2004 Rhif 670 (Cy.63)
Rheoliadau Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhyddfreinio ar y Cyd ac Adnewyddu Lesddaliad) (Diwygio) (Cymru) 2004
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Enwi a chychwyn1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhyddfreinio ar y Cyd ac Adnewyddu Lesddaliad) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 31 Mawrth 2004.
Cymhwyso2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys yn unig —
a
mewn perthynas â thir ac adeiladau yng Nghymru;
b
i achosion lle mae hysbysiad o dan adran 13 (hysbysiad gan denantiaid cymwys o hawliad i arfer hawl i ryddfreinio ar y cyd) neu adran 42 (hysbysiad gan denant cymwys o hawliad i arfer hawl i gaffael les newydd) o Ddeddf Diwygio Cyfraith Lesddaliad, Tai a Datblygu Trefol 1993 yn cael ei gyflwyno ar neu ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
Diwygiadau3
Diwygir Rheoliadau Diwygio Cyfraith Lesddaliad (Rhyddfreinio ar y Cyd ac Adnewyddu Lesddaliad) 19933 fel a ganlyn—
a
dileer paragraff 2 o Atodlen 1; a
b
yn lle is-baragraff (4)(1) o Atodlen 2 rhodder —
1
The landlord may require the tenant to deduce his title to his tenancy, by giving him notice within the period of twenty one days beginning with the relevant date.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)