2004 Rhif 677 (Cy.65)

LANDLORD A THENANT, CYMRU

Gorchymyn Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Taliadau Gwasanaeth, Yswiriant neu Geisiadau am Benodi Rheolwyr) (Dirymu ac Arbed) (Cymru) 2004

Wedi'i wneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 31B o Ddeddf Landlord a Thenant 19851 ac adran 24B o Ddeddf Landlord a Thenant 19872, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a chychwyn1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Taliadau Gwasanaeth, Yswiriant neu Geisiadau am Benodi Rheolwyr) (Dirymu ac Arbed) (Cymru) 2004 a daw i rym ar 31 Mawrth 2004.

Dirymu ac arbed2

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dirymir drwy hyn Orchymyn Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Taliadau Gwasanaeth, Yswiriant neu Geisiadau am Benodi Rheolwyr) 19973 mewn perthynas â Chymru

2

Ni fydd effaith i'r dirymiad ym mharagraff (1) o ran unrhyw gais sy'n cael ei gyflwyno i dribiwnlys prisio lesddaliadau cyn 31 Mawrth 2004 ynglŷn â mangre yng Nghymru.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984

John MarekDirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Taliadau Gwasanaeth, Yswiriant neu Geisiadau am Benodi Rheolwyr) 1997 (“Gorchymyn 1997”) i'r graddau y mae'n effeithiol mewn perthynas â Chymru.

Mae Gorchymyn 1997 yn rhagnodi'r manylion sydd i'w cynnwys mewn —

a

ceisiadau i dribiwnlys o dan —

i

adrannau 19(2A) neu (2B) o Ddeddf Landlord a Thenant 1985;

ii

adran 20C o'r Ddeddf honno;

iii

paragraff 8 o'r Atodlen i'r Ddeddf honno;

iv

adran 22(3) o Ddeddf Landlord a Thenant 1987;

v

adran 24(1) o'r Ddeddf honno; a

vi

adran 24(9) o'r Ddeddf honno;

b

ceisiadau i dribiwnlys am ganiatâd i apelio i'r Tribiwnlys Tiroedd.

Mae Gorchymyn 1997 yn parhau i fod yn gymwys i unrhyw gais sy'n cael ei wneud cyn 31 Mawrth 2004.

Mae Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Gweithdrefn) (Cymru) 2004 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â'r manylion sydd i'w cynnwys gyda cheisiadau penodedig sy'n cael eu cyflwyno i dribiwnlys prisio lesddaliadau ar neu ar ôl 31 Mawrth 2004.

Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi o'r Gyfarwyddiaeth Dai, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (Ffôn 029 20 823025).