adran 91—
Yn adran 94, yn is-adran (10), y geiriau o “and references in this subsection” i'r diwedd. Yn adran 101(1), y diffiniad o “rent assessment committee”. |
Deddf Tai 1996 (p. 52) | Adran 83(3). Adran 86(4) a (5). Adran 119. Yn Atodlen 6, yn Rhan 4, paragraffau 7 ac 8. |
RHAN 2DIDDYMIADAU ERAILL
Teitl byr a phennod | Hyd a lled y diddymiad |
---|---|
Deddf Landlord a Thenant 1985 (p. 70) | Adran 19(2A) i (3). Yn adran 39, y cofnod sy'n cyfeirio at yr ymadrodd “flat”. Yn yr Atodlen—
|
Deddf Landlord a Thenant 1987 (p. 31) | Yn adran 29(2)(a), y geiriau “repair, maintenance, insurance or”. Adran 56(2). Yn Atodlen 2, paragraffau 3 a 7 |
Deddf Tai 1996 (p.52) | Adran 83(1). Yn Atodlen 9, paragraff 2(3) a (7). |
ATODLEN 2ARBEDION
Landlordiad absennol — tai lesddaliad1
Ni chaiff y diwygiadau a wnaed gan adrannau 148 a 149 effaith mewn perthynas â chais am ryddfreinio a wneir o dan adran 27 o Ddeddf 1967 cyn 31 Mawrth 2004.
Diffiniad o daliadau gwasanaethau2
Ni fydd y diwygiad a wnaed gan baragraff 7 o Atodlen 9 yn gymwys i gostau a dynnir cyn 31 Mawrth 2004 mewn cysylltiad â materion y codir tâl gwasanaethau ar eu cyfer.
Ystyr “management” yn adran 24 o Ddeddf 19873
Ni fydd y diwygiad a wnaed gan baragraff 8 o Atodlen 9 yn gymwys i gais a wneir o dan adran 24 o Ddeddf 1987 cyn 31 Mawrth 2004.
Yr hawl i gaffael buddiant y landlord4
Ni fydd y diwygiad a wnaed gan baragraff 9 o Atodlen 9 a'r diddymiad yn adran 29 o Ddeddf 1987 yn gymwys i gais a wneir o dan adran 29 o'r Ddeddf honno cyn 31 Mawrth 2004.
Hawl tenant i gael archwiliad rheoli5
Ni fydd y diwygiadau a wnaed gan baragraff 10 o Atodlen 9 yn gymwys i gais a wneir o dan adran 80 o Ddeddf 1993 cyn 31 Mawrth 2004.
Rhwymedigaeth i dalu taliadau gwasanaethau6
Ni fydd effaith i'r diwygiad a wnaed gan adran 155 a diddymiadau adran 19(2A) i (3) o Deddf 1985 ac o adran 83(1) o Ddeddf 1996 mewn perthynas ag —
a
unrhyw gais a wneir i TPL o dan adran 19(2A) neu (2B) o Deddf 1985; neu
b
unrhyw achos sy'n ymwneud â thaliad gwasanaethau a drosglwyddir i TPL gan lys sirol,
cyn 31 Mawrth 2004.
Yswiriant7
Ni fydd y diwygiadau a wnaed gan baragraffau 8 i 13 o Atodlen 10 a'r diddymiadau canlyniadol yn yr Atodlen i Deddf 1985 yn gymwys i gais a wneir o dan yr Atodlen honno cyn 31 Mawrth 2004.
Taliadau gweinyddol: rhesymoldeb, galwadau ac atebolrwydd i dalu8
Ni fydd paragraffau 2 i 5 o Atodlen 11 yn gymwys i dâl gweinyddol a oedd yn daladwy cyn 31 Mawrth 2004.
Taliadau gweinyddol: penodi rheolwr9
Ni fydd y diwygiadau a wnaed gan baragraff 8 o Atodlen 11 yn gymwys i gais a wneir o dan adran 24 o Ddeddf 1987 cyn 31 Mawrth 2004.
Taliadau o dan gynlluniau rheoli ystadau10
Ni fydd Adran 159 yn gymwys i daliad o dan gynllun rheoli ystad a oedd yn daladwy cyn 31 Mawrth 2004.
Amrywio prydlesi: trosglwyddo awdurdodaeth11
Ni chaiff y diwygiadau a wnaed gan adran 163 effaith mewn perthynas â chais a wneir i'r llys o dan Ran 4 o Ddeddf 1897 cyn 31 Mawrth 2004.
Tir y Goron: amrywio prydlesi12
Ni fydd amrywiad unrhyw denantiaeth a wneir gan orchymyn neu yn unol â gorchymyn a wnaed cyn 31 Mawrth 2004 o dan adran 38 o Ddeddf 1987 yn cael ei drin fel un sy'n rhwymo'r Goron, fel rhagflaenydd yn y teitl o dan y denantiaeth, yn rhinwedd adran 39(1) o'r Ddeddf honno.
Tribiwnlysoedd prisio prydlesi13
Ni fydd effaith i Adran 175, y diwygiadau a wnaed gan adran 176 ac Atodlen 13 a'r diddymiadau yn Rhan 1 o Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn mewn perthynas ag —
a
unrhyw gais a wneir i TPL; neu
b
unrhyw achosion a drosglwyddir i TPL gan gyngor sir,
cyn 31 Mawrth 2004.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)
Mae darpariaethau canlynol Deddf 2002 wedi'u dwyn i rym mewn perthynas â Chymru trwy Orchymyn Cychwyn a wnaed cyn dyddiad y Gorchymyn hwn:
Y ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
---|---|---|
a.74 (yn rhannol) | 1 Ionawr 2003 | |
a.78 (yn rhannol) | ||
a.80 (yn rhannol) | ||
a.84 (yn rhannol) | ||
a.92 (yn rhannol) | ||
a.110 (yn rhannol) | ||
aa.114 i 120 | ||
a.122 (yn rhannol) | ||
a.125 | ||
a.127 i 147 | ||
aa.151 i 153 (yn rhannol) | ||
a.156 (yn rhannol) | ||
a.160 i 162 | ||
a.164 (yn rhannol) | ||
a.166 (yn rhannol) | ||
a.167 (yn rhannol) | ||
a.171 (yn rhannol) | ||
a.174 (yn rhannol) | ||
a.180 (yn rhannol) | ||
Atodlen 12 (yn rhannol) | ||
Atodlen 14 (yn rhannol) |