Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Part
PrintThis
Section
only
Statws
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Dulliau rheoli ôl-fewnforio
23.—(1) Pan fo arolygydd milfeddygol yn gwybod neu'n amau na chydymffurfiwyd â'r amodau mewnforio neu pan fo amheuon ynglyn â manylion adnabod yr anifail, caiff yr arolygydd milfeddygol gyflawni unrhyw wiriadau milfeddygol ar yr anifail hwnnw y mae'n barnu eu bod yn briodol.
(2) Os bydd y gwiriadau yn cadarnhau na chydymffurfiwyd â'r amodau mewnforio, yna bydd darpariaethau rheoliad 21 yn gymwys yn yr un modd ag y maent yn gymwys i safle arolygu ar y ffin ac, os bydd pwer yn cael ei arfer i roi'r anifeiliaid mewn cwarantîn neu i'w hynysu, caiff arolygydd milfeddygol ei gwneud yn ofynnol at hynny i anifeiliaid eraill sydd wedi bod mewn cysylltiad â'r anifeiliaid a fewnforiwyd gael eu rhoi mewn cwarantîn neu gael eu hynysu.
Back to top