2004 Rhif 675 (Cy.64)

LANDLORD A THENANT, CYMRU

Rheoliadau Cwmnïau RTM (Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasu) (Cymru) 2004

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 19931 ac sydd yn arferadwy yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 19992 i'r graddau maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru a'r pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 74(2), (4) a (6) a 178(1)o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 20023, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cwmnïau RTM (Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasu) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 31 Mawrth 2004.

2

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gwmnïau RTM4) mewn perthynas â mangreoedd5 yng Nghymru.

Ffurf a chynnwys memorandwm ac erthyglau cymdeithasu cwmnïau RTM2

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i femorandwm cymdeithasu cwmni RTM gymryd y ffurf a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn a chynnwys y darpariaethau sydd ynddi.

2

Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i erthyglau cymdeithasu cwmni RTM gymryd y ffurf a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn a chynnwys y darpariaethau sydd ynddi.

3

Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae'r darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (2) yn effeithiol ar gyfer cwmni RTM os mabwysiedir hwy gan y Cwmni neu beidio.

4

Pan fydd cwmni RTM yn dymuno cael naill ai ei femorandwm cymdeithasu neu ei erthyglau cymdeithasu, neu'r ddau, yn Gymraeg, rhaid i'r dogfennau hynny gymryd y ffurf a nodir yn Rhannau 1 a 2 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn a chynnwys, yn y drefn honno, y darpariaethau sydd ynddynt.

5

Os digwydd y canlynol—

a

bod Cwmni RTM wedi mabwysiadu memorandwm cymdeithasu ac erthyglau cymdeithasu cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym; a

b

nad yw'r memorandwm a'r erthyglau, neu'r naill neu'r llall ohonynt, yn cydymffurfio, o ran cynnwys, â gofynion paragraffau (1) a (2) neu, yn achos dogfennau yn yr iaith Gymraeg, baragraff (4),

ymdrinnir â'r memorandwm a'r erthyglau, wrth ac ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, fel pe baent yn cynnwys y darpariaethau hynny a nodir yn yr Atodlenni sy'n ofynnol i sicrhau cydymffurfedd â'r gofynion hynny (boed yn ychwanegol at y cynnwys gwreiddiol neu yn lle'r cynnwys gwreiddiol yn ôl yr amgylchiadau).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19986

John MarekDirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

ATODLEN 1MEMORADWM AC ERTHYGLAU CYMDEITHASU CWMNÏAU RTM

Rheoliad 2

RHAN 1MEMORANDWM CYMDEITHASU

Image_r00000

Image_r00001

Image_r00002

RHAN 2ERTHYGLAU CYMDEITHASU

Image_r00003

Image_r00004

Image_r00005

Image_r00006

Image_r00007

Image_r00008

Image_r00009

Image_r00010

Image_r00011

Image_r00012

Image_r00013

Image_r00014

ATODLEN 2MEMORANDWM AC ERTHYGLAU CYMDEITHASU CWMNÏAU RTM

Rheoliad 2

RHAN 1MEMORANDWM CYMDEITHASU

Image_r00015

Image_r00016

Image_r00017

RHAN 2ERTHYGLAU CYMDEITHASU

Image_r00015

Image_r00016

Image_r00017

Image_r00018

Image_r00019

Image_r00020

Image_r00021

Image_r00022

Image_r00023

Image_r00024

Image_r00025

Image_r00026

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Yn unol â Phennod 1 o Ran 2 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (“Deddf 2002”), caiff cwmni, y cyfeirir ato yn y Bennod honno fel cwmni RTM, gaffael ac arfer hawliau mewn perthynas â rheoli mangreoedd. Mae adran 73(2) o Ddeddf 2002 yn darparu bod cwmni yn gwmni RTM mewn perthynas â mangreoedd os yw'n gwmni preifat wedi'i gyfyngu gan warant a bod ei femorandwm cymdeithasu yn datgan mai ei amcan, neu un o'i amcanion, yw caffael ac arfer yr hawl i reoli'r fangre honno. Mae is-adrannau (3) i (5) o'r adran honno yn disgrifio cwmnïau nad ydynt yn gwmnïau RTM a'r amgylchiadau pan fydd cwmni RTM yn peidio â bod yn gwmni o'r disgrifiad hwnnw.

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi ffurf a chynnwys memorandwm cymdeithasu ac erthyglau cymdeithasu cwmnïau RTM mewn perthynas â mangreoedd yng Nghymru.

Mae'r cynnwys a'r ffurf rhagnodedig yn effeithiol mewn perthynas â chwmnïau RTM p'un ai ydynt yn cael eu mabwysiadu neu beidio.

Mae rheoliad 2 yn darparu mai'r ffurf ar femorandwm cymdeithasu ac erthyglau cymdeithasu cwmni RTM fel y'u nodir yn Atodlen 1 fydd yn effeithiol os mabwysiedir hwy gan y cwmni hwnnw neu beidio. Mae Rheoliad 2 hefyd yn darparu pan fydd cwmni RTM yn dymuno cael naill ai ei femorandwm cymdeithasu neu ei erthyglau cymdeithasu, neu'r ddau, yn Gymraeg, bydd y dogfennau hynny yn y ffurf a nodir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.

Pan fydd cwmni RTM yn mabwysiadu memorandwm ac erthyglau cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, ymdrinnir â'r memorandwm a'r erthyglau fel pe baent yn cynnwys y cyfryw ran ag sy'n angenrheidiol o'r hyn a geir yn Atodlen 1 er mwyn sicrhau bod y dogfennau hynny'n cydymffurfio â'r Rheoliadau.

Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi o'r Gyfarwyddiaeth Dai, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (Ffôn 029 20 823025).