2004 Rhif 683 (Cy.71)
Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Ffioedd) (Cymru) 2004
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan baragraffau 1 a 9 o Atodlen 12 i Ddeddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 20021, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
Enwi, cychwyn a dehongli1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Ffioedd) (Cymru) 2004.
2
Daw'r Rheoliadau hyn i rym ar 31 Mawrth 2004.
3
Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “achos a drosglwyddwyd” (“transferred proceedings”) yw achos y mae llys wedi'i drosglwyddo i dribiwnlys ei benderfynu;
ystyr “cais” (“application”) yw cais sy'n cael ei wneud i'r tribiwnlys o dan —
- a
adran 20ZA o Ddeddf 1985 (gofynion ymgynghori)2;
- b
adran 27A o Ddeddf 1985 (taliadau am wasanaeth)3);
- c
paragraff 8(2) o'r Atodlen i Ddeddf 1985 (yswirwyr)4);
- ch
adran 24 o Ddeddf 1987 (penodi rheolwyr)5;
- d
Rhan 4 o Ddeddf 1987 (amrywio lesddaliadau);
- dd
paragraff 3 o Atodlen 11 i Ddeddf 2002 (taliadau am weinyddu); neu
- e
paragraff 5 o Atodlen 11 i Ddeddf 2002;
- a
ystyr “cais cynrychioliadol” (“representative application”) yw cais sy'n cael ei drin fel cais cynrychioliadol o dan reoliad 8 o Reoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Gweithdrefn) (Cymru) 20046;
ystyr “ceisydd” (“applicant”) yw —
- a
y person sy'n gwneud cais i dribiwnlys; neu
- b
y person sy'n hawlydd neu'n geisydd mewn achos gerbron llys sy'n cael ei drosglwyddo drwy orchymyn y llys i dribiwnlys;
- a
ystyr “Deddf 1985” (“the 1985 Act”) yw Deddf Landlord a Thenant 19857;
ystyr “Deddf 1987” (“the 1987 Act”) yw Deddf Landlord a Thenant 19878);
ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Cyfunddaliad a Diwygio Cyfraith Lesddaliad 2002;
ystyr “gwrandawiad” (“hearing”) yw gwrandawiad gerbron tribiwnlys i benderfynu un neu ragor o'r canlynol —
- a
cais;
- b
achos a drosglwyddwyd; neu
- c
cais cynrychioliadol,
ond, at ddibenion talu ffi am wrandawiad, nid yw'n cynnwys—
- i
adolygiad cyn treial; neu
- ii
gwrandawiad i ystyried gwrthod cais am ei fod yn wacsaw neu'n flinderus; ac
- a
ystyr “tribiwnlys” (“tribunal”) yw tribiwnlys prisio lesddaliadau.
Cymhwysiad y Rheoliadau2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys —
a
i unrhyw gais sy'n cael ei gyflwyno i dribiwnlys ar neu ar ôl 31 Mawrth 2004;
b
i unrhyw achos sy'n cael ei drosglwyddo o lys i dribiwnlys ar neu ar ôl y dyddiad hwnnw,
mewn perthynas â thir ac adeiladau yng Nghymru.
Ffioedd: ceisiadau3
1
Yn ddarostyngedig i reoliad 8, bydd ffi yn daladwy am gais i dribiwnlys o dan —
a
adran 27A o Ddeddf 1985 (penderfynu atebolrwydd i dalu tâl am wasanaeth);
b
paragraff 8(2)(b) o'r Atodlen i Ddeddf 1985 (hawl i herio'r premiwm yswiriant);
c
paragraff 3 o Atodlen 11 i Ddeddf 2002 (amrywio les oherwydd tâl am weinyddu); ac
ch
paragraff 5 o Atodlen 11 i Ddeddf 2002 (penderfynu atebolrwydd i dalu tâl am weinyddu).
2
Yn ddarostyngedig i baragraff (5), y ffi sy'n daladwy o dan baragraff (1), os yw'r tâl am wasanaeth, y premiwm yswiriant neu'r tâl am weinyddu sy'n destun y cais —
a
heb fod yn fwy na £500, yw £50;
b
yn fwy na £500 ond heb fod yn fwy na £1000, yw £70;
c
yn fwy na £1000 ond heb fod yn fwy na £5000, yw £100;
ch
yn fwy na £5000 ond heb fod yn fwy na £15000, yw £200; a
d
yn fwy na £15000, yw £350.
3
Yn ddarostyngedig i reoliad 8, bydd ffi yn daladwy am gais i dribiwnlys o dan —
a
adran 20ZA o Ddeddf 1985 (penderfyniad i hepgor gofynion ymgynghori);
b
paragraff 8(2)(a) o'r Atodlen i Ddeddf 1985 (penderfynu pa mor addas yw yswiriwr);
c
adran 24 o Ddeddf 1987 (penodi rheolwyr); ac
ch
Rhan 4 o Ddeddf 1987 (amrywio lesddaliadau).
4
Yn ddarostyngedig i baragraff (5), y ffi sy'n daladwy o dan baragraff (3) —
a
os yw'r cais yn ymwneud â phum annedd neu lai, yw £150;
b
os yw'r cais yn ymwneud â rhwng chwech a deg o anheddau, yw £250; ac
c
os yw'r cais yn ymwneud â mwy na deg annedd, yw £350.
5
Os yw cais yn cael ei wneud o dan —
a
dwy neu ragor o'r darpariaethau a grybwyllwyd ym mharagraff (1);
b
dwy neu ragor o'r darpariaethau a grybwyllwyd ym mharagraff (3); neu
c
un neu ragor o'r darpariaethau a grybwyllwyd ym mharagraff (1) ac un neu ragor o'r darpariaethau a grybwyllwyd ym mharagraff (3),
y ffi sy'n daladwy am y cais fydd yr uchaf o'r ffioedd a fyddai wedi bod yn daladwy yn unol â pharagraff (2) neu (4) (yn ôl y digwydd) pe bai cais ar wahân wedi'i wneud o dan bob un o'r darpariaethau hynny.
Ffioedd: ceisiadau a drosglwyddwyd o lys4
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2) a rheoliad 8, os yw llys, drwy orchymyn, yn trosglwyddo i dribiwnlys gymaint o unrhyw achos ag sy'n ymwneud â phenderfynu cwestiwn sy'n dod o dan awdurdodaeth y tribiwnlys yn rhinwedd darpariaeth a grybwyllwyd ym mharagraff (1) neu (3) o reoliad 3, y ffi sy'n daladwy i'r tribiwnlys fydd y ffi a fyddai wedi bod yn daladwy o dan baragraff (2), (4) neu (5) o'r rheoliad hwnnw (yn ôl y digwydd) am gais namyn cyfanswm unrhyw ffioedd a dalwyd gan y ceisydd i'r llys mewn perthynas â'r achos ar ddyddiad y gorchymyn hwnnw neu cyn hynny.
2
Os yw cyfanswm unrhyw ffioedd a dalwyd i'r llys ar neu cyn dyddiad y gorchymyn a grybwyllwyd ym mharagraff (1) yn hafal i'r ffi sy'n daladwy o dan y paragraff hwnnw, neu'n fwy na hi, ni fydd unrhyw ffi yn daladwy i'r tribiwnlys o dan y paragraff hwnnw.
Ffioedd: gwrandawiadau5
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2) a rheoliad 8, bydd ffi o £150 yn daladwy am wrandawiad.
2
Os yw rhan o gais neu achos a drosglwyddwyd yn cael ei benderfynu neu os bydd yn cael ei benderfynu mewn, neu'n unol â, gwrandawiad cais cynrychioliadol a bod rhan i'w phenderfynu mewn gwrandawiad ar wahân, y ffi am y rhan sydd i'w gwrando ar wahân fydd £150 namyn cyfanswm unrhyw ffioedd a dalwyd gan y ceisydd yn unol â rheoliad 7(5) am y rhan honno o'r cais neu'r achos a drosglwyddwyd sydd i'w benderfynu yn y cais cynrychioliadol, neu'n unol ag ef.
Talu ffioedd6
1
Rhaid i unrhyw ffi sy'n daladwy o dan reoliad 3 fynd gyda'r cais.
2
Bydd unrhyw ffi sy'n daladwy o dan reoliad 4 neu 5 yn ddyledus cyn pen 14 diwrnod ar ôl archiad ysgrifenedig am daliad gan y tribiwnlys a rhaid ei hanfon i'r cyfeiriad a bennir yn yr archiad hwnnw.
3
Rhaid i'r ffi gael ei thalu â siec wedi'i gwneud yn daladwy i Gynulliad Cenedlaethol Cymru neu ag archeb bost wedi'i hysgrifennu yn enw Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Rhwymedigaeth i dalu a dosrannu ffioedd7
1
Yn ddarostyngedig i reoliad 8 a'r paragraffau canlynol, bydd y ceisydd yn atebol i dalu unrhyw ffi sy'n daladwy i dribiwnlys o dan y Rheoliadau hyn.
2
Yn ddarostyngedig i baragraff (3), os yw cais yn cael ei wneud neu os yw achos a drosglwyddwyd yn cael ei ddwyn gan fwy nag un person, rhaid dosrannu unrhyw ffi sy'n daladwy o dan reoliad 3 neu 4 am y cais neu'r achos a drosglwyddwyd yn gyfartal rhwng y personau hynny a bydd pob person yn atebol i dalu un gyfran.
3
Os digwydd y canlynol —
a
bod cais yn cael ei wneud neu achos a drosglwyddwyd yn cael ei ddwyn gan denant neu landlord y tir ac adeiladau; a
b
bod y tenant neu'r landlord yn fwy nag un person,
rhaid trin y personau hynny gyda'i gilydd fel un person at ddibenion paragraff (2).
4
Os oes dau gais neu ragor yn cael eu gwrando gyda'i gilydd, ac eithrio ceisiadau sy'n cael eu gwrando gyda chais cynrychioliadol, rhaid dosrannu unrhyw ffi sy'n daladwy o dan reoliad 5 am y gwrandawiad yn gyfartal rhwng y ceisiadau ac, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau paragraffau (2), (3) a (6) a rheoliad 8, bydd y ceisydd ym mhob cais yn atebol i dalu un gyfran.
5
Rhaid dosrannu unrhyw ffi sy'n daladwy o dan reoliad 5 am wrando cais cynrychioliadol ac unrhyw gais a wrandawyd gyda'r cais cynrychioliadol yn gyfartal rhwng —
a
y cais cynrychioliadol;
b
pob cais arall sydd, adeg yr archiad am dalu'r ffi, i'w benderfynu yn gyfan gwbl neu'n rhannol yn unol â'r cais cynrychioliadol; ac
c
unrhyw gais a wrandawyd gyda'r cais cynrychioliadol,
ac, yn ddarostyngedig i ddarpariaethau paragraffau (2), (3) a (6) a rheoliad 8, bydd y ceisydd ym mhob cais yn atebol i dalu un gyfran o'r ffi.
6
Rhaid i'r swm sy'n daladwy gan unrhyw berson mewn perthynas â ffi gael ei gyfrifo yn unol â darpariaethau'r erthygl hon a chan ystyried y personau sy'n geiswyr ar y dyddiad y mae'r cais yn cael ei wneud neu ddyddiad yr archiad am daliad a ddyroddwyd gan y tribiwnlys.
7
Yn y rheoliad hwn, mae “ceisydd” yn cynnwys unrhyw berson y mae ei archiad o dan reoliad 6 o Reoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Gweithdrefn) (Cymru) 2004 am gael ei gyplysu fel parti i'r achos a'i drin fel ceisydd, wedi'i ganiatáu gan y tribiwnlys.
Hepgor a lleihau ffioedd8
1
Ni fydd person yn atebol dros dalu unrhyw ffi sy'n ddyledus o dan y Rheoliadau hyn os ar y dyddiad perthnasol, y mae'r person hwnnw neu bartner y person yn cael —
a
y naill neu'r llall o'r budd-daliadau canlynol o dan Ran 7 o Ddeddf Cyfraniadau a Budd-daliadau Nawdd Cymdeithasol 19929 —
i
cymhorthdal incwm; neu
ii
budd-dal tai;
b
lwfans ceisio gwaith yn seiliedig ar incwm o fewn ystyr “income-based jobseeker’s allowance” yn adran 1 o Ddeddf Ceiswyr Gwaith 199510;
c
credyd treth y mae paragraff (2) yn gymwys iddo;
ch
credyd gwarant o dan Ddeddf Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 200211; neu
d
tystysgrif —
i
sydd wedi'i dyroddi o dan y Cod Cyllido12) ac nad yw wedi'i dirymu na'i chlirio; a
ii
sydd ynglŷn â'r achos gerbron y tribiwnlys y trosglwyddwyd y cyfan neu ran ohono o'r llys sirol i'w benderfynu neu i'w phenderfynu gan dribiwnlys.
2
Mae'r paragraff hwn yn gymwys i gredyd treth gweithio o dan Ran 1 o Ddeddf Credydau Treth 200213, os
a
y mae naill ai —
i
elfen anabledd neu elfen anabledd difrifol (neu'r ddwy) i'r credyd treth a gafwyd gan y person neu bartner y person; neu
ii
y mae'r person neu bartner y person hefyd yn cael credyd treth plant14); a
b
y mae'r incwm blynyddol gros a gymerwyd i ystyriaeth ar gyfer cyfrifo'r credyd treth gwaith yn £14,213 neu lai;
3
Os nad yw person yn atebol i dalu ffi yn rhinwedd paragraff (1), bydd y darpariaethau canlynol yn gymwys —
a
os yw'r ceisydd yn fwy nag un person a bod o leiaf un o'r personau hynny yn atebol i dalu ffi, rhaid i'r ffi gael ei lleihau'n gymesur yn ôl nifer y personau a fyddai wedi bod yn atebol oni bai am baragraff (1); a
b
os yw'r ceisydd yn fwy nag un person a bod o leiaf un person yn atebol i dalu cyfran o ffi yn rhinwedd rheoliad 7(2) i (5), rhaid i'r gyfran honno gael ei lleihau'n gymesur yn ôl nifer y personau a fyddai wedi bod yn atebol oni bai am baragraff (1).
4
Yn y rheoliad hwn —
a
mae “ceisydd” yn cynnwys unrhyw berson, y mae ei archiad o dan reoliad 6 o Reoliadau Tribiwnlysoedd Prisio Lesddaliadau (Gweithdrefn) (Cymru) 2004 i gael ei gyplysu fel parti i'r achos a'i drin fel ceisydd, wedi'i ganiatáu gan y tribiwnlys;
b
ystyr “partner”, mewn perthynas â pherson, yw —
i
priod y person hwnnw;
ii
person o'r rhyw arall sy'n byw gyda'r person hwnnw fel gŵ r neu wraig; a
iii
person o'r un rhyw sy'n byw gyda'r person hwnnw mewn perthynas y mae iddi nodweddion y berthynas rhwng gŵr a gwraig;
c
ystyr “dyddiad perthnasol” yw —
i
yn achos ffi sy'n daladwy o dan reoliad 3, dyddiad y cais;
ii
yn achos ffi sy'n daladwy o dan reoliad 4, dyddiad y gorchymyn llys yn trosglwyddo'r achos i'r tribiwnlys;
iii
yn achos ffi sy'n daladwy o dan reoliad 5, dyddiad yr archiad am daliad.
Ad-dalu ffioedd9
1
Yn ddarostyngedig i baragraff (2), mewn perthynas ag unrhyw achos y mae ffi yn daladwy ar ei gyfer o dan y Rheoliadau hyn, caiff tribiwnlys ei gwneud yn ofynnol i unrhyw barti i'r achos ad-dalu unrhyw barti arall i'r achos am y cyfan neu ran o unrhyw ffioedd a dalwyd ganddo am yr achos.
2
Rhaid i dribiwnlys beidio â'i gwneud yn ofynnol i barti wneud ad-daliad o'r fath os, ar yr adeg y mae'r tribiwnlys yn ystyried a ddylid gwneud hynny neu beidio, y mae'r tribiwnlys wedi'i fodloni bod y parti yn cael unrhyw un o'r budd-daliadau neu'n cael y lwfans neu'n dal y dystysgrif a grybwyllwyd yn rheoliad 8(1).
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 199815
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)