2004 Rhif 680 (Cy.68)

LANDLORD A THENANT, CYMRU

Gorchymyn Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Ffioedd) (Dirymu ac Arbed) (Cymru) 2004

Wedi'i wneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 31B o Ddeddf Landlord a Thenant 19851 ac adran 24B o Ddeddf Landlord a Thenant 19872, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi a chychwyn1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Ffioedd) (Dirymu ac Arbed) (Cymru) 2004 a daw i rym ar 31 Mawrth 2004.

Dirymu ac arbed2

1

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dirymir drwy hyn Orchymyn Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Ffioedd) 19973 mewn perthynas â Chymru.

2

Ni fydd effaith i'r dirymiad ym mharagraff (1) o ran unrhyw gais sy'n cael ei wneud, neu achos sy'n cael ei drosglwyddo gan lys sirol, i dribiwnlys prisio lesddaliadau cyn 31 Mawrth 2004 ynglŷn â mangre yng Nghymru.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984

John MarekDirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn dirymu Gorchymyn Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Ffioedd) 1997 (“Gorchymyn 1997”) i'r graddau y mae'n effeithiol ar gyfer Cymru.

Mae Gorchymyn 1997 yn rhagnodi'r ffioedd sy'n daladwy am achos gerbron tribiwnlys prisio lesddaliadau, yn ddarostyngedig i ostyngiadau ac esemptiadau.

Mae Gorchymyn 1997 yn parhau i fod yn gymwys i unrhyw gais sy'n cael ei wneud, neu achos sy'n cael ei drosglwyddo, gan lys sirol i dribiwnlys prisio lesddaliadau cyn 31 Mawrth 2004.

Mae Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Ffioedd) (Cymru) 2004 yn rhagnodi'r ffioedd sy'n daladwy am achos gerbron tribiwnlys prisio lesddaliadau ynglŷn â mangre yng Nghymru, pan fydd y cais yn cael ei wneud, neu'r achos yn cael ei drosglwyddo, ar neu ar ôl 31 Mawrth 2004.

Mae Arfarniad Rheoliadol wedi'i baratoi mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi o'r Gyfarwyddiaeth Dai, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ (Ffôn 029 20 823025).