Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 675 (Cy.64)

LANDLORD A THENANT, CYMRU

Rheoliadau Cwmnïau RTM (Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasu) (Cymru) 2004

Wedi'u gwneud

9 Mawrth 2004

Yn dod i rym

31 Mawrth 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 26(3) o Ddeddf yr Iaith Gymraeg 1993(1) ac sydd yn arferadwy yn rhinwedd Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999(2) i'r graddau maent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru a'r pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 74(2), (4) a (6) a 178(1)o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002(3), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cwmnïau RTM (Memorandwm ac Erthyglau Cymdeithasu) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 31 Mawrth 2004.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i gwmnïau RTM(4)) mewn perthynas â mangreoedd(5) yng Nghymru.

Ffurf a chynnwys memorandwm ac erthyglau cymdeithasu cwmnïau RTM

2.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i femorandwm cymdeithasu cwmni RTM gymryd y ffurf a nodir yn Rhan 1 o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn a chynnwys y darpariaethau sydd ynddi.

(2Yn ddarostyngedig i baragraff (4), rhaid i erthyglau cymdeithasu cwmni RTM gymryd y ffurf a nodir yn Rhan 2 o Atodlen 1 i'r Rheoliadau hyn a chynnwys y darpariaethau sydd ynddi.

(3Yn ddarostyngedig i baragraff (4), mae'r darpariaethau y cyfeirir atynt ym mharagraffau (1) a (2) yn effeithiol ar gyfer cwmni RTM os mabwysiedir hwy gan y Cwmni neu beidio.

(4Pan fydd cwmni RTM yn dymuno cael naill ai ei femorandwm cymdeithasu neu ei erthyglau cymdeithasu, neu'r ddau, yn Gymraeg, rhaid i'r dogfennau hynny gymryd y ffurf a nodir yn Rhannau 1 a 2 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn a chynnwys, yn y drefn honno, y darpariaethau sydd ynddynt.

(5Os digwydd y canlynol—

(a)bod Cwmni RTM wedi mabwysiadu memorandwm cymdeithasu ac erthyglau cymdeithasu cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym; a

(b)nad yw'r memorandwm a'r erthyglau, neu'r naill neu'r llall ohonynt, yn cydymffurfio, o ran cynnwys, â gofynion paragraffau (1) a (2) neu, yn achos dogfennau yn yr iaith Gymraeg, baragraff (4),

ymdrinnir â'r memorandwm a'r erthyglau, wrth ac ar ôl i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, fel pe baent yn cynnwys y darpariaethau hynny a nodir yn yr Atodlenni sy'n ofynnol i sicrhau cydymffurfedd â'r gofynion hynny (boed yn ychwanegol at y cynnwys gwreiddiol neu yn lle'r cynnwys gwreiddiol yn ôl yr amgylchiadau).

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6)

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Mawrth 2004

Rheoliad 2

ATODLEN 1MEMORADWM AC ERTHYGLAU CYMDEITHASU CWMNÏAU RTM

RHAN 1MEMORANDWM CYMDEITHASU

RHAN 2ERTHYGLAU CYMDEITHASU

Rheoliad 2

ATODLEN 2MEMORANDWM AC ERTHYGLAU CYMDEITHASU CWMNÏAU RTM

RHAN 1MEMORANDWM CYMDEITHASU

RHAN 2ERTHYGLAU CYMDEITHASU

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Yn unol â Phennod 1 o Ran 2 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (“Deddf 2002”), caiff cwmni, y cyfeirir ato yn y Bennod honno fel cwmni RTM, gaffael ac arfer hawliau mewn perthynas â rheoli mangreoedd. Mae adran 73(2) o Ddeddf 2002 yn darparu bod cwmni yn gwmni RTM mewn perthynas â mangreoedd os yw'n gwmni preifat wedi'i gyfyngu gan warant a bod ei femorandwm cymdeithasu yn datgan mai ei amcan, neu un o'i amcanion, yw caffael ac arfer yr hawl i reoli'r fangre honno. Mae is-adrannau (3) i (5) o'r adran honno yn disgrifio cwmnïau nad ydynt yn gwmnïau RTM a'r amgylchiadau pan fydd cwmni RTM yn peidio â bod yn gwmni o'r disgrifiad hwnnw.

Mae'r Rheoliadau hyn yn rhagnodi ffurf a chynnwys memorandwm cymdeithasu ac erthyglau cymdeithasu cwmnïau RTM mewn perthynas â mangreoedd yng Nghymru.

Mae'r cynnwys a'r ffurf rhagnodedig yn effeithiol mewn perthynas â chwmnïau RTM p'un ai ydynt yn cael eu mabwysiadu neu beidio.

Mae rheoliad 2 yn darparu mai'r ffurf ar femorandwm cymdeithasu ac erthyglau cymdeithasu cwmni RTM fel y'u nodir yn Atodlen 1 fydd yn effeithiol os mabwysiedir hwy gan y cwmni hwnnw neu beidio. Mae Rheoliad 2 hefyd yn darparu pan fydd cwmni RTM yn dymuno cael naill ai ei femorandwm cymdeithasu neu ei erthyglau cymdeithasu, neu'r ddau, yn Gymraeg, bydd y dogfennau hynny yn y ffurf a nodir yn Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn.

Pan fydd cwmni RTM yn mabwysiadu memorandwm ac erthyglau cyn i'r Rheoliadau hyn ddod i rym, ymdrinnir â'r memorandwm a'r erthyglau fel pe baent yn cynnwys y cyfryw ran ag sy'n angenrheidiol o'r hyn a geir yn Atodlen 1 er mwyn sicrhau bod y dogfennau hynny'n cydymffurfio â'r Rheoliadau.

Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi o'r Gyfarwyddiaeth Dai, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (Ffôn 029 20 823025).

(3)

2002 p.15. I gael y diffiniad o “the appropriate national authority” gweler adran 179(1).

(4)

I gael y diffiniad o “RTM company” gweler adrannau 71(1) a 73 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002.

(5)

I weld pa fangreoedd sy'n berthnasol i gwmnïau RTM, gweler adran 72 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 ac Atodlen 6 iddi.