Search Legislation

Rheoliadau Arolygu Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid Cymru 2004

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 679 (Cy.67)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Arolygu Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid Cymru 2004

Wedi'u gwneud

9 Mawrth 2004

Yn dod i rym

1 Awst 2004

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 128(4)(b) a (c) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000(1).

Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli

1.—(1Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Arolygu Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid Cymru 2004 a deuant i rym ar 1 Awst 2004.

(2Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.

(3Yn y Rheoliadau hyn —

ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Dysgu a Medrau 2000;

ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw yn ddydd Sadwrn, Sul, neu yn ŵYl y Banc; ac

ystyr “y Prif Arolygydd” (“the Chief Inspector”) yw Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru(2).

Cynllun gweithredu

2.—(1Rhaid cyhoeddi datganiad o dan adran 128 o Ddeddf 2000 (“cynllun gweithredu”) o fewn cyfnod o 50 diwrnod gwaith (mae hwn yn gymwys p'un ai bod gofyn cyfieithiad a'i pheidio), o'r dyddiad y cyhoeddwyd yr adroddiad priodol o dan drefniadau a wnaed gan y Prif Arolygydd.

(2Rhaid cyhoeddi'r cynllun gweithredu drwy sicrhau ei fod ar gael yn swyddfeydd y person a y gwasanaeth a arolygwyd, i'w archwilio ddarparodd gan aelodau'r cyhoedd ar bob adeg resymol, ac ar unrhyw wefan sydd gan y person hwnnw, sydd yn gysylltiedig a'r gwasanaeth.

(3Rhaid danfon copi o'r cynllun gweithredu yn rhad ac am ddim at bob un o'r canlynol —

(a)y Prif Arolygydd;

(b)Cynulliad Cenedlaethol Cymru;

(c)Cyngor Addysg a Hyfforddiant i Gymru;

(ch)unrhyw gyfundrefnau eraill sydd yn cyfrannu at ddarparu y gwasanaethau cymorth ieuenctid nad oeddent wedi eu cynnwys yn adroddiad gwreiddiol y Prif Arolygydd;

(d)grwpiau o gynrychiolwyr pobl ifanc o fewn yr ardal y mae'r awdurdod lleol yn gyfrifol amdani;

(dd)pob cyngor ysgol o fewn yr ardal y mae'r awdurdod lleol yn gyfrifol amdani; ac

(e)unrhyw bartneriaeth a sefydlwyd gan yr awdurdod lleol i annog, galluogi neu gynorthwyo pobl ifanc (yn uniongyrchol neu yn anuniongyrchol) —

(i)i gymryd rhan mewn addysg neu hyfforddiant,

(ii)i gymryd mantais o gyfleoedd ar gyfer gweithio, neu

(iii)i gymryd rhan yn effeithiol ac yn gyfrifol ym mywyd eu cymunedau.

(4Rhaid hefyd anfon copi o'r cynllun gweithredu (yn rhad ac am ddim) at unrhyw aelod o'r cyhoedd sydd yn gofyn am gopi.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(3).

John Marek

Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

9 Mawrth 2004

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn datgan amserlen gyhoeddi datganiadau o dan adran 128 o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000, a hefyd, at bwy y dylid danfon copi o'r datganiad.

Mae datganiad o dan adran 128 yn ddatganiad o'r weithred sydd yn cael ei chynnig gan yr adnabyddiaeth yr arolygwyd ei gwasanaeth, yn sgíl adroddiad ac yn dilyn arolygiad gan Brif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru. Gall y Prif Arolygydd drefnu cyhoeddi adroddiad o arolygiad wedi arolygu'r ddarpariaeth gwasanaethau cymorth ieuenctid y mae awdurdod lleol wedi ei gyfarwyddo gan y Cynulliad Cenedlaethol i'w ddarparu, ei ddiogelu neu gymryd rhan ynddo.

(2)

Gweler adran 4 o Ddeddf Ymchwiliadau Ysgolion (p.57). Amnewidiwyd y teitl presennol, Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant gan adran 73(1) o Ddeddf Dysgu a Medrau 2000.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources