Offerynnau Statudol Cymru
GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
Wedi'u gwneud
10 Mawrth 2004
Yn dod i rym
1 Ebrill 2004
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, trwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adrannau 55(3) a 118(6) o Ddeddf Safonau Gofal 2000(1), drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Safonau Gofal 2000 (Ehangu Ystyr “Gweithiwr Gofal Cymdeithasol”) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Ebrill 2004.
2. Yn y rheoliadau hyn—
ystyr “y Cyngor” (“the Council”) yw Cyngor Gofal Cymru;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000;
ystyr “gweithiwr cymdeithasol o dan hyfforddiant” (“student social worker”) yw person sy'n cymryd rhan mewn cwrs a gymeradwywyd gan y Cyngor o dan adran 63 o'r Ddeddf i bersonau sy'n dymuno bod yn weithwyr cymdeithasol.
3.—(1) Mae gweithwyr gofal cymdeithasol o dan hyfforddiant i'w trin fel gweithwyr gofal cymdeithasol at y diben a bennir ym mharagraff (2) o'r rheoliad hwn.
(2) Y diben yw cofrestru gweithwyr gofal cymdeithasol o dan hyfforddiant yn y gofrestr a gedwir gan y Cyngor o dan adran 56(1) o Ddeddf 2000.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(2)
John Marek
Dirprwy Lywydd y Cynulliad Cenedlaethol
10 Mawrth 2004
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu bod gweithwyr cymdeithasol o dan hyfforddiant i'w trin fel gweithwyr gofal cymdeithasol at ddibenion cofrestru gyda Chyngor Gofal Cymru.
2000 p. 14. Rhoddir y pwerau i'r “appropriate Minister” a ddiffinnir gan adran 121(1) o'r Ddeddf fel “the Assembly” mewn perthynas â Chymru. Gweler adran 5(b) o'r Ddeddf am y diffiniad o “the Assembly”.