Offerynnau Statudol Cymru

2004 Rhif 79 (Cy.9)

PRIFFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Cefnffordd Llundain — Abergwaun (A40) (Gwelliant Heol Draw) 2004

Wedi'i wneud

15 Ionawr 2004

Yn dod i rym

19 Chwefror 2004

1.  Daw'r briffordd newydd y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu ei hadeiladu ar hyd y llwybr a ddisgrifir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn gefnffordd o'r dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym.

2.  Dangosir llinell ganol y gefnffordd newydd â llinell ddu drom ar y plan a adneuwyd.

3.  Bydd y darn o'r gefnffordd a ddisgrifir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau rhesog bras ar y plan a adneuwyd yn peidio â bod yn gefnffordd, a chaiff ei ddosbarthu fel ffordd ddosbarthiadol, o'r dyddiad y bydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn hysbysu Cyngor Sir Powys fod gefnffordd newydd ar agor i draffig trwodd.

4.  Yn y Gorchymyn hwn :—

(1Mae pob mesur o bellter wedi'i fesur ar hyd llwybr y briffordd berthnasol;

(2ystyr “y gefnffordd” (“the trunk road”) yw Cefnffordd Llundain — Abergwaun (A40);

ystyr “y gefnffordd newydd” (“the new trunk road”) yw'r briffordd a grybwyllir yn Erthygl 1 o'r Gorchymyn hwn;

ystyr “y plan a adneuwyd” (“the deposited plan”) yw'r plan a rifwyd HA10/2 NAFW 4 ac a farciwyd Gorchymyn Cefnffordd Llundain — Abergwaun (A40) (Gwelliant Heol Draw) 2004 a lofnodwyd drwy awdurdod y Gweinidog dros Ddatbygu Economaidd a Thrafnidiaeth a'i adneuo yn Uned Storio ac Adfer Cofnodion (RSRU) Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Neptune Point, Ocean Way, Caerdydd.

5.  Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 19 Chwefror 2004 a'i enw yw Gorchymyn Cefnffordd Llundain — Abergwaun (A40) (Gwelliant Heol Draw) 2004.

Llofnodwyd ar ran y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth

S C SHOULER

Pennaeth yr Is-adran Gweinyddu Ffyrdd

Llywodraeth Cynulliad Cymru

15 Ionawr 2004