2004 Rhif 679 (Cy.67)
Rheoliadau Arolygu Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid Cymru 2004
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 128(4)(b) a (c) o Ddeddf Dysgu a Medrau 20001.
Enwi, cychwyn, cymhwyso a dehongli1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Arolygu Gwasanaethau Cymorth Ieuenctid Cymru 2004 a deuant i rym ar 1 Awst 2004.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i Gymru.
3
Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Dysgu a Medrau 2000;
ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw diwrnod nad yw yn ddydd Sadwrn, Sul, neu yn ŵYl y Banc; ac
ystyr “y Prif Arolygydd” (“the Chief Inspector”) yw Prif Arolygydd Ei Mawrhydi dros Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru2.
Cynllun gweithredu2
1
Rhaid cyhoeddi datganiad o dan adran 128 o Ddeddf 2000 (“cynllun gweithredu”) o fewn cyfnod o 50 diwrnod gwaith (mae hwn yn gymwys p'un ai bod gofyn cyfieithiad a'i pheidio), o'r dyddiad y cyhoeddwyd yr adroddiad priodol o dan drefniadau a wnaed gan y Prif Arolygydd.
2
Rhaid cyhoeddi'r cynllun gweithredu drwy sicrhau ei fod ar gael yn swyddfeydd y person a y gwasanaeth a arolygwyd, i'w archwilio ddarparodd gan aelodau'r cyhoedd ar bob adeg resymol, ac ar unrhyw wefan sydd gan y person hwnnw, sydd yn gysylltiedig a'r gwasanaeth.
3
Rhaid danfon copi o'r cynllun gweithredu yn rhad ac am ddim at bob un o'r canlynol —
a
y Prif Arolygydd;
b
Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
c
Cyngor Addysg a Hyfforddiant i Gymru;
ch
unrhyw gyfundrefnau eraill sydd yn cyfrannu at ddarparu y gwasanaethau cymorth ieuenctid nad oeddent wedi eu cynnwys yn adroddiad gwreiddiol y Prif Arolygydd;
d
grwpiau o gynrychiolwyr pobl ifanc o fewn yr ardal y mae'r awdurdod lleol yn gyfrifol amdani;
dd
pob cyngor ysgol o fewn yr ardal y mae'r awdurdod lleol yn gyfrifol amdani; ac
e
unrhyw bartneriaeth a sefydlwyd gan yr awdurdod lleol i annog, galluogi neu gynorthwyo pobl ifanc (yn uniongyrchol neu yn anuniongyrchol) —
i
i gymryd rhan mewn addysg neu hyfforddiant,
ii
i gymryd mantais o gyfleoedd ar gyfer gweithio, neu
iii
i gymryd rhan yn effeithiol ac yn gyfrifol ym mywyd eu cymunedau.
4
Rhaid hefyd anfon copi o'r cynllun gweithredu (yn rhad ac am ddim) at unrhyw aelod o'r cyhoedd sydd yn gofyn am gopi.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19983.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)