Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 677 (Cy.65)

LANDLORD A THENANT, CYMRU

Gorchymyn Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Taliadau Gwasanaeth, Yswiriant neu Geisiadau am Benodi Rheolwyr) (Dirymu ac Arbed) (Cymru) 2004

Wedi'i wneud

9 Mawrth 2004

Yn dod i rym

31 Mawrth 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 31B o Ddeddf Landlord a Thenant 1985(1) ac adran 24B o Ddeddf Landlord a Thenant 1987(2), drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a chychwyn

1.  Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Taliadau Gwasanaeth, Yswiriant neu Geisiadau am Benodi Rheolwyr) (Dirymu ac Arbed) (Cymru) 2004 a daw i rym ar 31 Mawrth 2004.

Dirymu ac arbed

2.—(1Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dirymir drwy hyn Orchymyn Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Taliadau Gwasanaeth, Yswiriant neu Geisiadau am Benodi Rheolwyr) 1997(3) mewn perthynas â Chymru

(2Ni fydd effaith i'r dirymiad ym mharagraff (1) o ran unrhyw gais sy'n cael ei gyflwyno i dribiwnlys prisio lesddaliadau cyn 31 Mawrth 2004 ynglŷn â mangre yng Nghymru.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(4)

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Mawrth 2004

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Taliadau Gwasanaeth, Yswiriant neu Geisiadau am Benodi Rheolwyr) 1997 (“Gorchymyn 1997”) i'r graddau y mae'n effeithiol mewn perthynas â Chymru.

Mae Gorchymyn 1997 yn rhagnodi'r manylion sydd i'w cynnwys mewn —

(a)ceisiadau i dribiwnlys o dan —

(i)adrannau 19(2A) neu (2B) o Ddeddf Landlord a Thenant 1985;

(ii)adran 20C o'r Ddeddf honno;

(iii)paragraff 8 o'r Atodlen i'r Ddeddf honno;

(iv)adran 22(3) o Ddeddf Landlord a Thenant 1987;

(v)adran 24(1) o'r Ddeddf honno; a

(vi)adran 24(9) o'r Ddeddf honno;

(b)ceisiadau i dribiwnlys am ganiatâd i apelio i'r Tribiwnlys Tiroedd.

Mae Gorchymyn 1997 yn parhau i fod yn gymwys i unrhyw gais sy'n cael ei wneud cyn 31 Mawrth 2004.

Mae Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Gweithdrefn) (Cymru) 2004 yn gwneud darpariaeth ynglŷn â'r manylion sydd i'w cynnwys gyda cheisiadau penodedig sy'n cael eu cyflwyno i dribiwnlys prisio lesddaliadau ar neu ar ôl 31 Mawrth 2004.

Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi o'r Gyfarwyddiaeth Dai, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (Ffôn 029 20 823025).

(1)

1985 p.70; cafodd adran 31B ei mewnosod gan adran 83(3) o Ddeddf Tai 1996 (p.52) a'i diddymu gan adran 180 o Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002 (p. 15) (“Deddf 2002”) o 30 Mawrth 2004 ymlaen. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 31B, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 ac Atodlen 1 iddo (O.S. 1999/672) (“Gorchymyn 1999”), y mae diwygiadau iddo nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.

(2)

1987 p.31; cafodd adran 24B ei mewnosod gan adran 86(5) o Ddeddf Tai 1996 (p. 52) a'i diddymu gan adran 180 o Ddeddf 2002 ac Atodlen 14 iddi o 30 Mawrth 2004 ymlaen. Trosglwyddwyd swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o dan adran 24B, i'r graddau yr oeddent yn arferadwy mewn perthynas â Chymru, i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan erthygl 2 o Orchymyn 1999 ac Atodlen 1 iddo. Mae diwygiadau i Orchymyn 1999 nad ydynt yn berthnasol i'r Gorchymyn hwn.