Print Options
PrintThe Whole
Instrument
PrintThe Whole
Part
PrintThis
Section
only
Statws
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
Brigiadau clefyd mewn gwladwriaethau eraill
27.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo'r Cynulliad Cenedlaethol yn dod i wybod neu pan fo ganddo le rhesymol i gredu, naill ai o dan y gweithdrefnau a nodir yn Erthygl 10 o Gyfarwyddeb y Cyngor 90/425/EEC( ) neu Erthygl 18 o Gyfarwyddeb y Cyngor 91/496/EEC, neu drwy unrhyw ddull arall, fod clefyd y cyfeirir ato yn Atodlen 6, milhaint, neu unrhyw glefyd neu ffenomen arall sy'n debyg o fod yn fygythiad difrifol i iechyd y cyhoedd neu iechyd anifeiliaid, yn bresennol mewn unrhyw wladwriaeth arall.
(2) O dan yr amgylchiadau a ddisgrifir ym mharagraff (1), caiff y Cynulliad Cenedlaethol, er mwyn atal clefyd rhag cael ei gyflwyno neu ei ledaenu, atal drwy ddatganiad unrhyw anifail neu gynnyrch anifeiliaid rhag dod i mewn i Gymru, neu osod amodau ynglyn â dod â'r anifail neu'r cynnyrch anifeiliaid hwnnw i mewn i Gymru, o'r cyfan neu o unrhyw ran o'r wladwriaeth honno.
(3) Mae'r datganiad hwnnw i'w gyhoeddi yn y modd y gwêl y Cynulliad Cenedlaethol yn dda.
(4) Pan fo datganiad mewn grym sy'n atal unrhyw anifail neu gynnyrch anifeiliaid rhag dod i mewn, rhaid i berson beidio â dod â'r anifail neu'r cynnyrch anifeiliaid hwnnw i mewn i Gymru os yw wedi'i anfon, neu'n tarddu, o'r wladwriaeth neu o'r rhan ohoni a bennir yn y datganiad.
(5) Pan fo datganiad mewn grym sy'n gosod amodau ar ddod ag unrhyw anifail neu gynnyrch anifeiliaid i mewn i Gymru, rhaid i berson beidio â dod â'r anifail neu'r cynnyrch anifeiliaid hwnnw i mewn i Gymru os yw'n tarddu o'r wladwriaeth neu o'r rhan ohoni a bennir yn y datganiad, oni bai bod yr anifail neu'r cynnyrch anifeiliaid yn cydymffurfio â'r amodau a bennir yn y datganiad.
Back to top