2004 Rhif 784 (Cy.81)

ADDYSG, CYMRU

Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Diwygio) (Cymru) 2004

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 15(2), 17(2)(a), 21(2)(a) a 45(3) o Ddeddf Arolygu Ysgolion 19961, a pharagraffau 2(2) a 3(1) o Atodlen 4 iddi, ac sydd bellach wedi'u breinio ynddo2.

Enw, cychwyn a chymhwyso1

1

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Diwygio) (Cymru) 2004 a deuant i rym ar 1 Medi 2004.

2

Maent yn gymwys i Gymru yn unig.

Diwygio Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 19982

1

Diwygir Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 19983 fel a ganlyn.

2

Yn rheoliad 7(2) —

a

yn lle'r geiriau “five weeks” rhowch y geiriau “35 working days”, a

b

dilëwch y geiriau “, or, where it is necessary to provide a translation into Welsh or English, the period of seven weeks from that date”.

3

Yn rheoliad 8(1) —

a

yn lle'r gair “forty” rhowch y geiriau “forty five”, a

b

dilëwch y geiriau “, or where it is necessary to provide a translation into Welsh or English, the period of forty five working days from that date”.

4

Yn rheoliad 13(2) —

a

yn lle'r geiriau “five weeks” rhowch y geiriau “35 working days”, a

b

dilëwch y geiriau “or within seven weeks from that date where it is necessary to provide a translation into Welsh or English,”.

5

Yn rheoliad 13(3) —

a

yn lle'r gair “forty” rhowch y geiriau “forty five”, a

b

dilëwch y geiriau “or within forty five working days from that date where it is necessary to provide a translation into Welsh or English,”.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Arolygu Ysgolion) (Cymru) 1998 er mwyn newid y cyfnod y mae'n rhaid cwblhau adroddiad arolygu ynddo i 35 diwrnod gwaith ym mhob achos, a'r cyfnod y mae'n rhaid paratoi cynllun gweithredu ynddo i 45 diwrnod gwaith ym mhob achos.