Rheoliadau 5(5), 9(4) a 33(1)
ATODLEN 4Y Cynllun Iechyd Dofednod
RHAN IAELODAETH
1. Mae unrhyw gyfeiriad at 'y Gyfarwyddeb' yn y Rhan hon o'r Atodlen hon yn gyfeiriad at Gyfarwyddeb y Cyngor 90/539/EEC (ar amodau iechyd anifeiliaid sy'n llywodraethu'r fasnach ryng-Gymunedol mewn dofednod ac wyau deor, a'u mewnforio o drydydd gwledydd)().
2. Rhaid i'r ffi gofrestru, y mae'r manylion amdani wedi'u nodi yn Rhan 2 o'r Atodlen hon, fynd gyda chais am ganiatâd i sefydliad ddod yn aelod o'r Cynllun Iechyd Dofednod.
3. Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol beidio â chaniatáu i sefydliad ddod yn aelod o'r Cynllun Iechyd Dofednod ac eithrio —
(a)os yw wedi'i fodloni, ar ôl archwiliad gan arolygydd milfeddygol —
(i)bod y sefydliad yn bodloni'r gofynion ynghylch cyfleusterau ym Mhennod II o Atodiad II i'r Gyfarwyddeb; a
(ii)y bydd gweithredydd y sefydliad yn cydymffurfio, ac yn sicrhau bod y sefydliad yn cydymffurfio, â gofynion pwynt 1 ym Mhennod I o Atodiad II i'r Gyfarwyddeb; a
(b)os yw gweithredydd y sefydliad, ac yntau wedi'i hysbysu bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi'i fodloni bod y gofynion yn is-baragraff (a) wedi'u bodloni, wedi talu'r ffi aelodaeth flynyddol, y mae'r manylion amdani wedi'u nodi yn Rhan III o'r Atodlen hon.
4. Rhaid i'r rhaglen arolygu clefydau y cyfeirir ati ym mharagraff (b) o bwynt 1 Pennod I o Atodiad II i'r Gyfarwyddeb gynnwys y mesurau arolygu clefydau a bennir ym Mhennod III o Atodiad II i'r Gyfarwyddeb, ynghyd ag unrhyw ofynion profi ychwanegol y mae arolygydd milfeddygol yn hysbysu sefydliad yn ysgrifenedig eu bod yn ofynion y mae'n credu eu bod yn angenrheidiol i osgoi lledaenu clefydau heintus drwy fasnach ryng-Gymunedol, gan gymryd i ystyriaeth yr amgylchiadau penodol yn y sefydliad hwnnw.
5. Pan gaiff y ffi aelodaeth flynyddol gyntaf, rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol ddyroddi tystysgrif aelodaeth y sefydliad, y mae'n rhaid iddi gynnwys Rhif aelodaeth y sefydliad.
6. Rhaid i weithredydd sefydliad sy'n aelod o'r Cynllun Iechyd Dofednod dalu'r ffi aelodaeth flynyddol bob blwyddyn.
7. Er mwyn sicrhau bod gweithredwyr a'u sefydliadau yn parhau i fodloni'r gofynion ar gyfer aelodaeth o'r Cynllun Iechyd Dofednod, ac yn gyffredinol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r Gyfarwyddeb, rhaid i arolygydd milfeddygol gynnal arolygiad blynyddol o'r sefydliad, ac unrhyw arolygiadau ychwanegol y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn barnu eu bod yn angenrheidiol.
8. Mae'r Cynulliad Cenedlaethol —
(a)yn gorfod atal, dirymu neu adfer aelodaeth yn unol â Phennod IV o Atodiad II i'r Gyfarwyddeb (rhaid darllen cyfeiriadau at 'withdrawal' yn y Bennod honno fel cyfeiriadau at 'revocation' at ddibenion y paragraff hwn);
(b)yn cael atal neu ddirymu aelodaeth—
(i)os yw sefydliad yn torri unrhyw un o'r gofynion ynghylch cyfleusterau ym Mhennod II o Atodiad II i'r Gyfarwyddeb;
(ii)os yw'r gweithredydd neu'r sefydliad yn torri unrhyw un o'r gofynion ym mhwynt 1 o Bennod I o Atodiad II i'r Gyfarwyddeb;
(iii)os yw perchenogaeth neu reolaeth ar sefydliad yn newid; neu
(iv)os nad yw'r gweithredydd wedi talu'r ffi aelodaeth flynyddol.
RHAN IIY FFI GOFRESTRU
1. Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol —
(a)penderfynu'r ffi gofrestru ar sail y gost y gellir ei phriodoli i bob cais am yr eitemau a restrir ym mharagraff 3; a
(b)cyhoeddi'r ffi gofrestru gyfredol ar wefan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig().
2. Bydd y ffi gofrestru yn daladwy i'r Cynulliad Cenedlaethol am bob sefydliad y mae cais yn cael ei wneud ar ei gyfer ac ni fydd modd i'r Cynulliad Cenedlaethol ei had-dalu.
3. Yr eitemau y cyfeirir atynt ym mharagraff 1(a) yw —
(a)cyflogau a ffioedd, ynghyd â thaliadau goramser a chyfraniadau cyflogwyr o ran yswiriant gwladol a blwydd-dal ymddeol —
(i)unrhyw berson sy'n ymwneud yn uniongyrchol â phrosesu ceisiadau am aelodaeth o'r Cynllun Iechyd Dofednod;
(ii)unrhyw berson sy'n ymgymryd â rheoli gwaith prosesu'r ceisiadau hynny; a
(iii)unrhyw arolygydd milfeddygol sy'n cyflawni arolygiad milfeddygol mewn sefydliad sy'n geisydd;
(b)recriwtio a hyfforddi'r staff y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a);
(c)treuliau teithio a mân dreuliau cysylltiedig a dynnwyd wrth brosesu ceisiadau am aelodaeth (gan gynnwys sefydliadau arolygu), ac eithrio pan fyddant wedi'u tynnu gan berson sy'n mynd i'w weithle arferol;
(ch)llety, cyfarpar a gwasanaethau swyddfa i'r staff y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraff (a), gan gynnwys dibrisiant celfi a chyfarpar swyddfa a chostau technoleg gwybodaeth a deunyddiau swyddfa;
(d)dillad amddiffynnol a chyfarpar a ddefnyddiwyd wrth arolygu sefydliadau, a golchi, smwddio, glanhau neu ddiheintio'r dillad amddiffynnol hynny;
(dd)darparu gwasanaethau cyflogres a phersonél mewn cysylltiad â chyflogi'r staff y cyfeirir atynt yn is-baragraff (a); ac
(e)unrhyw fân dreuliau eraill a dynnwyd mewn cysylltiad â phrosesu ceisiadau am aelodaeth o'r Cynllun Iechyd Dofednod.
RHAN IIIY FFI AELODAETH FLYNYDDOL
4. Mae dwy gyfradd ar gyfer y ffi aelodaeth flynyddol; cyfradd uwch sy'n cynnwys costau arolygiad milfeddygol blynyddol gan arolygydd milfeddygol a gyflogir gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, a chyfradd is nad yw'n cynnwys costau arolygiad o'r fath.
5. Mae'r gyfradd is yn daladwy —
(a)y tro cyntaf y mae'r ffi aelodaeth flynyddol yn cael ei thalu (a chostau'r arolygiad milfeddygol blynyddol cyntaf wedi'u cynnwys yn y ffi gofrestru); a
(b)yn y blynyddoedd wedi hynny pan fo gweithredydd y sefydliad wedi dewis bod yr arolygiad yn cael ei gyflawni gan arolygydd milfeddygol nad yw'n cael ei gyflogi gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (ac os felly mae cost yr arolygiad yn daladwy'n uniongyrchol i'r arolygydd gan y gweithredydd).
6. Rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol —
(a)penderfynu'r ddwy gyfradd ar gyfer y ffi aelodaeth flynyddol ar sail y gost y gellir ei phriodoli i bob sefydliad am yr eitemau a restrir ym mharagraff 8; a
(b)cyhoeddi cyfraddau cyfredol y ffi aelodaeth flynyddol ar wefan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig.
7. Bydd y ffi aelodaeth flynyddol yn daladwy i'r Cynulliad Cenedlaethol ar gyfer pob sefydliad ac ni fydd modd i'r Cynulliad Cenedlaethol ei had-dalu.
8. Yr eitemau y cyfeirir atynt ym mharagraff 6(a) yw —
(a)cyflogau a ffioedd, ynghyd â thaliadau goramser a chyfraniadau cyflogwyr o ran yswiriant gwladol a blwydd-dal ymddeol —
(i)unrhyw berson sy'n ymwneud yn uniongyrchol â gweinyddu'r Cynllun Iechyd Dofednod (gan gynnwys cyfathrebu ag aelodau ac ymateb i ymholiadau oddi wrthynt, llunio canllawiau, a threfnu arolygiadau o sefydliadau);
(ii)unrhyw berson sy'n ymgymryd â rheoli gwaith gweinyddu'r Cynllun Iechyd Dofednod;
(iii)unrhyw arolygydd milfeddygol sy'n cael ei gyflogi gan Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ac sy'n cyflawni'r arolygiad milfeddygol blynyddol o sefydliad neu arolygiadau ychwanegol yn ystod y flwyddyn;
(b)recriwtio a hyfforddi'r staff y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraff (a);
(c)treuliau teithio a mân dreuliau cysylltiedig a dynnwyd wrth weinyddu'r Cynllun Iechyd Dofednod (gan gynnwys arolygiadau milfeddygol o sefydliadau), ac eithrio pan fyddant wedi'u tynnu gan berson sy'n mynd i'w weithle arferol;
(ch)llety, cyfarpar a gwasanaethau swyddfa i'r staff y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraff (a), gan gynnwys dibrisiant celfi a chyfarpar swyddfa a chostau technoleg gwybodaeth a deunyddiau swyddfa;
(d)darparu, pan fo'n gymwys, ddillad amddiffynnol a chyfarpar a ddefnyddiwyd i arolygu sefydliadau, a golchi, smwddio, glanhau neu ddiheintio'r dillad amddiffynnol hynny;
(dd)darparu gwasanaethau cyflogres a phersonél mewn cysylltiad â chyflogi'r staff y cyfeiriwyd atynt yn is-baragraff (a); ac
(e)unrhyw fân dreuliau eraill a dynnwyd mewn cysylltiad â gweinyddu'r Cynllun Iechyd Dofednod.