xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

RHAN 5Cyffredinol

Brigiadau clefyd mewn gwladwriaethau eraill

27.—(1Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn dod i wybod neu pan fo ganddo le rhesymol i gredu, naill ai o dan y gweithdrefnau a nodir yn Erthygl 10 o Gyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC( ) neu Erthygl 18 o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/496/EEC, neu drwy unrhyw ddull arall, fod clefyd y cyfeirir ato yn Atodlen 6, milhaint, neu unrhyw glefyd neu ffenomen arall sy'n debyg o fod yn fygythiad difrifol i iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid, yn bresennol mewn unrhyw wladwriaeth arall.

(2O dan yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff (1), caiff y Cynulliad Cenedlaethol, er mwyn atal clefyd rhag cael ei gyflwyno neu ei ledaenu, atal drwy ddatganiad unrhyw anifail neu gynnyrch anifeiliaid rhag dod i mewn i Gymru, neu osod amodau ynglyn â dod â'r anifail neu'r cynnyrch anifeiliaid hwnnw i mewn i Gymru, o'r cyfan neu o unrhyw ran o'r wladwriaeth honno.

(3Mae'r datganiad hwnnw i'w gyhoeddi yn y modd y gwêl y Cynulliad Cenedlaethol yn dda.

(4Pan fo datganiad mewn grym sy'n atal unrhyw anifail neu gynnyrch anifeiliaid rhag dod i mewn, rhaid i berson beidio â dod â'r anifail neu'r cynnyrch anifeiliaid hwnnw i mewn i Gymru os yw wedi'i anfon, neu'n tarddu, o'r wladwriaeth neu o'r rhan ohoni a bennir yn y datganiad.

(5Pan fo datganiad mewn grym sy'n gosod amodau ar ddod ag unrhyw anifail neu gynnyrch anifeiliaid i mewn i Gymru, rhaid i berson beidio â dod â'r anifail neu'r cynnyrch anifeiliaid hwnnw i mewn i Gymru os yw'n tarddu o'r wladwriaeth neu o'r rhan ohoni a bennir yn y datganiad, oni bai bod yr anifail neu'r cynnyrch anifeiliaid yn cydymffurfio â'r amodau a bennir yn y datganiad.

Hysbysu o benderfyniadau

28.  Os bydd y traddodwr neu ei gynrychiolydd, neu'r mewnforiwr neu ei gynrychiolydd, yn gofyn am hynny, rhaid i unrhyw benderfyniad a wneir i wrthod mynediad neu i newid yr amodau ar gyfer mynediad gael ei anfon ymlaen ato mewn ysgrifen gan y person sy'n gwneud y penderfyniad, gan roi'r rhesymau dros y penderfyniad a manylion ei hawl i apelio yn erbyn y penderfyniad, gan gynnwys y terfynau amser perthnasol.

Pwerau arolygwyr

29.—(1Yn ddarostyngedig i reoliad 10, os gofynnir iddo wneud hynny, mae gan arolygydd, ar ôl iddo ddangos rhyw ddogfen sydd wedi'i dilysu'n briodol ac sy'n dangos ei awdurdod, hawl i fynd ar unrhyw dir neu i mewn i unrhyw fangre ar bob adeg resymol i ganfod a yw'r Rheoliadau hyn yn cael eu torri neu wedi'u torri mewn unrhyw ffordd; ac yn y rheoliad hwn mae “mangre” yn cynnwys unrhyw le, gosodiad, cerbyd ffordd neu gerbyd rheilffordd, llong, llestr, cwch, bad, hofranlong neu awyren.

(2Mae gan arolygydd bwerau i wneud yr holl wiriadau ac arolygiadau sy'n angenrheidiol ar gyfer gorfodi Cyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC a Chyfarwyddeb y Cyngor 91/496/EEC, ac yn benodol caiff—

(a)cyflawni arolygiadau o unrhyw brosesau sy'n cael eu defnyddio i farcio a dynodi anifeiliaid, unrhyw fangre ac unrhyw osodiad;

(b)gwirio a yw'r staff yn cydymffurfio â gofynion yr offerynnau yn Rhan I o Atodlen 3 sy'n ymwneud â chynhyrchion anifeiliaid;

(c)cymryd samplau (ac, os yw'n angenrheidiol, anfon samplau i'w profi mewn labordy) o'r canlynol —

(i)anifeiliaid sy'n cael eu cadw gyda golwg ar eu gwerthu, eu rhoi ar y farchnad neu eu cludo;

(ii)cynhyrchion sy'n cael eu cadw gyda golwg ar eu gwerthu, eu rhoi ar y farchnad neu eu cludo;

(iii)anifeiliaid neu gynhyrchion anifeiliaid sy'n cael eu cludo yng nghwrs masnachu ryng-Gymunedol;

(iv)anifeiliaid mewn safle arolygu ar y ffin yn achos mewnforion trydydd gwledydd; neu

(v)anifeiliaid neu gynhyrchion anifeiliaid yn y gyrchfan yn achos mewnforyn o Aelod-wladwriaeth arall;

(ch)archwilio deunydd dogfennol neu ddeunydd prosesu data sy'n berthnasol i'r gwiriadau a wneir o dan y Rheoliadau hyn; a

(d)mynd â chynrychiolydd y Comisiwn Ewropeaidd sy'n gweithredu at ddibenion Cyfarwyddebau'r Cyngor 90/425/EEC neu 91/496/EEC gydag ef.

Adennill treuliau

30.  Mae'r traddodwr, ei gynrychiolydd a'r person sydd â gofal dros unrhyw anifail neu gynnyrch anifeiliaid yn atebol yn unigol ac ar y cyd am unrhyw dreuliau rhesymol sy'n codi o arfer unrhyw bŵer a roddwyd i arolygydd gan y Rheoliadau hyn ac sy'n ymwneud â'r anifeiliaid neu'r cynhyrchion anifeiliaid hynny neu sy'n codi mewn cysylltiad ag arfer unrhyw bwer o'r fath.

Rhwystro

31.  Rhaid i berson beidio —

(a)rhwystro'n fwriadol unrhyw berson sydd, wrth ei waith, yn gweithredu'r Rheoliadau hyn,

(b)heb achos rhesymol, â methu rhoi i unrhyw berson sy'n cymryd camau i weithredu'r Rheoliadau hyn, unrhyw gymorth neu wybodaeth y mae ar y person hwnnw angen rhesymol ei gael neu ei chael oddi wrtho er mwyn i'r person hwnnw gyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn; nac

(c)rhoi i unrhyw berson sy'n cymryd camau i weithredu'r Rheoliadau hyn, unrhyw wybodaeth y mae'r person hwnnw sy'n rhoi'r wybodaeth yn gwybod ei bod yn ffug neu'n gamarweiniol.

Tramgwyddau gan gyrff corfforaethol

32.—(1Os yw corff corfforaethol yn euog o dramgwydd o dan y Rheoliadau hyn, ac os profir bod y tramgwydd wedi'i wneud drwy gydsyniad neu ymoddefiad, neu wedi'i briodoli i unrhyw esgeulustod ar ran —

(a)unrhyw gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog tebyg arall i'r corff corfforaethol, neu

(b)unrhyw berson a oedd yn honni ei fod yn gweithredu yn rhinwedd unrhyw swydd o'r fath,

mae'r person hwnnw, yn ogystal â'r corff corfforaethol, yn euog o'r tramgwydd a bydd yn agored i gael ei erlyn a'i gosbi yn unol â hynny.

(2At ddibenion paragraff (1), ystyr “cyfarwyddwr”, mewn perthynas â chorff corfforaethol y mae ei faterion yn cael eu rheoli gan ei aelodau, yw aelod o'r corff corfforaethol.

Cosbau

33.—(1Mae person sy'n torri unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn, ac eithrio'r darpariaethau a gynhwysir ym mharagraff 6 o Ran I o Atodlen 4 a pharagraff 2 o Ran I o Atodlen 5, neu unrhyw hysbysiad a gyflwynir oddi tanynt yn euog o dramgwydd.

(2Mae person yn euog o dramgwydd o dan reoliad 31(a) neu (b) yn agored o'i gollfarnu'n ddiannod i ddiryw nad yw'n uwch na lefel 5 ar y raddfa safonol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis neu i'r ddau.

(3Bydd person sy'n euog o unrhyw dramgwydd arall o dan y Rheoliadau hyn yn agored —

(a)o'i gollfarnu'n ddiannod, i ddirwy nad yw'n fwy na'r uchafswm statudol neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na thri mis, neu'r ddau;

(b)ar gollfarn ar dditiad, i ddirwy neu i garchariad am gyfnod nad yw'n hwy na dwy flynedd neu i'r ddau.

Datgymhwyso darpariaethau

34.  Nid yw darpariaethau'r ddeddfwriaeth a restrir yn Atodlen 8 yn gymwys i fewnforion o Aelod-wladwriaeth arall o anifeiliaid a chynhyrchion anifeiliaid y mae offeryn yn Rhan I o Atodlen 3 yn gymwys iddynt, nac i fewnforion o anifail y mae offeryn yn Atodlen 7 yn gymwys iddynt o'r wlad sy'n ddarostyngedig i'r offeryn hwnnw, i'r graddau a bennir yng ngholofn 3 o'r tabl a roddir yn Atodlen 8.

Dirymu

35.  Mae'r Rheoliadau canlynol wedi'u dirymu i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru—

(a)Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru a Lloegr) 2000(1);

(b)Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2000(2);

(c)Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Rhif 1) 2000(3);

(ch)Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Rhif 2) 2000(4);

(d)Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Rhif 3) 2000(5);

(dd)Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) 2002(6); ac

(e)Rheoliadau Anifeiliaid a Chynhyrchion Anifeiliaid (Mewnforio ac Allforio) (Cymru a Lloegr) (Diwygio) (Rhif 2) 2002(7).