2004 Rhif 699 (Cy.74)
Rheoliadau Diwygio Lesddaliad (Rhyddfreinio ac Estyn) (Diwygio) (Cymru) 2004
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Enwi a chychwyn1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Diwygio Lesddaliad (Rhyddfreinio ac Estyn) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 31 Mawrth 2004.
Cymhwyso2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys yn unig —
a
mewn perthynas â thŷ lesddaliad yng Nghymru3;
b
i achosion lle mae hysbysiad o dan Ran 1 o Ddeddf Diwygio Lesddaliad (hysbysiad tenant o ddymuniad i gael neu i honni bod ganddo hawl i gaffael y rhydd-ddaliad neu les estynedig) ar neu ar ôl y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.
Diwygiadau3
Diwygir Rheoliadau Diwygio Lesddaliad (Rhyddfreinio ac Estyn) 19674 fel a ganlyn—
a
ym mharagraff 2 o Ran 1 o'r Atodlen, ar ôl y geiriau “tenancy and” rhodder “, in a case to which paragraph 2A applies,”;
b
ar ôl y paragraff hwnnw rhodder—
2A
This paragraph applies where—
a
the tenancy in question is a business tenancy; or
b
a flat forming part of the house is let to a person who is a qualifying tenant for the purposes of Chapter 1 or 2 of Part 1 of the Leasehold Reform, Housing and Urban Development Act 1993,
c
ym mharagraff 1 o Ran 2 o'r Atodlen ar ôl y geiriau “tenancy and” rhodder “, in a case to which paragraph 1A applies,”;
d
ar ôl y paragraff hwnnw rhodder—
1A
This paragraph applies where—
a
the tenancy in question is a business tenancy; or
b
a flat forming part of the house is let to a person who is a qualifying tenant for the purposes of Chapter 1 or 2 of Part 1 of the Leasehold Reform, Housing and Urban Development Act 1993.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19985.
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)